Skip to main content

Saif tref y Fenni lle mae Afon Gefenni yn llifo i Afon Wysg. Caer Rufeinig oedd y dref yn wreiddiol a ddatblygodd erbyn y G12 yn dref farchnad ac mae marchnadoedd wedi eu cynnal yn rheolaidd yno byth oddi ar hynny. Mae’r Fenni yn borth o gyfeiriad y dwyrain i Gymru ac i’r Parc Cenedlaethol, mae’n dref arbennig o ddeniadol, wedi ei hamgylchynu bron yn llwyr gan fryniau gwyrddlas.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws a thrên: www.travelinecymru.co.uk
Cyfeirnod grid AO: Explorer Map OL13 neu Landranger Map 161 – SO299142
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

Castell ac Amgueddfa Y Fenni
Ewch am dro hamddenol ar hyd Dolydd y Castell
Siopa mewn siopau annibynnol neu siopau cadwyn cyfarwydd
Ymuno â Thaith Dyffryn Wysg a’i dilyn i’r naill gyfeiriad neu’r llall
Cerddwch ran gyntaf (neu olaf) Ffordd y Bannau
Gŵyl Fwyd Y Fenni
Gŵyl Feicio Y Fenni

Rhagor o wybodaeth
Canolfan Groeso a Chanolfan Parc Cenedlaethol Y Fenni

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf