Skip to main content

Yn hynod o dwt wrth droed Crug Hywel, bryngaer drawiadol o gyfnod yr Oes Haearn, saif y dref Sioraidd hardd hon.
Mae sawl ffordd yn arwain at Grucywel, neu ‘Crick’ fel y caiff ei hadnabod gan lawer o’r trigolion, am fod y dref wedi ei chodi ar un o’r mannau croesi hanesyddol dros Afon Wysg, lle erbyn heddiw y saif pont mewn cyflwr da sy’n dyddio o’r G17. Mae rhyw steil arbennig yn perthyn i’r lle hwn a bydd y rhan fwyaf sy’n pasio yn cael eu denu i oedi ar eu taith. Serch hynny, mae’r dref yn gyrchfan y mae’n werth mynd iddi’n unswydd ac yn fan cychwyn gwych i ddarganfod y Mynyddoedd Duon a’r cyffiniau.
Sut i gyrraedd yno
Edrychwch ar sut i gyrraedd yma am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y Parc Cenedlaethol.
Bws: www.travelinecymru.co.uk
Cyfeirnod grid AO: Explorer Map OL13          SO 2179 1842
Pethau i’w gweld a’u gwneud yno

Siopa, bwyta, crwydro ac edmygu ‘Stryd Fawr Orau Gwledydd Prydain’ 2018
Galw i weld olion y castell o’r G13
Ymestyn y coesau i gopa Crug Hywel, neu ‘Table Mountain’ i rai
Ymuno â Ffordd y Bannau i’r naill gyfeiriad neu’r llall neu gerdded ar hyd Afon Wysg
Gŵyl Gerdded Grucywel
Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Rhagor o wybodaeth
Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crucywel, Beaufort Street, Crucywel, Powys, NP8 1BN. Ffôn: 01873 811970

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf