Skip to main content

PWYSIGRWYDD EIN HAWYR DYWYLL

10 FFORDD Y GALLWCH LEIHAU EICH LLYGREDD GOLAU

PWYSIGRWYDD EIN HAWYR DYWYLL

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn falch o fod wedi cael statws Gwarchodfa Awyr Dywyll ers 2013.  Ni yw dim ond un o 18 o warchodfeydd yn y byd.

Mae hynny’n golygu fod gennym ni ansawdd rhagorol o nosweithiau pan mae’r sêr yn tywynnu a bod gennym ni hefyd amgylchedd y nos y mae ei nodweddion gwyddonol, naturiol, addysgol a diwylliannol yn cael eu gwarchod.

Mae cadw’r awyr dywyll hardd yn hynod, hynod, bwysig i ni.  Ond, mae defnyddio gormod o oleuni artiffisial, a hynny’n amhriodol, sydd hefyd yn cael ei alw’n llygredd golau, nid yn unig yn amharu ar ein gallu i weld y bydysawd ond hefyd yn effeithio’n ddifrifol ar bobl ac ar fywyd gwyllt.

 

Rydyn ni wedi casglu 10 o awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut y gallwch chi leihau eich llygredd golau eich hunan a helpu i warchod awyr y nos, a’n planed, am flynyddoedd i ddod.

 

  1. Diffoddwch eich goleuadau

Wyddech fod 50% o lygredd golau yn cael ei gynhyrchu gan olau nad oes neb ei angen?  Mae diffodd golau di-angen yn un ffordd syml a chyflym o leihau llygredd golau.  Nid yn unig hynny, ond bydd yn helpu i leihau eich costau ynni hefyd.

 

  1. Cadwch eich llenni ar gau

Drwy gadw eich llenni neu’ch bleinds ar gau, bydd y golau’n cael ei gadw y tu fewn i’ch eiddo ac felly ychydig o risg sydd yna y bydd yn dianc i awyr y nos.

 

  1. Goleuadau diogelwch

Mae llawer o  bobl yn ystyried goleuadau fel math o ddiogelwch, ond, awgrymodd ymchwil diweddar nad yw’n rhwystro troseddwyr mewn gwirionedd.  Os ydych chi’n bryderus ynghylch diogelwch, byddai’n fwy caredig â’r amgylchedd newid i sensoriaid symudiadau neu oleuni llai llachar.

 

  1. Dewiswch dymheredd eich golau

Mae’n bwysig peidio â phrynu bylbiau sy’n cynhyrchu golau gwyn llachar.  Mae tymheredd y golau gorau yn gynhesach, tua 3,500 gradd, a gellir canfod y tymheredd yn hawdd ar y becyn y bwlb. Mae hefyd yn fanteisiol osgoi golau glas, mae golau glas yn gallu gwasgaru trwy’r bydysawd gan greu ychwaneg o lygredd.

 

  1. LED

Gall bylbiau LED weithiau ollwng llai o lygredd na mathau eraill o fylbiau, ond mae’r cyfan y dibynnu ar yr ansawdd.  Gall bylbiau LED wedi’u dylunio’n dda leihau faint o olau y mae’r bwlb yn ei wastraffu ond mae’n well canfod dewisiadau sydd â CCT o <3,000 i leihau allyriadau glas i’r eithaf a chael offer rheoli y gellir ei addasu, gan gynnwys switshis pylu ac amserwyr.

 

  1. Ychwanegu cysgodwr

Gallai cysgodi eich goleuadau, yn enwedig y rhai y tu allan, leihau eich llygredd golau.  Byddai hynny hefyd yn cyfeirio’r golau i ble y dylai fod.  Mae yna amrywiaeth o wahanol fathau o gysgodwyr golau y gallwch eu defnyddio gan gynnwys capiau soled a gorchuddion golau.

 

  1. Cadwch eich golau yn pwyntio ar i lawr

Mae’n bwysig cyfeirio golau ar i lawr, nid i fyny i’r awyr, fel nad yw golau yn dianc y tu hwnt i ble y mae ei angen.  Os yw’r golau i’w weld y tu hwnt i’ch eiddo, yna mae’n gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

 

  1. Defnyddiwch reoleiddiwr

Mae cysylltu eich golau wrth switsh, amserydd neu synhwyrydd symudiad yn golygu na fydd yn cael ei ddefnyddio ond pan fydd ei angen. Mae’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn argymell, wrth ddefnyddio synwyryddion symudiadau, y dylen nhw gael eu gosod ar bum munud neu lai.

 

  1. Siaradwch ag eraill

Pam na ddewch chi’n Llysgennad Awyr Dywyll yn eich ardal ac addysgu pobl eraill sut y gallen nhw leihau llygredd golau?  Mae gennym ni i gyd ran mewn defnyddio llai o olau felly, os gwelwch chi gymydog neu ffrind yn defnyddio goleuadau llachar, pam na wnewch chi awgrymu pethau gwahanol i’w helpu i wneud gwahaniaeth.

 

  1. Defnyddiwch oleuadau wedi cael eu cymeradwyo gan yr IDA

Mae’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol wedi paratoi Sêl Gymeradwyaeth sy’n rhoi achrediad trydydd parti ar gyfer golau sy’n lleihau llewyrch ac nad yw’n llygru awyr y nos.  Cymerwch olwg yma os ydych chi eisiau canfod y golau gorau ar gyfer defnydd penodol https://www.darksky.org/our-work/lighting/lighting-for-industry/fsa/

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf