Skip to main content

‘Y dref fach hyfrytaf i mi aros ynddi’ oedd geiriau’r awdur a’r teithiwr George Borrow ym 1854, a’r man cychwyn hwn sy’n gwneud Llanymddyfri yn ddelfrydol i grwydro rhannau gorllewinol y Parc Cenedlaethol gan gynnwys y Mynydd Du.
 
Bu’r hen dref farchnad hon a thref y porthmyn hefyd a’r ardal o’i chwmpas yn gartref i lu o gymeriadau diddorol. Yn eu plith Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri ym 1401 gan Harri IV am gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr, a’r emynydd mawr o’r G18 William Williams, Pantycelyn sef awdur yr emyn Arglwydd, arwain drwy’r anialwch (“Guide me oh thou Great Jehovah” cyf. Peter Williams) ynghyd â channoedd o emynau eraill. Roedd y porthmyn a roddodd yr enw i dîm rygbi’r dref hefyd yn gymeriadau a hanner wrth iddyn nhw basio drwy’r dref yn rheolaidd gyda’u hanifeiliaid.
 
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws a thrên: www.travelinecymru.co.uk
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

Ymweld ag Amgueddfa Llanymddyfri a’r Porth Ymwelwyr, Y Gannwyll, i ddarganfod mwy am hanes y dref a’r ardal;
Crwydrwch y strydoedd i edmygu pensaernïaeth arbennig y dref a ddylanwadwyd yn fawr gan y porthmyn a’u busnes yno;
Dringwch i ben y twmpath i weld Castell Llanymddyfri
Oedwch i gael lluniaeth yn un o’r bwytai neu prynwch rywbeth yn un o’r siopau crefft neu nwyddau lleol i fynd nôl gyda chi;
Ewch i edmygu’r cerflun mawr dur gloyw o’r arwr lleol, Llywelyn ap Gruffydd Fychan;
Seiclwch ar hyd llwybr beicio dros y Bannau
Dringwch y mwnt i weld adfeilion y castell ac edmygu’r olygfa o’r dref a’r afon, Afon Brân, oddi yno;
Ewch i nofio ym Mhwll Nofio Llanymddyfri;
Dewch yma ym mis Medi i fwynhau Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri.
Ewch ar y trên o Lanymddyfri ar hyd Rheilffordd Calon Cymru – pam ddim cyfuno taith gerdded a siwrne trên trwy rhai o barthau cefn gwlad odidocaf Cymru?

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf