Skip to main content

CASTELL LLANYMDDYFRI

Yn sefyll yn dalog uwchben y cymer rhwng Afon Brân ac Afon Gwydderig yn Nyffryn Tywi, mae’n siŵr y byddai’r castell hwn wedi bod yn olygfa hynod drawiadol yn ei oes aur yn y 12fed a’r 13eg ganrif.
Wrth fentro i un o’r cestyll gorau yng ngorllewin y Parc Cenedlaethol, cewch olygfa gwerth chweil o gopa’r bryncyn creigiog sy’n edrych dros Afon Brân. Byddwch yn deall sut cafodd castell fel un Llanymddyfri ei ddefnyddio fel gwystl rhwng y milwyr Normanaidd/Seisnig a lluoedd y Cymry, ac yn destun gwrthdaro hefyd rhwng yr arglwyddi Cymreig a oedd am hawlio’u grym – a rhai ohonynt yn frodyr.
Sut i gyrraedd yno
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: Map Explorer OL12 neu Fap Landranger 160 – SO767342
P gyferbyn, gan gynnwys llefydd i ddeiliaid bathodyn anabl
Bws:     https://www.cymraeg.traveline.cymru/
Ar agor: Mynediad am ddim gydol y flwyddyn.
Cyfleusterau … yn y dref
Hygyrchedd: mae llethrau go serth a grisiau i gopa tomen y castell, ond gallwch weld yr adfeilion yn hawdd o’r maes parcio cyfagos.
Pethau i’w gweld a’u gwneud

y tŵr siâp D rhyfeddol a’r geudy (tŷ bach) y llawr cyntaf ;
olion porthdy dau dŵr;
sylfeini (wedi’u gorchuddio gan laswellt) adeiladau domestig fel y neuadd neu’r lle tân cegin o fewn y beili;
cael syniad o sut newidiodd y castell ddwylo, dan amgylchiadau treisgar – o’r adeiladwr gwreiddiol, Richard Fitz Pons y Normaniad, i Gruffydd ap Rhys  – ac yn ôl a mlaen wedyn cyn syrthio i ddwylo Edward I ym 1277, a phrofi rhagor o frwydro ffyrnig ddechrau’r 1400au pan ymosodwyd ar y castell gan Owain Glyndŵr.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf