Skip to main content

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych, ger Aberhonddu

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych, ger Aberhonddu

Ychydig gannoedd o fetrau o’r A470 brysur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe gewch eich amgáu mewn amffitheatr gysgodol, atmosfferig a grëir gan glogwyni uchel, creigiog Craig Cerrig-gleisiad.

Beth am roi cynnig ar ein llwybrau arwyddbost, i gael blas ar y warchodfa? I’r rheiny sy’n gallu darllen map ac a hoffai fynd am dro hirach, ceir llwybrau sy’n arwain i fyny i rostir uchel Fan Frynych a throsodd i Graig Cwm-du.

Ceir safle picnic bach gerllaw wrth ochr mynedfa’r warchodfa.

Mae toiledau a chaffi yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Libanus, sy’n daith fer yn y car o’r warchodfa, ac yn y maes parcio gyferbyn â chanolfan addysg awyr agored Storey Arms.

 

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Dan y Clogwyn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn anwastad ac yn culhau ac yn dod yn fwy serth ac yn dychwelyd ar hyd yr un ffordd. Mae gwartheg, defaid a merlod mynydd yn pori yn y warchodfa – cofiwch gadw cŵn dan reolaeth ac yn agos atoch.

Cewch brofiad o’r tirwedd mawreddog ar y daith gerdded hon ar hyd yr afon hyd at droed llethrau creigiog Craig Cerrig Gleisiad.

 

Llwybr y Cerrig Gleisiad 

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 2 milltir/3.4 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn culhau ac yn dod yn fwy serth a cheir cerrig rhydd a thir anwastad dan draed. Mae’n dychwelyd i lawr ar hyd llethr glaswellt serth a cheir cerrig sarn i groesi nant. Mae gwartheg, defaid a merlod mynydd yn pori yn y warchodfa – cofiwch gadw cŵn dan reolaeth ac yn agos atoch

Cewch syniad gwych o uchder creigiog Craig Cerrig-gleisiad, o bell ac agos, ar y llwybr cylchol hwn.

Mae’n cychwyn ar hyd ymyl yr afon ac yn dringo’n serth drwy’r grug a’r llus tuag at garnedd.

Ceir golygfeydd ardderchog i gyfeiriad Pen y Fan ar y ffordd yn ôl.

 

Llwybrau cerdded eraill

Mae llwybrau troed yn arwain i fyny i gopa gwastad Fan Frynych ac ar draws i Graig Cwm-du.

Efallai na fydd y rhain wedi’u harwyddo ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn mynd a map gyda chi.

Ffordd y Bannau

Mae Ffordd y Bannau yn dilyn ymyl deheuol ffin y warchodfa.

Mae’r llwybr hir hwn – 99 milltir (159 cilometr) – yn mynd drwy dir anghysbell a garw.

Nid oes llawer o arwyddion, ond dangosir y llwybr ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) neu gallwch ddod o hyd i ganllaw i’r llwybr yn siop ar-lein Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gallwch ymuno â Ffordd y Bannau ar lwybr troed o’r gilfan ger y fynedfa i’r warchodfa.

 

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Tirwedd ddramatig a grëwyd gan rewlifoedd

Cerfiwyd y cwm hwn gan rewlif yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Wrth i’r iâ doddi, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, daeth waliau creigiog serth Craig Cerrig-gleisiad i’r golwg.

Beth amser yn ddiweddarach daeth tirlithriad trychinebus â miliynau o dunelli o’r graig i lawr y llethrau.

Dengys olion archeolegol bod pobl wedi byw yn ardal y warchodfa ers miloedd o flynyddoedd.

Mae olion ffordd Rufeinig a ffermydd diweddarach i’w gweld yn ogystal â chytiau o’r Oes Haearn.

Amrywiaeth gyfoethog o blanhigion

Mae’r llethrau creigiog serth, y sgarpiau miniog a’r creigiau’n gartref i blanhigion arctig-alpaidd prin. Dyma’u lleoliad mwyaf deheuol yn y DU ac nid ydynt i’w canfod eto tan yr Alpau.

Mae blodau gwyllt arctig-alpaidd yn tyfu ar y clogwyni creigiog sy’n wynebu’r gogledd. Mae’r rhain yn cynnwys y tormaen glasgoch, y tormaen mwsoglaidd, glesyn y gaeaf danheddog a’r dduegredynen werdd.

Mae’r clogwyni yn goetir fertigol i bob pwrpas, gyda choed a llwyni drain, criafol, onnen a’r gerddinen wen brin.

Mae yna hefyd amrywiaeth rhyfeddol o gyfoethog o flodau gwyllt a llawer o wahanol fwsoglau a llysiau’r afu.

Pigion tymhorol

Mae’r cyfnod o ddechrau’r gwanwyn hyd ganol haf yn amser gwych i fwynhau amrywiaeth ysblennydd y warchodfa o flodau gwyllt ac adar, gan gynnwys yr hebog tramor, y cudyll coch, y rugiar goch a’r fwyalchen y mynydd brin.

Yn ystod mis Awst a Medi mae’r bryniau’n ddisglair o flodau’r grug.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn dros ardal o tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostir yn Ne a Chanolbarth Cymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Fannau Brycheiniog ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych tua saith milltir i’r de o Aberhonddu.

Mae ym Mhowys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 12.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 971 222.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf