Skip to main content

Ysgyryd Fawr

Mae’r brigiad olaf hwn yn y Mynydd Du, sy’n codi’n ddramatig o’r dirwedd, yn llawn hanes a thir gwyllt. Mae golygfeydd godidog rif y gwlith ym mhob cyfeiriad ac mae’r daith gerdded i’r copa yn werth chweil.

Mae Ysgyryd Fawr wedi ei gwahanu wrth y brif gadwyn o fynyddoedd gan Gwm Gafenni. Mae’n codi’n ddramatig allan o’r dirwedd, er, yn 486m o uchder, mae’n llai na’i chymdogion.

Beth sydd mewn enw?

Mae’r enw Cymraeg ‘Ysgyryd’ yn golygu ‘crynu’ neu ‘ysgwyd’. Mae’n hawdd gweld o ble y daeth yr enw hwn, gyda’r tirlithriad enfawr ar ben gogleddol y bryn. Mae Ysgyryd Fawr yn dueddol o ddioddef lleidlifoedd a thirlithriadau hyd yn oed heddiw.

Darganfyddwch fwy am y llwybr yma

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf