Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
2.5km / 1.55milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO667193
Postcode SA19 6UA

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
° 0' 0" N ° 0' 0" W (DMS)

Time icon

Approximate time
1 awr

3

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Cafe icon
  • Shopping icon
  • Parking icon
  • Disabled parking icon
  • WC icon
  • WC icon

Mae’r daith hon yn cynnig castell a choetir yn un - ac am berl bach o daith wyrddlas yw hi! Ewch allan ar hyd y trac drwy Goed y Castell ac fe gewch eich gwobrwyo â chân yr adar yn llenwi’r lle. Taith gerdded gradd 3 yw hon: Llwybrau â goleddfau hir neu serth, mannau cyfyng, wyneb gwael i’r llwybr a gatiau mochyn neu gamfeydd. Nid oes seddi. Mae’r maes parcio yng Nghastell Carreg Cennen ar agor 9.30am – 6pm pob dydd, ar wahân i Ddydd Nadolig.

Route details

Of interest

Ar ôl ymweld â’r castell sy’n codi’n drawiadol uwchlaw cymylau gwyrdd y canopi o goed, dilynwch y lon drol sy’n mynd yn raddol am i lawr. Ceir cymaint o fywyd gwyllt yn y coetir deri dail digoes hwn fel ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r pryfetach sy’n heidio o amgylch y coed deri yma yn denu llawer o adar yn ystod y dydd ac ystlumod gyda’r hwyr. Efallai hefyd y gwelwch chi goed gwern, coed cyll a choed ynn yn tyfu yng nghanol y coed derw. Nid yw defaid yn pori yma yn y coetir ac fe gaiff y rhedyn ei reoli fel bod modd i goed ifanc gael cyfle i dyfu yn goed aeddfed gan gynnig cartref i’r bywyd gwyllt. Dewiswch yr adeg o’r flwyddyn i ymweld: y gwanwyn a’r haf i fwynhau blodau hardd y coetir a’r hydref ar gyfer y cyfoeth o liwiau efydd.

 

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf