Skip to main content

CASTELL A LLYS TRETŴR

Gan hoelio sylw teithwyr rhwng Crucywel a Thalgarth, mae’r olion rhyfeddol yn gwarchod y porth deheuol i Ddyffryn Rhiangoll.
Dewch i ymgolli’n llwyr ym mywyd y Gymru ganoloesol, trwy ymweld ag un o’r cestyll gorau a’r tai canoloesol mwyaf cain yng Nghymru. Roedd y castell hynod gywrain, gyda’i waith maen addurnol, yn gadarnle amddiffynnol a chartref gwych ar un adeg cyn dyddiau’r Llys.
Sut i gyrraedd yno
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: OL12 SO184213
Bws – 400 metr o droad Tretŵr oddi ar yr A40   X43   www.traveline.cymru
 
Oriau agor
1 Ebrill – 3 Tachwedd:             Bob dydd 10am – 5pm
4 Tachwedd – 31 Mawrth:      Dydd Iau – Dydd Sadwrn 10am – 4pm
Ar gau Dydd Sul – Dydd Mercher
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr
Tâl mynediad amrywiol. Am ddim i blant dan 5 oed.
Cyfleusterau
Hygyrchedd: Llawr gwastad yn bennaf, er y gall y fynedfa goblog fod yn anaddas i gadeiriau olwyn a phramiau o bosib. Mae mynedfa ochr ar gael ar gais – cysylltwch i drefnu hyn neu am ragor o wybodaeth.
Pethau i’w gweld a’u gwneud

Gweld y tŵr trillawr hynod o’r 13eg ganrif a roddodd ei enw i’r pentref;
Edmygu sut mae chwaeth ac arddulliau’r adeiladau mawreddog a adeiladwyd i frolio cyfoeth a statws, wedi newid dros amser;
Camu i lys canoloesol, a theimlo’r wefr o fod yn un o’r gwesteion breintiedig;
Gweld bwrdd wedi’i osod ar gyfer gwledd ganoloesol fawreddog;
Crwydro drwy rannau dwyreiniol coeth y llys, y porthdy a’r cilborth, sy’n dyddio o’r 14eg a’r 15fed ganrif;
Mynd am dro heibio’r rhosod gwyn peraidd mewn gardd wedi’i hailgreu yn null y 15fed ganrif;
Mwynhau un o’n digwyddiadau niferus.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf