Mae tymor y Nadolig wedi cyrraedd, ac os…
Pellter
4.6km / 2.86milltir
Cyfeirnod grid OS SO009121
Postcode CF48 2HU
Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)
Approximate time
1 awr 30 mun
Gradd tro
(5 = Hardest)
Beth am ymestyn y coesau ar y daith yma ar hyd glannau’r dŵr? Yma gallwch fwynhau’r gwrthgyferbyniad rhwng llonyddwch planhigfa coniffer ar y naill law a’r dŵr agored ar y llaw arall, gyda phaned a rhywbeth i’w fwyta yn y fargen. Taith gerdded gradd 2 yw hon – llwybrau sydd ag wyneb caled neu gadarn ond â rhai rhannau ychydig yn fwy rhydd, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. Mae prinder llefydd i eistedd hefyd.
Uchafbwyntiau
Byddwch yn camu i ganol coedwig conwydd distaw gyda thrwch o fwsogl sy’n rhoi ymdeimlad ffres i’r daith yn union ar ôl i chi groesi’r troad i’r maes parcio a thrwy’r safle picnic. Plannwyd y goedwig yn fuan wedi agor y Gronfa ym 1926 er mwyn atal erydiad y pridd o’r llechweddau i’r dŵr. Ysgogwyd adeiladu’r tair cronfa yng Nghwm Taf Fawr gan ddau haint o golera a phrofiadau torcalonnus trigolion yng Nghaerdydd ar ddiwedd y G19 a dechrau’r G20. Cewch gip ar yr olaf a’r mwyaf o’r tair cronfa rheng y boncyffion coed. Mae golygfeydd godidog yn ymagor o’ch blaen wrth i chi ddynesu at yr argae a cherdded drosti. Y newyddion da yw y gall dyfrgwn, gwyaich mawr copog, hwyaid llygad aur, hwyaid danheddog a chwtieir hefyd fanteisio bellach ar ddŵr glân y gronfa. Oedwch am ennyd i gael mwy o’r hanes gan y garreg gerdd a’r paneli ar hyd y daith.
Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein
Dewch o hyd i ystod unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol