Skip to main content

Cerdded er Lles yn y Parc Cenedlaethol

Cerdded er Lles yn y Parc Cenedlaethol

Mae’n cael ei gydnabod yn eang bod allan yn yr awyr iach yn llesol ac mae Tîm Cymunedau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn annog a galluogi sawl grŵp i gael mynediad at yr awyr agored yn ystod y flwyddyn.

Mae gwybod ble i gerdded a sut i gadw’n ddiogel yn rhwystr i lawr rhag mynd allan i’r Parc Cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae’r Tîm Cymunedau wedi annog grwpiau o Gymdeithas MS, Credu, Gofalwyr Ifanc, grwpiau ceiswyr lloches a grwpiau eraill ac wedi bod yn rhan o Broject Camlesi, Cymunedau a Lles. Maent wedi hwyluso teithiau cerdded, wedi hyfforddi arweinwyr mewn diogelwch a mordwyo a darparu taflenni teithiau a sut i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am deithiau ar gyfer eu gallu a lefel hyder.

Mae’r Project Camlesi, Cymunedau a Lles yn bartneriaeth gyda’r bwriad o hyrwyddo Camlas Mynwy ac Aberhonddu fel taith gerdded sy’n addas i bron bob gallu. Mae’r project yn dangos hanes a bywyd gwyllt y gamlas a ble i fynd a beth y gellir ei weld gerllaw.

‘Yn para tan fis Mai 2023, mae’r project cydweithredol yn cael ei arwain gan Dîm Mynediad a Hamdden Cyngor Sir Powys , yn gweithio mewn partneriaeth gyda Glandwr Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd a Chamlesi yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru,’ meddai Wendy Abel, Rheolwr Prosiect, Cyngor Sir Powys. ‘Bydd y gweithgaredd yn rhedeg ochr yn ochr â mentrau eraill gan sefydliadau partner ac a gefnogir trwy Raglen Ddatblygiad Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.’

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhedeg hyfforddiant Arweinwyr Awyr Agored yn rhad ac am ddim i grwpiau cymunedol ar Ionawr 26ain  ac Ebrill 27ain ym Mharc Gwledig Craig-y-nos a Chwefror 15fed a Mawrth 30ain yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc.

Os ydych chi’n gweithio gyda grwp cymunedol ac yn hoffi ymuno gydag un o’r cyrsiau neu drafod taith gerdded wedi ei thywys, cysylltwch gyda Francesca Bell ar francesca.bell@beacons-npa.gov.uk <mailto:francesca.bell@beacons-npa.gov.uk

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf