Skip to main content

Coronafeirws (COVID-19)

Coronafeirws (COVID-19)

DIWEDDARU 12.03.2021

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru heddiw, hoffwn eich atgoffa fod pawb yng Nghymru’n dal mewn cyfnod clo ac y dylech ‘Aros yn Lleol’. Rydym ni, fel y Prif Weinidog, yn dibynnu ar ‘barodrwydd pobl Cymru i wneud y peth iawn’ ac yn diolch i chi am ddal i wneud hynny.

Yn unol â chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru ac wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru newid o Aros Gartref i Aros yn Lleol, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu’r rhestr o leoedd ar gau a wnaed ym mis Ionawr.

Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rydym wedi derbyn cyfraniadau oddi wrth ein partneriaid allweddol, gan gynnwys Fforwm Gwytnwch Lleol Dyfed Powys, a bydd mynediad i ganolbarth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ail agor o ddydd Sadwrn 13 Mawrth.

Rydym yn gweithio i ail agor maes parcio Parc Gwledig Craig y Nos o 10am ar ddydd Llun 15 Mawrth.  Mae’n rhaid i ni gynnal ychydig o waith er mwyn sicrhau y bydd ein ein hymwelwyr lleol yn gallu dal ati i fwynhau ein parc gwledig ddiogel unwaith eto. Ond cofiwch na fydd unrhyw doiledau, gwasanaeth arlwyo nac unrhyw wasanaethau eraill ar gael yng Nghraig y Nos ar ôl i’r maes parcio agor.

Yn ogystal, oherwydd bod y gwaith adeiladu’n dal ati yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ni fydd toiledau ar gael yno ar hyn o bryd.

Byddwn yn defnyddio staff Cyfarfod a Chyfarch i gefnogi’n Wardeiniaid a’n staff Gwybodaeth.

Cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol, Aros yn Lleol a, Chyda’n Gilydd, byddwn yn #DiogeluCymru.

DIWEDDARU 27.01.2021

COVID19 – cau llwybrau troed a meysydd parcio Canol y Bannau

Er bod Cymru yn dal yn y cyfnod clo, daeth yn amlwg fod rhai pobl yn dal i barcio yn y mannau mwyaf poblogaidd yn y Parc Cenedlaethol, gan dorri rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn eu rhoi nhw eu hunain a chymunedau gwledig bregus y Parc mewn perygl.

Felly, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, wedi cau ardaloedd o’r Parc Cenedlaethol sy'n boblogaidd gydag ymwelwr ac a allai fod lle mae’r coronafeirws mewn perygl o gael ei drosglwyddo.

Drwy gau ardaloedd fel hyn, mae’r Awdurdod yn cydymffurfio â “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020” Mae rhestr o’r ardaloedd sy’n cael eu heffeithio ar waelod y dudalen.

Meddai Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog "Ar ôl cytuno â Llywodraeth Cymru, Heddlu Dyfed Powys, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys, rydyn ni wedi cau dwy ardal o dir o boptu’r A470 trwy Ganol y Bannau.  Ni ddylai pobl fod yn defnyddio eu ceir i fwynhau cerdded yng nghefn gwlad ac mae canllawiau Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref.

Meddai’r Prif Uwch Arolygydd o Heddlu Dyfed Powys: “Mae wedi bod yn siomedig i swyddogion sydd ar batrol yn ardal Canol y Bannau, rydyn ni gweld achlysuron lle'r oedd yna gannoedd o gerbydau wedi parcio.  Yn ystod cyfnod y Nadolig, roedd swyddogion yn atgoffa pobl o’u cyfrifoldeb i gadw at gyfyngiadau teithio hanfodol cyfnod clo Llywodraeth Cymru - roedd rhai wedi teithio o mor bell â Swydd Herts a Cheltenham.

“Mae rhybuddion cosb benodol wedi’u cyflwyno, ac yn dal i gael eu cyflwyno, am y toriadau haerllug hynny pan nad oes modd trafod.  Ond rydyn ni’n dal i weld pobl yn dod yn ôl i’r ardal.  Rydyn ni’n deall fod hwn yn gyfnod anodd iawn a bod pobl yn cael eu temtio i ddod yma, ond mae yna reswm da iawn dros y cyfyngiadau.  Rydyn ni’n llwyr gefogi’r penderfyniad ac o'r farn ei bod yn synhwyrol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol gau rhai ardaloedd yn y Parc ar hyn o bryd oherwydd y risgiau.”

Fe hoffen ni ddiolch i drigolion ac ymwelwyr am eu hamynedd a'u cefnogaeth ac am ddal i barchu'r cyfyngiadau yng Nghymru. Bydd yn werth disgwyl nes ei bod yn ddiogel i ddod yn ôl i’r tirweddau sy’n cael eu gwarchod – yn ddiogel i gymunedau lleol, ymwelwyr a staff.

Ardaloedd a safleoedd sydd ar gau

Bannau Canolog
Mae’r ardaloedd hynny o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn y Bannau Canolog gan gynnwys Pen y Fan, Corn Du, Cribyn, Waun Lysiog, Twyn Mwyalchod, Graig Fan Ddu, Gwaun Taf, Gwaun Perfedd, Cefn Crew, Tyle Brith, Pen Milan, Y Gyrn, Cefn Cwm Llwch, Allt Ddu a Bryn Teg a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny ar gau.

Fforest Fawr Dwyreiniol
Mae’r ardaloedd hynny o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn ac yn gyfagos at Ddwyrain Y Fforest Fawr gan gynnwys Fan Fawr, Rhos Dringarth, Fan Dringarth, Fan Llia, Waun Llywarch, Ton Teg, Waun Tincer a Mynydd y Garn a phob llwybr troed a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny ar gau.

Ffordd y Bannau
Mae Ffordd y Bannau lle mae yn croesi unrhyw rhai o’r ardaloedd uchod ar gau.

Safleoedd arall sydd ar gau
Meysydd parcio coedwig Taf Fechan yn Neuadd (SO03768,16960) a Cwmyfedwen (SO04235,16399)
Maes parcio Pont-ar Dâf oddiar yr A470 (SN98689,19989)
Maes parcio Storey Arms oddiar yr A470 (SN98369,19915)
Pob culfan rhwng cyffordd yr A470 â’r A4059 (SN99008,18166) ac i gyfeiriad y gogledd hyd at, ac yn cynnwys, y gufan i’r gogledd orllewin o Storey Arms (SN97750,20377).

Ardaloedd a safleoedd sydd ar gau

Bannau Canolog
Mae’r ardaloedd hynny o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn y Bannau Canolog gan gynnwys Pen y Fan, Corn Du, Cribyn, Waun Lysiog, Twyn Mwyalchod, Graig Fan Ddu, Gwaun Taf, Gwaun Perfedd, Cefn Crew, Tyle Brith, Pen Milan, Y Gyrn, Cefn Cwm Llwch, Allt Ddu a Bryn Teg a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny ar gau.

Fforest Fawr Dwyreiniol
Mae’r ardaloedd hynny o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn ac yn gyfagos at Ddwyrain Y Fforest Fawr gan gynnwys Fan Fawr, Rhos Dringarth, Fan Dringarth, Fan Llia, Waun Llywarch, Ton Teg, Waun Tincer a Mynydd y Garn a phob llwybr troed a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny ar gau.

Ffordd y Bannau
Mae Ffordd y Bannau lle mae yn croesi unrhyw rhai o’r ardaloedd uchod ar gau.

Safleoedd arall sydd ar gau
Meysydd parcio coedwig Taf Fechan yn Neuadd (SO03768,16960) a Cwmyfedwen (SO04235,16399)
Maes parcio Pont-ar Dâf oddiar yr A470 (SN98689,19989)
Maes parcio Storey Arms oddiar yr A470 (SN98369,19915)
Pob culfan rhwng cyffordd yr A470 â’r A4059 (SN99008,18166) ac i gyfeiriad y gogledd hyd at, ac yn cynnwys, y gufan i’r gogledd orllewin o Storey Arms (SN97750,20377).
Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol Libanus, caffi, toiledau a siop
Parc Gwledig Craig y Nos – caffi, siopau, toiledau a’r maes parcio.
Cwm Porth, maes parcio a'r toiledau.
Canolfan Groeso'r Fenni

Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn i chi:

  • aros adref
  • cyfarfod â dim ond â phobl sy’n byw gyda chi
  • Gweithio o adref os gallwch chi
  • Gwisgo mwgwd yn ôl y gofyn
  • Golchi eich dwylo’n rheolaidd
  • Aros 2 fetr o bellter oddi wrth bobl nad ydyn nhw’n byw gyda chi

Mae Cymru gyfan mewn cyfnod clo (lefel 4). Beth ddylech chi ei wneud ar lefel rhybudd 4.

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn galw ar y cyhoedd i ddilyn canllawiau

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru ’yn galw ar y cyhoedd i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru dros wyliau’r Nadolig ac i ddangos amynedd parhaus trwy aros adref ac aros yn ddiogel.

Tra bod Cymru yn parhau i fod dan glo, mae’n amlwg bod rhai pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio ymweld â mannau harddwch poblogaidd y Parc Cenedlaethol, gan roi eu hunain a chymunedau gwledig bregus y Parc mewn mwy o berygl.

Mae Awdurdodau’r Parciau yn atgoffa holl drigolion y DU i gofio bod Cymru ar glo gyda dim ond teithio hanfodol yn cael ei ganiatáu, felly ni all pobl yrru i ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro:

“Nid oes amheuaeth bod y rhain yn amseroedd heriol ond mae ein holl ddiogelwch yn dibynnu ar bobl yn parchu’r rheolau ac yn gwneud y peth iawn. Ar hyn o bryd mae hyn yn golygu aros gartref i gadw’n ddiogel a gwneud ymarfer corff o’n stepen drws yn unig. Os na, mae pryder gwirioneddol y bydd ein gwasanaethau iechyd gwledig yn wynebu pwysau cynyddol ac ni fydd mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

“Rydym yn deall y rôl hanfodol y mae ein Parciau Cenedlaethol wedi’i chwarae eleni wrth gefnogi iechyd a lles pobl, a faint mae pobl wedi elwa o fynediad i’r awyr agored. Daw’r amser eto pan allwn i gyd fwynhau harddwch ac amrywiaeth ein Parciau, ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl pan fydd yr amser hwnnw’n iawn ac mae’n ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau.”

Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau’r Parc Cenedlaethol i’w gweld yma: Eryri: www.eryri.llyw.cymru/coronavirus Bannau Brycheiniog: https://www.beacons-npa.gov.uk/ Sir Benfro: www.pembrokeshirecoast.wales

DIWEDD

Nodiadau i’r golygyddion

1. Gall y cyhoedd roi gwybod am unrhyw faterion trwy gysylltu â:

· Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: enquiries@beacons-npa.gov.uk

· Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: info@pembrokeshirecoast.org.uk

· Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: parc@eryri.llyw.cymru

2. Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â:

· Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: cyfathrebu@beacons-npa.gov.uk

· Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro: mariee@pembrokeshirecoast.org.uk · Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: cyfathrebu@eryri.llyw.cymru

DIWEDDARU 20.12.2020

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, bydd Cymru’n symud i rybudd lefel pedwar ar 20 Rhagfyr 2020 i geisio adennill rheolaeth ar Coronafeirws.  Golyga hyn y byddwn yn sefydlu mesurau a fydd yn cyfyngu ar bawb.

Gallwn gadarnhau na fyddwn ni’n cau unrhyw lwybr troed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, er diogelwch ein staff, gwirfoddolwyr a'n hymwelwyr, bydd y mannau canlynol ar bellach wedi cau:

  • Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol Libanus, caffi, toiledau a siop
  • Parc Gwledig Craig y Nos – caffi, siopau, toiledau a’r maes parcio.
  • Cwm Porth, maes parcio a'r toiledau.
  • Canolfan Groeso'r Fenni

Byddwn yn adolygu hyn yn unol â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru.

Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, dylid ymarfer corff gartref, ni chaniateir gyrru cerbyd i ymarfer corff.

Wrth ymarfer, cofiwch barchu pellter cymdeithasol, cadw at drefn gadarn o hylendid dwylo, cadw cŵn ar dennyn a dilyn y Côd Cefn Gwlad.

Mae gwybodaeth bellach ar https://gov.wales/coronavirus-regulations-guidance

Cofiwch aros gartref, cadwch yn ddiogel

DIWEDDARU 18.12.2020

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru, bydd Cymru’n symud i rybudd lefel pedwar ar 28 Rhagfyr 2020 i geisio adennill rheolaeth ar Coronafeirws.  Golyga hyn y byddwn yn sefydlu mesurau a fydd yn cyfyngu ar bawb.

Gallwn gadarnhau na fyddwn ni’n cau unrhyw lwybr troed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, er diogelwch ein staff, gwirfoddolwyr a'n hymwelwyr, bydd y mannau canlynol ar gau o 4pm 24 Rhagfyr 2020:

  • Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol Libanus, caffi, toiledau a siop
  • Parc Gwledig Craig y Nos – caffi, siopau, toiledau a’r maes parcio.
  • Cwm Porth, maes parcio a'r toiledau.
  • Canolfan Groeso'r Fenni

Byddwn yn adolygu hyn yn unol â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru.

Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, dylid ymarfer corff gartref, ni chaniateir gyrru cerbyd i ymarfer corff.

Wrth ymarfer, cofiwch barchu pellter cymdeithasol, cadw at drefn gadarn o hylendid dwylo, cadw cŵn ar dennyn a dilyn y Côd Cefn Gwlad.

Mae gwybodaeth bellach ar https://gov.wales/coronavirus-regulations-guidance

Cofiwch aros gartref, cadwch yn ddiogel

DIWEDDARU 21.10. 20

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, bydd cyfnod clo byr, caled, yn cael ei osod ar bob rhan o Gymru ar ddiwedd yr wythnos hon i helpu i gael y coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd gwahanol rwystrau’n cael eu gosod ar weithgareddau pawb o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd.

Gallwn gadarnhau na fyddwn ni’n cau unrhyw lwybr troed ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, er diogelwch ein staff, gwirfoddolwyr a'n hymwelwyr, bydd y mannau canlynol ar gau:

· Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus - caffi, toiledau a’r siop.

· Parc Gwledig Craig y nos – caffi, siopau, toiledau a’r maes parcio.

· Cwm Porth, maes parcio a'r toiledau.

Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, dylid ymarfer corff gartref, ni chaniateir gyrru cerbyd i ymarfer corff.

Wrth ymarfer, cofiwch barchu pellter cymdeithasol, cadw at drefn gadarn o hylendid dwylo, cadw cŵn ar dennyn a dilyn y Côd Cefn Gwlad.

Mae cwestiynau cyffredin a gwybodaeth bellach ar https://gov.wales/coronavirus-firebreak-frequently-asked-questions.

Cofiwch #Aros gartref #cadwch yn saff.

DIWEDDARU 06.07.2020

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener bod y cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru’n cael eu codi, rydyn ni wedi ail agor y mannau mynediad a’r llwybrau cyhoeddus oedd wedi cau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig i ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond fe hoffen ni ofyn i ymwelwyr gofio am gais y Prif Weinidog i ymweld â Chymru’n ddiogel.   “Rydyn ni’n gofyn i chi gynllunio’ch taith.  Er bod y llwybrau cyhoeddus a’r mannau parcio ar agor, mae llawer o’r cyfleusterau sy’n gysylltiedig â nhw’n dal ar gau.  Cofiwch, os ydych chi’n teimlo fod gormod o bobl yno, mae yna ormod o bobl yno. Byddwch â chynllun ‘B’ yn barod ar gyfer eich taith.”

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn yn benodol i chi “Fod yn garedig wrth drigolion lleol ac wrth eich cyd ymwelwyr trwy barcio’n ystyriol, peidio â gadael dim ar eich ôl a dilyn y côd cefn gwlad newydd.”

Meddai Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian Atkins “Rydyn ni’n gwybod cymaint o hiraeth oedd gan bawb am Fannau Brycheiniog ac am fwynhau ein Parc Cenedlaethol.  Gyda’n cymunedau, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ymweld â Chymru’n ddiogel.  Cofiwch barchu’r bobl, amddiffyn yr amgylchedd naturiol a mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel.”

DIWEDDARU 24.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiadau gan Brif Weinidog Cymru ddydd Gwener 19 Mehefin 2020, mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol ar agor erbyn hyn ac yn ddiogel ar gyfer defnydd lleol (o fewn 5 milltir o’ch cartref). Mae’r safleoedd sy’n dal ar gau, wedi’u cau i gadw pobl yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i’w hail agor yn  unol ag arweiniad ac amserlen Llywodraeth Cymru. Mae’r sector mynediad i’r cefn gwlad hefyd yn defnyddio arweiniad pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru:  http://sciencesearch.defra.gov.uk/Default.aspx?Menu=Menu&Module=More&Location=None&Completed=0&ProjectID=18909

Y safleoedd sydd dal ar gau yw:

  • Canol y Bannau gan gynnwys Pen y Fan a’r meysydd parcio yn: Craig-y-Fro, Canolfan y Bannau, Pont ar Daf, Blaen y Glyn Uchaf a’r Neuadd
  • Gwlad y Sgydau a’r holl feysydd parcio cysylltiedig
  • Llyn y Fan Fach a’i faes parcio cysylltiedig
  • Fan Fawr, Fan Frynich, Craig Cerrig Gleisiad a Dwyrain y Fforest Fawr
  • Castell Carreg Cennen a’r coetir
  • Parc Gwledig Craig-y-nos.
  • Cuddfan adar Llangasty (cofiwch: mae’r llwybr troed ar hyd y llyn ar agor)
  • Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Chomin Mynydd Illtud
  • Canolfan Ymwelwyr Garwnant
  • Maes parcio Fforest Cwm Giedd
  • Meysydd parcio Grwyne Fawr yng nghoedwig y  Mynydd Du (Mynyddoedd Duon yn nwyrain y Parc)

Cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Cadwch yn Sâff a Chyda’n Gilydd byddwn yn #DiogeluCymru.

DIWEDDARU 19.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw am fwriad Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau teithio ar 6 Gorffennaf (os yw'r amodau'n caniatáu), byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i adolygu'r rhestr gau gyfredol i baratoi ar gyfer cyhoeddiad ar 6 Gorffennaf, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Am y tro, Arhoswch yn lleol a #ddiogelwchCymru

DIWEDDARU 09.06.2020

Yn unol â chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mewn ymateb i ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch ymarfer corff a theithio o fewn 5 milltir o’ch cartref, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu’r rhestr a wnaeth fis Mawrth o’r mannau sydd wedi cau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (2020).  Wrth gynnal yr adolygiad, rydym wedi derbyn sylwadau gan yr Heddlu ac wedi cyfarfod â’n partneriaid allweddol i ddod i ddeall eu safbwyntiau.  Bydd rhestr wedi’i diweddaru o’r mannau sydd wedi cau ar ein gwefan ddydd Mawrth 9 Mehefin.  Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol yn dal ar agor i chi eu cerdded yn lleol, o ddrws eich tŷ.  Byddwn yn dal i adolygu’r newidiadau bychan hyn i’r cyfyngiadau clo rhag ofn y bydd yna gymaint o bobl yn heidio ar rai safleoedd nes cynyddu’r risg o drosglwyddo Covid-19.  Golyga cyfyngiadau symud Covid-19 bod y Parc Cenedlaethol yn dal ar gau i ymwelwyr a bod y safleoedd a’r adnoddau mwyaf poblogaidd hefyd yn dal ar gau.  Arhoswch yn Lleol #DiogeluCymru

DIWEDDARU 03.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 29 Mai bod cyfyngiadau symud penodol yng Nghymru yn cael eu llacio ychydig ac ar ôl ystyried arweiniad penodol i’r sector gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Awdurdod wedi bod yn adolygu sut y dylid symud ymlaen.   Rydym ni’n defnyddio canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru i gynllunio sut i symud trwy gyfnodau’r system goleuadau traffig i lacio’r cyfyngiadau, mae hynny’n ein galluogi i weithredu yn y ffordd orau a mwyaf cyson posibl.  Ein blaenoriaeth bennaf un oedd, ac yw, amddiffyn pobl, ein cymunedau lleol a’r gwasanaethau iechyd.

Yn ystod yr wythnos nesaf fe fyddwn yn:

·        Gorffen ein hadolygiad o’r safleoedd hynny yn y Parc Cenedlaethol sydd ar gau ar hyn o bryd yn unol â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (2020).

·        Byddwn yn cyfarfod gyda phartneriaid i gydlynu a chytuno ar ail-agor rhai safleoedd yn unol â system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru

·       Paratoi i ail agor rhai ardaloedd yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 8 Mehefin gyda chytundeb partneriaid (mae diweddariadau ar https://www.bannaubrycheiniog.org/coronavirus-covid-19-2/tir-mynediad-llwybrau-cyhoeddus-ar-gau/).

·        Cychwyn ar y broses y mae angen ei dilyn i baratoi ar gyfer ail agor, yn y man, y meysydd parcio a’r toiledau ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys cynnal profion legionella a gosod systemau diogelwch tra’n disgwyl am adolygiad Llywodraeth Cymru ar 18 Mehefin.

Rydym wedi bod, ac yn dal, i weithio y tu ôl i’r llenni gyda phartneriaid ar lefel genedlaethol a lleol i gydlynu ein gwaith ar gyfer ail agor. Ein hegwyddor arweiniol yw y dylid osgoi cynyddu’r risg i iechyd cyhoeddus a fyddai’n codi pe byddai llawer iawn o bobl yn heidio i’r mannau prydferth ac effaith hynny ar gymunedau lleol.

Mae’n rhaid i rai o’r safleoedd mwyaf poblogaidd, yn enwedig Pen y Fan, Gwlad y Sgydau a Llyn y Fan Fach, aros ar gau ar hyn o bryd ond rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid i gynllunio’r gwaith mawr sydd ei angen i baratoi i adael pobl yn ôl yn ddiogel i’r mannau hyn, yn unol â system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru.

Rydym ni hefyd, gyda’n partneriaid, yn ystyried newidiadau arloesol i’r ffordd yr ydym yn rheoli ymwelwyr yn y mannau mwyaf poblogaidd, er budd yr amgylchedd a chymunedau a busnesau lleol.

Rydym ni’n cynnal y prosesau hyn er mwyn cadw ein cymunedau lleol, staff ac ymwelwyr yn ddiogel ac er budd iechyd cyhoeddus wrth i Gymru ymateb i’r pandemig byd-eang.   Meddai’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Fe hoffen ni ddiolch i drigolion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u cefnogaeth ac am ddal i barchu’r cyfyngiadau yng Nghymru.  Bydd yn werth disgwyl nes ei bod yn ddiogel i ddod yn ôl i’r tirweddau sy’n cael eu gwarchod – yn ddiogel i gymunedau lleol, ymwelwyr a staff.”

DIWEDDARU 29.05.2020

Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog heddiw, fe hoffen ni atgoffa pawb fod Cymru’n dal o dan glo dros y penwythnos sydd o’n blaen ac mai dim ond teithio hanfodol sy’n cael ei ganiatáu.  Rydym ni, fel y Prif Weinidog, yn dibynnu ar ‘barodrwydd pobl Cymru i wneud y peth iawn’ ac yn diolch i chi am ddal i wneud hynny.   Ar hyn o bryd, mae’r holl fannau sydd mor boblogaidd gydag ymwelwyr wedi cau a hefyd y meysydd parcio a’r toiledau ond mae’r rhan fwyaf o’n llwybrau cyhoeddus yn dal ar agor i chi ymarfer corff yn syth o’ch cartref.  Mae rhestr lawr o’r mannau sydd wedi cau yma: https://www.bannaubrycheiniog.org/coronavirus-covid-19-2/tir-mynediad-llwybrau-cyhoeddus-ar-gau

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer llacio’r cyfnod clo drwy ddilyn system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru a hefyd ein cyfrifoldebau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd 2020. Pan fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei bod yn bryd llacio ymhellach, bydd yn rhaid i ni gael ychydig o amser weithredu unrhyw newidiadau a diweddaru’r arwyddion ar y ddaear.  Rydym ni’n amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 7-10 diwrnod ar ôl unrhyw gyhoeddiad gan y Llywodraeth i wneud y newidiadau; rydym ni’n gofyn i chi fod yn amyneddgar er mwyn i ni allu cadw ein trigolion, ein hymwelwyr a’n staff yn ddiogel, eto’n dal i allu ymarfer corff.

DIWEDDARU 22.05.2020

Datganiad ar y cyd gan Barciau Cenedlaethol Cymru

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn galw am barhad mewn amynedd wrth ofni penwythnos Gŵyl y Banc prysur.

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am gadw at ganllawiau’r llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf, ac maent yn galw ar bobl i barhau i fod yn amyneddgar ac i aros adref i aros yn ddiogel.

Tra bod Cymru’n parhau i fod wedi llwyrgloi, mae pryderon yn cynyddu y bydd pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio cael mynediad i ardaloedd poblogaidd y Parciau Cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc, gan roi cymunedau gwledig bregus y Parciau mewn mwy o berygl.

Mae Awdurdodau’r Parciau am atgoffa holl drigolion y DU bod Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac mai dim ond teithiau hanfodol a ganiateir yma, ac felly ni all pobl yrru er mwyn ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydym wedi gweld bod negeseuon clir Llywodraeth Cymru yn cyrraedd llawr gwlad, a bod pobl ar y cyfan yn aros adref er mwyn aros yn ddiogel, a dim ond yn mynd allan i ymarfer o’u stepen drws, er y bu rhai eithriadau i hynny.”

“Mae Parciau Cenedlaethol yn ddibynnol ar ein heconomïau twristiaeth, ond yn ystod yr amseroedd digynsail yma rydym yn dweud wrth bobl am aros adref er mwyn aros yn ddiogel, ac i ymweld yn nes ymlaen. Os nad ydynt yn gwneud hynny, yna mae gwir bryder y bydd mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd ac na fydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael ei dilyn.”

Yn y cyfamser, meddai’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cynrychioli ardal sy’n ffinio â Lloegr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r gwahaniaeth rhwng y rheoliadau yn Lloegr a Chymru wedi peri heriau yn lleol. Mae ein cymunedau yn gweithio’n galed er mwyn gofalu am ei gilydd ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n cadw at reolau Cymru ac yn diogelu ein cymunedau gwledig bregus.”

Meddai Mr. Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn deall bod pobl yn methu Parciau Cenedlaethol Cymru ac efallai’n cael eu temtio i ddod yma, ond gofynnwn i chi beidio. Mae’n gyfnod argyfyngus i’n cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yma yng ngogledd Cymru gan mai dim ond yn awr yr ydym yn cyrraedd y brig mewn achosion o Covid-19. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl pan fydd yn ddiogel, yn ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau”.

Dan reoliadau Llywodraeth Cymru, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi cau nifer o safleoedd, yn cynnwys Llwybr yr Arfordir ym Mhenfro, Yr Wyddfa yn Eryri a Phen Y Fan ym Mannau Brycheiniog. Mae’r safleoedd hyn ac eraill wedi eu cau gan y’u hystyrir fel rhai sy’n codi’r perygl o ran trosgludo firws Covid-19.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn annog pobl i barhau i barchu’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac i aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

DIWEDDARU 15.05.2020

Cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru https://llyw.cymru/coronafeirws

Fe wyddom fod yna beth dryswch ynghylch cau’r Parciau Cenedlaethol. Mae hyn yn argyfwng cenedlaethol. Efallai, nad yw’r bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, fel y Parc Cenedlaethol, yn teimlo cymaint ar bwysau’r argyfwng cenedlaethol, ond mae llawer mwy o achosion wedi’u cadarnhau yn ne Cymru. Gallai llacio’r cyfyngiadau symud, felly, arwain at gynyddu’r gyfran heintio yn y Parc oherwydd, gynted ag y byddai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio, byddai pobl yn dechrau symud a fyddwn ni ddim yn gallu eu rhwystro na rhwystro’r cynnydd yn y risg a fyddai’n dilyn o heintio trigolion y parc. Yn amlwg, mae rhai pobl yn bryderus ynghylch effaith y cyfyngiadau symud ar eu defnydd o gefn gwlad ond, byddai trigolion eraill sy’n fodlon gyda’r cyfyngiadau yr un mor bryderus pe byddai’r rhain yn cael eu codi ger lle maen nhw’n byw, er efallai nad ydyn nhw mor llafar ynghylch hynny ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Ychydig o dan 235 cilometr (12%) o’r rhwydwaith Llwybrau Cyhoeddus yn y Parc sydd wedi’u cau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac mae’r rhain wedi’u cyfyngu i’r llwybrau hynny sydd o fewn neu’n arwain at fannau sy’n denu llawer o bobl ac ardaloedd lle gallai ymwelwyr heidio a chynyddu lledaeniad y feirws. Mae’r rhan fwyaf o’r Llwybrau Cyhoeddus yn y Parc yn dal ar agor ac wedi bod ar agor i bobl leol ers cychwyn y cyfyngiadau symud. Mae croeso i drigolion ganfod ble maen nhw yn eu hardal. Mae holl diroedd comin trefol y Parc yn dal ar agor (Mynydd Llangatwg, Mynydd Llangynidr a Phen y Crug) a hefyd y rhan fwyaf o’r safleodd coedwigoedd mynediad agored sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy i Aberhonddu. Felly, os yw’r safleoedd hyn a’r Llwybrau Cyhoeddus o fewn cyrraedd cerdded i gartref rhywun, maen nhw ar gael i ymarfer corff. Wrth gwrs, dyletswydd unigolion yw cadw’r pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau hylendid personol.

Rydyn ni’n adolygu cau’r llwybrau bob wythnos ac, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ein casgliadau hyd yma yw: byddai newid yn creu dryswch, yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws ac yn peri pryder yn y gymuned.

Mae rhestr o’r mannau sydd ar gau ar gael yma – https://www.bannaubrycheiniog.org/…/tir-mynediad-llwybrau-…/
ac mae ein rhesymeg lawn yma https://www.bannaubrycheiniog.org/corona…/rhesymeg-dros-gau/

DIWEDDARU 12.05.2020

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi neges glir i barchu Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru sy’n atgyfnerthu’r angen i bobl Cymru aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol hefyd yn galw ar holl drigolion y DU i barchu’r rheolau a’r mesurau sy’n bodoli yng Nghymru er mwyn gwarchod pawb, ac yr wythnos hon byddant yn ymdrechu’n galed gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn derbyn yr wybodaeth gywir.

Wrth gyfeirio at y canllawiau diwygiedig, meddai Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae’r mesurau clir a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford ddydd Gwener yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n byw yng Nghymru yn ogystal â’r rhai hynny sy’n bwriadu teithio dros y ffin i Gymru.”

“Mae Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac fe ddylech aros adref oni bai eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau hanfodol. Golyga hyn hefyd na ddylech yrru i fynd allan i ymarfer corff, ac mai dim ond yn uniongyrchol o’ch cartref y dylech chi fynd allan i ymarfer, tra hefyd yn cadw at y Côd Cefn Gwlad.”

“I’r rhai hynny nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded mae’r neges gennym ni yn glir – peidiwch ag ymweld â Pharciau Cenedlaethol Cymru nes bydd canllawiau Llywodraeth Cymru i osgoi teithio diangen yng Nghymru wedi ei godi.”

“Rydym yn deall bod y cyfyngiadau hyn yn anodd i bobl, ond y brif flaenoriaeth yw cadw ein trigolion, ymwelwyr a staff yn ddiogel. Edrychwn ymlaen at yr amser y cawn eich croesawu’n ôl i Barciau Cenedlaethol Cymru, ac yn bwysicaf oll, ein bod yn gwneud hynny pan allwn gadw pawb yn ddiogel.”

Bydd lleoliadau gwledig mwyaf poblogaidd Cymru, yn cynnwys Yr Wyddfa, Pen y Fan a Llwybr Arfordir Penfro, yn parhau i fod ar gau trwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel i’w hail-agor.

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na gaiff pobl yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw – a bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau.

“Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopaon a safleoedd poblogaidd eraill i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, i aros adref ac i ymarfer corff yn eu hardal leol – peidiwch â gwneud siwrnai ddiangen. Byddwn yn parhau i adolygu’r safleoedd caeedig yn wythnosol a dim ond yn agor safleoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Meddai Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae ymarfer yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i lesiant corfforol a meddyliol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny yn eu mân ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth ddydd Gwener sydd bellach yn caniatáu pobl i ymarfer corff o’u stepen drws mwy nag unwaith y dydd.

“Gobeithiwn ein bod wedi egluro’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac fe hoffem ddiolch i chi am aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y safleoedd sydd wedi cau yn ogystal â newidiadau i wasanaethau’r Parciau Cenedlaethol yma:

Eryri: www.eryri.llyw.cymru/coronavirus
Bannau Brycheiniog:  https://www.beacons-npa.gov.uk
Arfordir Penfro: www.pembrokeshirecoast.wales

DIWEDDARU 09.04.2020

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, rydym am i bawb wneud un peth pwysig. Aros gartref ac achub bywydau.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ddydd a nos i ofalu am bobl a’u cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, bob dydd.

Rhaid i ninnau barhau i wneud popeth y gallwn i’w cefnogi nhw; i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac i achub bywydau.

Arhoswch gartref a helpwch i atal y feirws.

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn hawdd. Diolch i chi am gadw at y rheolau. Er bod ambell arwydd positif cychwynnol, mae gennym ffordd bell i fynd eto. Rydym yn gwybod bod aros gartref am gyfnodau hir yn anodd, a bod teuluoedd ledled Cymru’n gwneud aberth bob dydd.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yr hyn sydd raid. Ond mae’n rhwystredig iawn gweld rhai pobl yn anwybyddu’r rheolau a rhoi bywydau eraill mewn perygl.

Rydym yn gweithredu i rwystro hyn. Mae’r rheolau yno i’ch diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau. I’r rhan fwyaf o bobl, salwch ysgafn fydd y coronafeirws yn ei achosi, ond gall nifer fawr o bobl eraill - plant, oedolion, henoed - fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal yr haint.

Yn drist iawn, mae llawer o bobl eisoes wedi marw ar ôl dal y coronafeirws. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi colli rhywun i’r salwch hwn. Os na wnawn ni weithredu nawr, bydd mwy o bobl yn marw.

Bydd ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ni dros benwythnos y Pasg a’r wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio ar ein cenedl am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn erfyn arnoch – arhoswch gartref i achub bywydau.

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru
Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru
Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Carl Foulkes, Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru
Mark Collins Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed-Powys
Matt Jukes Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Pam Kelly Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent
Andrew Morgan WLGA Leader, on behalf of all Welsh Local Authorities
Arfon Jones, Police and Crime Commissioner for North Wales
Dafydd Llywelyn, Police and Crime Commissioner for Dyfed-Powys
Alun Michael, Police and Crime Commissioner for South Wales
Jeff Cuthbert, Police and Crime Commissioner for Gwent
Jason Killens, Chief Executive, Welsh Ambulance Services NHS Trust
Ruth Marks, Wales Council for Voluntary Action Chief Executive
Simon Smith, Chief Fire Officer North Wales Fire and Rescue Service
Chris Davies, Chief Fire Officer Mid and West Wales Fire and Rescue Service
Huw Jakeway, Chief Fire Officer South Wales Fire and Rescue Service
Julian Atkins, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Tegryn Jones, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Emyr Williams, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

DIWEDDARU 03.04.2020

Rhesymeg dros Gau mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Mewn ymateb i ymholiadau y mae'r Awdurdod yn eu cael ynghylch y penderfyniad a gyflwynwyd i gau lleoliadau fel rhan o'r ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael â lledaeniad Coronafeirws, mae'r datganiad hwn yn ceisio esbonio'r rhesymeg dros gau.

Rydym wedi ceisio cau'r lleoliadau (copaon mynyddoedd, cribau, rhannau prydferth o'r Parc) sy'n denu ymwelwyr ynghyd â'r prif ffyrdd o gael mynediad i'r lleoliadau hyn, yn ogystal â'r prif feysydd parcio sy'n eu gwasanaethu. Y nod yw cyfleu'r neges ein bod ar gau i ymwelwyr ac na ddylai pobl fod yn defnyddio'u ceir i fwynhau taith gerdded yng nghefn gwlad. Er bod yr un rhesymeg wedi'i defnyddio ym mhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru, mae ei gweithredu ar lawr gwlad yn wahanol oherwydd ein daearyddiaeth wahanol. Ym Mannau Brycheiniog, mae’r ardaloedd sydd ar gau yn eithaf mawr oherwydd bod llawer ohonynt hefyd yn dir comin a thir mynediad CGHT.  Nid yw’n hawdd rheoleiddio neu gyfyngu mynediad i rai rhannau ac nid eraill oherwydd eu natur agored iawn (ni allwn ffensio rhannau rhag mynediad er enghraifft).  Ni allwn ychwaith wahaniaethu'n hawdd rhwng trigolion lleol ac ymwelwyr na rhagweld y galw mewn lleoliadau penodol ar ddiwrnodau penodol.

Mae'r rhan fwyaf o rwydwaith Hawliau Tramwy’r iseldir yn dal ar agor i'w ddefnyddio’n lleol, a hyd yma nid yw hyn yn arwain at broblemau o ran tagfeydd neu bobl yn osgoi'r rheol dau fetr. Yn wir, mae’n ymddangos bod y trigolion yn addasu'n dda i ddefnyddio llwybrau na fyddent fel arfer yn eu defnyddio. Mae'r dull hwn yn gwbl gyson â'r sylwadau answyddogol ond synhwyrol gan y Llywodraeth bod taith gerdded o tuag awr o garreg eich drws bob dydd yn ymarfer corff rhesymol a digonol i'r rhan fwyaf o bobl.  Mae'n rhaid i bob un ohonom gwtogi ein gweithgareddau hamdden arferol a dylem i gyd fod yn gwneud ein rhan i gefnogi'r cyfyngiadau ar symud sydd mewn grym.

Amcan y Llywodraeth yw atal lledaeniad y feirws o gartref i gartref, ac ar hyn o bryd rydym o'r farn ei bod yn rhy gynnar i ystyried llacio'r mesurau sydd bellach mewn grym o ran cau lleoliadau.  Yn sgil y rheoliadau diwygiedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ac o ystyried y canllawiau clir gan Glandŵr Cymru, rydym wedi cadw Llwybr Tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn agored ar gyfer defnydd cyfyngedig yn unig.

Rydym yn asesu'r mesurau cau bob wythnos ond yn bwriadu eu hadolygu'n ffurfiol ar y pwynt adolygu cyntaf (Ebrill 15) mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Byddem yn croesawu sylwadau gan drigolion lleol ynghylch unrhyw anawsterau penodol y mae'r mesurau cau presennol yn eu hachosi o ran gallu gwneud ymarfer corff rhesymol bob dydd o'r cartref.

Fel Awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n gyfrifol am hyrwyddo gwarchod a mwynhau ein tirwedd ddynodedig, nid ydym wedi penderfynu cau ein hardaloedd heb ystyriaeth ofalus. Mae hyn wedi bod yn destun proses adolygu fewnol ar draws yr Awdurdod a rhoddwyd ystyriaeth briodol i'r rheoliadau a'u hamcanion.

Wrth sefydlu'r rhesymeg hon, rydym yn gorfod ystyried y canlynol:

  • Mae'r sefyllfa'n ddifrifol ac mae nifer y marwolaethau sy'n cael eu cofnodi'n ddyddiol yn y DU yn parhau i godi ar raddfa frawychus. Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig rheoleiddio lleoliadau lle gallai pobl fynd i wneud ymarfer corff.
  • Mae'r wyddoniaeth sy'n sail i'r canllawiau yn datblygu'n barhaus (ceir tystiolaeth bellach, er enghraifft, nad yw cadw pellter cymdeithasol o 2m yn ddigon o bosibl).
  • Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i'w chyflawni mewn argyfwng cenedlaethol.
  • Yr angen i gadw'r rhan fwyaf o'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ar gyfer defnydd hanfodol gan drigolion lleol.
  • Mae'n rhaid i ni gydbwyso galwadau i lacio'r mesurau cau â galwadau am gyfyngiadau tynnach.
  • Rhaid ystyried bod teithio mewn cerbydau i wneud ymarfer corff yn fath o deithio nad yw'n hanfodol.
  • Fel arfer, ceir mynediad i ardaloedd ucheldirol drwy yrru i fan cychwyn yng nghefn gwlad o leoliadau naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r Parc Cenedlaethol ac mae'r mannau parcio hyn yn debygol o arwain at gynulliadau o fwy na dau berson, ac ni ellir rheoli hyn heb gau lleoliadau.
  • Rydym yn ystyried buddiannau cymunedau lleol yn gyffredinol oherwydd y cymunedau lleol sy'n cael eu peryglu gan bobl yn ymweld â'r ardaloedd mwyaf poblogaidd.
  • Mae caffis, tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden ac ati ar gau a derbyniwyd y penderfyniad i wneud hyn. Nid oes gwahaniaeth rhwng hyn a mynediad i gefn gwlad.
  • Mae'r Parc yma i bawb ac mae'n cael ei reoli ar ran pawb.
  • Ein canfyddiadau hyd yn hyn yw bod y rheoliadau’n gweithio; mae'r mannau poblogaidd yn dawel. Ychydig iawn o bobl sydd yn unman ar y Gamlas, sy'n parhau i fod ar agor, neu o gwmpas Aberhonddu, er enghraifft (yr ardal fwyaf poblog).  Mae'r canfyddiadau hyn yn ogystal ag adborth gan y gymuned yn dangos bod pobl yn gallu addasu.

DIWEDDARU 27.03.2020

Ardaloedd ar gau, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Tir mynediad/llwybrau cyhoeddus ar gau drwy weithred Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

BB-1  Bannau Canolog

Pob ardal o dir mynediad, o fewn y Bannau Canolog gan gynnwys Pen y Fan, Corn Du, Cribyn, Fan y Bîg, Waun Rydd, Allt Lwyd, Torpantau, Pant y Creigiau, Bryniau Gleision, Cefn yr Ystrad, Cefn Cil-Sanws, Garn Ddu, Cefn Car, Waun Wen, Waun Lysiog, Twyn Mwyalchod, Graig Fan Ddu, Gwaun Taf, Gwaun Perfedd, Cefn Crew, Tyle Brith, Pen Milan, Y Gyrn, Cefn Cwm Llwch, Bryn Teg, Cefn Cyff a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny. Yn ychwanegol, maes parcio Storey Arms

BB-2  Bro Y Sgydau (Pontneddfechan, Ystradfellte a Phenderyn)

Pob ardal o dir mynediad ym Mro y Sgydau a phob llwybr troed a llwybr march ar dir mynediad. Yn ychwanegol llwybr troed rhif 17 yn dechrau o Benderyn (SN94481,08918) ac yn arwain at Sgwd yr Eira, llwybr march rhif 32 yn dechrau o Graig y Ddinas (SN91569,08079), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o bwynt i’r gogledd o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91819,10763), llwybr troed rhif 84 yn dechrau o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91878,10566), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o faes parcio Cwm Porth (SN92825,12370) a llwybr troed rhif 18 yn dechrau o’r A4059 ger Pant-Garw (SN94432,09959)52506657ic

BB-3  Y Mynyddoedd Duon, Dwyrain

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Penybegwn a Ffynnon y Parc ac yn ymestyn i’r de ar hyd Crib Hatterrall ac yn cynnwys Bryn Hatterrall a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-4  Y Mynyddoedd Duon - Canol

Pob ardal o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddodd Duon gan gynnwys Waun Fach, Pen y Manllwyn, Y Grib, Rhos Dirion, Twmpa, Waun Croes Hywel, Darren Lwyd, Gadair Fawr, Mynydd Llysiau, Pen Twyn Glas, Pen Allt-mawr, Pen Cerrig-calch, Pen Twyn Mawr, Pen Garreg, Crug Mawr, Blaen yr Henbant, Bryn Partrishow, Twyn Talycefn, Y Fan, Bwlch Bach, Bâl Mawr, Bâl Bach, Garn Wen ac y Gaer a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-5  Y Mynyddoedd Duon - Gorllewin

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn gyfagos at Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Rhos Fach and Rhos Fawr a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-6  Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, uwchben terfyn y bryn, lle mae yn cysylltu gyda tir mynediad, rhwng SO23868,39549 i’r de o Gadwgan (Y Gelli) a SO32447,22753 i’r gorllewin o Ffarm Trewyn (Pandy)

BB-7  Y Mynydd Du

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynydd Du a Gorllewin Y Fforest Fawr gan gynnwys Mynydd Bach Trecastell, Mynydd Myddfai, Fedw Fawr, Waun Lwyd, Garn Lâs, Twyn yr Esgair, Moel Feity, Bannau Sir Gâr, Fan Brycheiniog, Waun Haffes, Cefn Twrch, Garreg Las, Waun Fignen Felen, Carreg Goch, Dorwen ar Giedd, Llorfa, Cefn Carn Fadog, Foel Fraith, Garreg Lwyd, Feol Deg ar Bedol, Tair Carn, Mynydd Isaf, Drysgol a’r meysysdd parcio yn Llyn y Fan Fach, Cwar Herbert a Brest Cwm Llwyd a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-8  Fforest Fawr Dwyreiniol a Manor Mawr

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn ac yn gyfagos at Ddwyrain Y Fforest Fawr a Manor Mawr gan gynnwys Fan Fawr, Rhos Dringarth, Fan Dringarth, Fan Frynich, Twyn Dylluan-ddu, Craig Cerrig Gleisiad, Fan Llia, Waun Llywarch, Ton Teg, Waun Tincer, Mynydd y Garn, Gwaun Cefn y Garreg, Cadair Fawr, Pant y Gadair, Cefn Cadlan, Garn Ddu, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-9  Mynydd Illtud

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Mynydd Illtud yn cynnwys Twyn y Gaer, Allt Lom, Daudraeth Illtud a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-10 Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel gan gynnwys pob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-11 Ysgyryd Fawr

Ysgyrryd Fawr (SO32983,17857) a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 182 sydd yn dechrau o hen ffordd Rhosan ar Wy yn SO32824,16375 i’w gyswllt gyda tir mynediad yn SO32730,16953

BB-12 Allt yr Esgair

Llwybrau march rhifau 8 a 10 sydd yn dechrau o SO12941,22706 yng nghilfan yr A40 yn Nhalybryn, Llansantffraed ac yn myned tuag at Allt yr Esgair

BB-13 Crug Hywel

Yr ardal o dir mynediad gan gynnwys bryngaer Crug Hywel a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 9 rhwng SO22408,19864 a SO22491,20321 a llwybr march rhif 5 (Cwm Cwmbeth) rhwng SO21956,20081 a SO21826,20885

BB-14 Garn Goch, Bethlehem

Garn Goch, Bethlehem (SN69130,24342) yn cynnwys y llwybr troed o fewn yr ardal hynny a’r maes parcio

BB-15 Carreg Cennen

Coedlan Carreg Cennen, y maes parcio a’r gylchdaith sydd yn cynnwys llwybrau troed rhifau 34, 35, 36, 37 a 38 rhwng SN66512,19093; SN67133,19067 (Hengrofft); SN67663,18906 a SN68862,19062 (Wern-Wgan)

BB-16 Ffordd y Bannau

Ffordd y Bannau lle mae yn croesi unrhyw rhai o’r ardaloedd uchod a’r rhan sydd yn dilyn llwybrau troed rhifau 33, 34 a 35 rhwng SN85598,15466 a SN90814,14348 rhwng Penwyllt a Blaen Nedd

Safleoedd arall sydd ar gau

BB-17 Park Gwledig Craig y Nos

BB-18 Maes parcio Keeper’s Pond (SO25480,20735) a maes parcio Foxhunter (SO26324,210750)

BB-19 Cuddfan adar Llangasty (SO12651,26224) a’r maes parcio ger Eglwys  Llangasty (SO13287,26186)

BB-20 Maes parcio Blaen Onneu (SO15712,17087) ger y B4560 a maes parcio tarren Llangatwg (SO20919,215391)

BB-21 Safle picnic ger Craig Cerrig Gleisiad oddiar yr A470 (SO97129,22174)

BB-22 Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a’r maes parcio

BB-23 Meysydd parcio Blaen-y-glyn Uchaf and Isaf ym mlaen Glyn Collwn (Talybont ar Wysg) yn SO05645,27599 a SO06321,170444

BB-24 Yr ardal o dir gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Y Fâl a’r Deri gan gynnwys pob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny â meysydd parcio ger Y Fâl yn y Fro (SO29228,20032) a Llwyn-du (SO28372,16184)

BB-25 Maes parcio anffurfiol ger Castell Carreg Cennen (SN67072,19020)

BB-26 Meysydd parcio coedwig Mynydd Du ym Mlaen Y Cwm (SO25297,28387) a Cadwgan (SO26720,25134)

BB-27 Meysydd parcio coedwig Taf Fechan yn “Owl’s Grove” (SO04872,16259), Pont Cwmyfedwen (SO04235,16399) a Neuadd (SO03768,16960)

BB-28 Canolfan Ymwelwyr Garwnant (SO0304,13117) gan gynnwys y maes parcio, toiledau, ardaloedd chwarae a llwybrau beicio

BB-29 Meysydd parcio ym Mro y Sgydau ynh Nghlun Gwyn (SN91868,10580), Cwm Porth (SN92844,12427), Gwaun Hepste (SN93561,12355), Pont Melin Fach (SN90792,10486) a Chraig y Ddinas (SN91095,07931)

BB-30 Maes parcio Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu (SN85617,15555)

BB-31 Maes parcio coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg (SN82003,27134)

BB-32 Maes parcio coedwig Cwm Giedd (SN79141,12772)

BB-33 Maes parcio coedwig Pen Arthur, Llangadog (SN71715,25590)

BB-34 Maes parcio Pont-ar Dâf oddiar yr A470 (SN98689,19989)

25.03.2020

Mesurau Argyfwng COVID-19 i lwybr a maes parcio.
Yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog 23 Mawrth, i gyflwyno cyfyngiadau symud mwy llym ledled y DU, ac yn dilyn ymddygiad anghyfrifol rhai pobl y penwythnos diwethaf, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan weithio ar y cyd â’r awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, wedi cau’r ardaloedd hynny yn y Parc Cenedlaethol sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr ac sy’n peri risg o drosglwyddo’r Coronafeirws.

Mae’r cau yn sichrau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â’r “Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) 2020”a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wythnos hon. Mae’r ardaloedd yr effeithir arnynt wedi’u rhestru ar waelod y dudalen.

Dywedodd Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r cyfyngiadau symud sydd bellach mewn grym yn angenrheidiol er mwyn atal lledaenu’r Coronafeirws ac mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gwrando ac yn gweithredu ar unwaith yn ôl y cyfarwyddiadau sydd wedi’u cyhoeddi. Er ein bod i gyd yn mwynhau mynd allan i gefn gwlad, mae lleoliadau sy’n denu pobl i ymgynnull neu ddod i gysylltiad â’i gilydd bellach yn peri risg i’n hiechyd ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn bywydau. Ni fu’r penderfyniad yma’n un hawdd i’w gwneud, ond mae’r cau hwn yn bwysig os ydym am chwarae ein rhan i arafu lledaeniad y feirws, a rhaid ei barchu. Bydd y Parc Cenedlaethol yma o hyd pan godir y cyfyngiadau ond am y tro mae’n rhaid i ni roi’r cau hyn ar waith. Mae llawer o bobl oedrannus yn byw yn ein Parc Cenedlaethol a gall mynediad i ysbytai a gwasanaethau’r GIG fod yn anoddach i rai. Helpwch bawb i gadw’n ddiogel. ”

Dilynwch gyfyngiadau’r Llywodraeth ac arhoswch gartref i achub bywydau a diogelu ein GIG. Dim ond o dan yr amgylchiadau eithriadol canlynol y cewch adael eich cartref:

  • Er mwyn siopa am “hanfodion”, mor anaml ag sy’n bosibl.
  • Am resymau meddygol, i ddarparu gofal, neu helpu person bregus
  • Travelling to and from work, but only if it is “absolutely necessary” Teithio i’r gwaith ac yn ôl, ond dim ond os yw’n “gwbl angenrheidiol”

Gallwch chi fynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd, ond dylai hyn fod yn agos at eich cartref.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth alw ar y Llywodraeth i sefydlu mesurau cliriach i amddiffyn cymunedau gwledig a’r cyhoedd yn wyneb pandemig COVID-19

Fel Parc Cenedlaethol Eryri, y penwythnos diwethaf hwn mae rhannau o Fannau Brycheiniog wedi profi un o’r penwythnosau ymwelwyr prysuraf erioed o fewn cof diweddar ac mae’n amlwg bod rhai pobl wedi teithio’n bell i fod allan yn y Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol bellach yn galw ar y llywodraeth i sefydlu canllawiau cliriach ar deithio hanfodol a phellhau’n gymdeithasol mewn mannau agored ac yng nghefn gwlad, ac i gyflwyno mesurau er mwyn sicrhau bod lledaeniad y firws yn cael ei arafu. Yn seiliedig ar brofiadau’r penwythnos hwn, rydym yn ofni nad yw’r canllawiau cyfredol yn ddigon clir i bobl amddiffyn eu hunain ac eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd, a Julian Atkins, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Nos Wener cyhoeddodd y prif weinidog gyfyngiadau newydd gyda’r nod o arafu lledaeniad y firws. Roedd hyn yn cynnwys gorchymyn bod pob tafarn, caffi a gwesty yn cau. Dros y penwythnos yn dilyn y cyhoeddiad hwn rydym wedi gweld nifer fawr iawn o ymwelwyr ymhob un o’n lleoliadau poblogaidd ledled y Parc Cenedlaethol ac mae’n amlwg bod rhai ymwelwyr wedi teithio’n bell i gyrraedd yma. Fel Eryri, mae rhai ardaloedd wedi eu gorlethu ag ymwelwyr a’r hyn sy’n achosi pryder yw nad yw pobl yn cadw at y canllawiau ar bellhau cymdeithasol.

Rydym yn cefnogi Eryri ac yn galw ar Brif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog Cymru i ddarparu mesurau cryfach ar deithio diangen a phellhau cymdeithasol, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld y golygfeydd ledled Eryri a Bannau Brycheiniog y penwythnos diwethaf hwn yn cael eu hailadrodd. Mae angen arweiniad penodol ar yr hyn y mae “teithio angenrheidiol” yn ei olygu mewn gwirionedd. Rydym hefyd yn galw ar bob ymwelydd a pherchennog cartref gwyliau i wrando ar gyngor y llywodraeth ac osgoi teithio heblaw teithio hanfodol, ac i aros gartref er mwyn cadw’n ddiogel.

Mae’r mewnlifiad mawr o ymwelwyr i Fannau Brycheiniog wedi achosi pryder sylweddol yn lleol, gyda phobl yn poeni am bwysau cynyddol ar eu cymunedau ar adeg pan mae’r GIG, gwasanaethau achub, a chyflenwadau bwyd eisoes dan bwysau oherwydd y pandemig. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd twristiaeth i’n heconomi leol ond mae’n amlwg bod angen arweiniad pellach i arafu lledaeniad y firws a chadw ein cymunedau a’r cyhoedd yn ddiogel.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn canolbwyntio ei holl ymdrech, egni ac adnoddau yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf ar edrych ar ôl y cymunedau a’r busnesau yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i’r rhan hyfryd hon o Gymru unwaith y bydd y sefyllfa wedi gwella.”

DIWEDD

Fel cyrchfan dwristiaeth gyfrifol rydym yn awyddus i gefnogi diogelwch pobl Banny Brycheiniog a’r ymwelwyr rydym yn eu croesawu bob blwyddyn.

Ewch i’r dolenni canlynol am fwy o wybodaeth ar elfennau penodol yn ymwneud â COVID-19:

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf