Skip to main content

Dau bentref gwledig yn cynnig profiad agos atoch o’r gorau sydd gan y Bannau gwledig i’w gynnig i chi.
Mae pentref Llangors ar lan Llyn Syfaddan yng nghanol y rhan arbennig hon o’r Parc gyda phentref Bwlch 8 milltir i ffwrdd yn gweithredu fel porth i’r ardal. Fel nifer o’r pentrefi bach sy’n britho’r ardal ger y llyn, mae i’r ddau bentref yma lwyth o gymeriad.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

Llogi cwch rhwyfo, caiac, canŵ Canada, pedalo, Padl-fwrdd neu gwch pysgota a mynd i forio ar ddyfroedd Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru.
Ewch i gael golwg ar yr ail-gread o Grannog hynafol – annedd yng nghanol y llyn – a adeiladwyd yn wreiddiol yn ystod yr Oesoedd Tywyll fel palas i Brychan, brenin Brycheiniog.
Ewch ar gefn beic neu gerdded ar hyd unrhyw un o’r plethwaith o lonydd gwledig sy’n croesi’r ardal:
Ewch i wylio adar y dŵr yng nghuddfan adar unigryw Llangasty Tal-y-llyn.
Gallwch brynu bwyd a diod yn y siopau yn y Bwlch neu yn Siop Fferm y Bannau a Chanolfan Cig Carw Cymru.
Mae cyfoeth o hanes yn eich disgwyl os ewch i ymweld ag unrhyw un o’r eglwysi yn Llan-gors, Llanfihangel Tal-y-llyn a Llangasty Tal-y-llyn.
Cofiwch alw yn un o’r tafarndai hyfryd i flasu’r bywyd lleol yn ogystal â bwyd a diod.
Rhowch gynnig ar unrhyw un o’r llu gweithgareddau sydd ar gael yng Nghanolfan Amlweithgaredd Llangors.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf