Skip to main content

Gwasanaeth Parcio a Theithio Haf yng Ngwlad y Sgydau

Gwasanaeth Parcio a Theithio Haf yng Ngwlad y Sgydau

Yn ystod haf 2022 bydd ymwelwyr â Gwlad y Sgydau yn cael gwasanaeth parcio a theithio am ddim rhwng tref Glyn-nedd, pentref Pontneddfechan, a Maes Parcio Gwaun Hepste, dau o’r prif fannau cychwyn ar gyfer teithiau cerdded yng Ngwlad y Sgydau. Bydd y gwasanaeth yn rhedeg ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc.

 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys a’r cwmnïau trafnidiaeth lleol DJ Thomas a Forge Travel, i gynnig y gwasanaeth Parcio a Theithio, gyda’r nod o leihau’r pwysau parcio ar y gymuned leol yng Ngwlad y Sgydau.

 

Gall ymwelwyr ddal y gwasanaeth am ddim o Faes Parcio Lancaster Close yng Nghanol Tref Glyn-nedd ac o arosfannau bws penodol rhwng Glyn-nedd a Neuadd Bentref Pontneddfechan. Mewn ymateb i adborth gan ymwelwyr, eleni byddwn ni hefyd yn cyflwyno ail wasanaeth bws rhwng Glyn-nedd a Maes Parcio Gwaun Hepste, sydd y tu mewn i’r Parc Cenedlaethol ac sy’n fan cychwyn ar gyfer Llwybr y Pedair Sgwd (gweler y ffeiliau i’w lawrlwytho isod am ragor o wybodaeth).

 

Mae gan dref Glyn-nedd lawer o siopau a chaffis annibynnol yn ogystal, ac mae’n bendant yn werth eu harchwilio fel rhan o’ch ymweliad â Gwlad y Sgydau. Helpwch ni i gefnogi’r gymuned leol a’n hamgylchedd hardd trwy ddefnyddio’r gwasanaeth di-dâl hwn yn ystod yr haf.

 


Manylion y Gwasanaeth:

 

Taith 1 – Glyn-nedd i Bontneddfechan

 

  • Bydd y gwasanaeth yn rhedeg ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc yn unig, rhwng dydd Sadwrn 23 Gorffennaf a dydd Sul 4 Medi 2022.
  • Bydd y bws yn ymadael bob 30 munud o Faes Parcio Lancaster Close rhwng 9:30 a 12.30 a 14:00 a 16:30.
  • Y daith olaf yn ôl i Faes Parcio Lancaster Close o Bontneddfechan yw’r un am 16:47. Gallai fod galw mawr am fws olaf y dydd, felly blaengynlluniwch, a dal bws cynharach os gallwch chi, i sicrhau bod lle ar gael.
  • Mewn sefyllfaoedd lle mae prif Faes Parcio Lancaster Close yn llawn, defnyddiwch feysydd parcio di-dâl eraill CBS CNPT yng Nglyn-nedd, ac ymunwch â’r gwasanaeth i Bontneddfechan o Arhosfan Bysiau Archfarchnad y Co-operative.

 

Taith 2 – Glyn-nedd i Bedair Sgwd Gwaun Hepste

 

  • Bydd y gwasanaeth yn rhedeg ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc yn unig, rhwng dydd Sadwrn 23 Gorffennaf a dydd Sul 4 Medi 2022.
  • Bydd y bws yn ymadael bob 90 munud o Faes Parcio Lancaster Close rhwng 9:15 a 10.45 a 13:15 a 16:15.
  • Y daith olaf yn ôl i Faes Parcio Lancaster Close o Waun Hepste yw’r un am 17:00. Gallai fod galw mawr am fws olaf y dydd, felly blaengynlluniwch, a dal bws cynharach os gallwch chi, i sicrhau bod lle ar gael.
  • Mewn sefyllfaoedd lle mae prif Faes Parcio Lancaster Close yn llawn, defnyddiwch feysydd parcio di-dâl eraill CBS CNPT yng Nglyn-nedd, ac ymunwch â’r gwasanaeth i Waun Hepste o Arhosfan Bysiau Archfarchnad y Co-operative.

Lawrlwythwch amserlenni’r llwybrau ymaDownload the route timetables here

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf