Skip to main content

Gwyddonydd y Gors:

pam fod cadwraeth corsydd yr ucheldir mor bwysig?

Gwyddonydd y Gors: pam fod cadwraeth corsydd yr ucheldir mor bwysig?

Wyddech chi fod dros 16,000 hectar o gorsydd mawn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Ond beth yw corsydd yr ucheldir a pham y dylai fod ots gennym ni amdanyn nhw?

Mae corsydd mawn yn anaerobig ac yn llawn dŵr ble mae darnau o blanhigion yn cywasgu ac yn pydru’n araf iawn. Mae hynny’n creu llystyfiant sydd wedi pydru’n rhannol ac sy’n cael ei alw’n fawn. Mae hinsawdd wlyb, oer Cymru’n arbennig o addas ar gyfer creu mawn oherwydd mae angen i’r corsydd fod yn orlawn â dŵr. Eto, mae llawer o’r corsydd mawn ym Mannau Brycheiniog o dan fygythiad oherwydd erydu, sy’n achosi i’r gwlypdiroedd ddraenio a sychu. Os bydd yr ardaloedd pwysig hyn o fawndir yn cael eu difrodi neu’u colli, bydd yn ychwanegu’n arwyddocaol at yr argyfwng hinsawdd.

‘Ond rwy’n dod i’r Parc Cenedlaethol i weld y blodau hardd, y glaswelltiroedd eang a’r adar a’r gloÿnnod byw lliwgar’, meddech chi. ‘Pan ddylwn i boeni am gorsydd mwdlyd, pygddu?’

Mae corsydd o fawndir iach yn bwysig am eu bod yn storio carbon. Fel y mae Richard Ball, Swyddog Cefn Gwlad a Phrosiectau Mynediad yn egluro: “Mae newid hinsawdd ar feddyliau pawb ond nid yw llawer o bobl yn gwybod rhan mor bwysig mae corsydd yn ei chwarae yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae corsydd iach mewn cyflwr da yn cynnal amrywiaeth eang o fflora a ffawna ac yn storio llawer iawn o garbon. Bydd cors mewn cyflwr da yn dal ac yn storio carbon.”

Fodd bynnag, mae’n hawdd iawn i bobl niweidio’r storfeydd carbon pwysig hyn, megis wrth gynnau tanau, creu llygredd a cherddwyr yn eu sathru. Pan mae corsydd mewn cyflwr gwael, mae’r mawn yn dechrau ymddangos ac yn dechrau sychu, erydu a phydru. Mae hyn yn broblem anferth oherwydd, wrth i’r mawn ddirywio, mae’r carbon sydd wedi’i storio yn cael ei rhyddhau i’r atmosffer.

Mae Richard yn egluro rhai o’r camau rydym yn eu cymryd i warchod ein corsydd: “Mae arolygon yn ein helpu i ganfod pa ardaloedd sydd angen eu hadfer fwyaf. Bydd corsydd wedi’u draenio yn cael eu ‘hail wlychu’ i godi lefel y dŵr ac rydyn ni’n gorchuddio mawn noeth gyda grug wedi’i dorri, sy’n cael ei alw’n ‘tocion’, rhag iddo erydu mwy. Mae hynny’n annog hadau i egino ac yn dod yn ficro hinsawdd gwarchodol i blanhigion newydd dyfu. Mae gwreiddiau’r planhigion hyn hefyd yn dal y mawn gyda’i ac yn ei atal rhag erydu mwy. Os bydd angen, byddwn hefyd yn ail gyflwyno mwswgl Sphangnum: math arbennig o blanhigyn sy’n hanfodol ar gyfer corsydd iach.”

Mae erydu eithafol yn gallu creu clogwyni serth, sy’n cael eu galw’n ‘mignoedd’, yn y mawn, sy’n draenio ac yn sychu’r mawn ac yn arwain at golli llystyfiant. I warchod yr ardaloedd hyn, mae peiriannau cloddio’n symud y tywyrch dros dro ac yn lleihau’r llethrau i rediad addfwynach o tua 30 neu 45° cyn ail osod y tywyrch. Weithiau, mae haen o ddeunydd pydradwy y mae dŵr yn gallu treiddio trwyddo yn cael ei osod i sefydlogi’r mawn nes bydd y planhigion wedi tyfu trwodd ac yn dod yn rhan o’r ecosystem.

Fel ymwelydd â Bannau Brycheiniog, gallwch chi chwarae rhan mewn gwarchod ein corsydd mawndir:

  • Arhoswch ar y llwybrau cerrig: mae’n tîm wedi gweithio’n galed i adfer llwybrau ar draws yr ucheldir er mwyn i ymwelwyr allu mwynhau’r ecosystem bwysig hon heb ei difrodi.
  • Peidiwch â chael barbeciw na chynnau tân: byddech yn synnu faint o wres mae barbeciws untro’n ei gynhyrchu. Mae’n sychu’r mawn ac yn gallu cynnau tân a llosgi oddi tanno.
  • Gwirfoddolwch: mae yna ddigonedd o gyfleoedd i helpu gyda’n gwaith cadwraeth.
  • Cadwch eich cŵn ar dennyn: rhag i gŵn aflonyddu ar adar sy’n nythu ar y ddaear.

Diolch i chi am ein helpu i gadw ein corsydd mawndir yn iach ac yn fwy gwydn wrth ddal a storio carbon – yn hytrach na’i ryddhau – am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hefyd yn gwella ansawdd y dŵr ac yn adfer yr ecosystem ar gyfer y nifer o rywogaethau prin sy’n dibynnu ar gorsydd – er mwyn i chi cael y profiad gorau posibl wrth ymweld â’n hecosystemau ffyniannus.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf