Skip to main content

Gât â golygfa: Adlewyrchiadau Warden Gwirfoddol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2023

Gât â golygfa: Adlewyrchiadau Warden Gwirfoddol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2023

Wel, bu’n flwyddyn brysur i fod yn warden gwirfoddol â’r tîm Gât â Golygfa.  

Rydym wedi cwblhau’n diwrnod olaf (clirio’r llwybr ger Pengenfford), cawsom ddigwyddiad Nadoligaidd ac mae’n briodol i ni adlewyrchu ar yr hyn a gyflawnwyd. Bûm yn clirio nifer o lwybrau a llwybrau ceffylau a does wybod faint o filltiroedd y gwnaethom yn strimio, torri a thocio nes bod ein breichiau’n wan fel brwyn ac yn grafiadau trostynt.

Barod am waith (ger Bwlch)

Ond, rydym hefyd wedi cwblhau nifer o dasgau eraill fel ailosod gatiau a gweithio ar gamfeydd a phontydd, heb anghofio’r ffyrdd eraill yr ydym yn cefnogi Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bu Andy yn gysylltiedig â chynllun adfer y mawndir, ymunodd Mark a Rob â thîm Glan-wysg a bu Lorna yn gweithio ar waliau cerrig a chefnogi’r tîm Rhywogaethau Anfrodorol. Rydym hefyd wedi croesawu dau wirfoddolwr newydd; Gerry and Aly ac wedi ymuno â diwrnodau corfforaethol a’r Dathliad i Wirfoddolwyr yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc.

Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sôn am gacennau! Mae’n deg dweud fod y safon wedi parhau i godi yn ystod y flwyddyn wrth i’n sgiliau pobi wella. Mae cacen frau miliwnydd Rob yn destun rhyfeddod, gellir dibynnu ar Mark â’i fara banana, cacen siocled ac oren Andy ac arbrofion cyson Lorna â chacennau fegan fel cacen foron a chnau coco a’i bariau crymbyl ffrwythau. Pob un wedi’u pobi’n berffaith a dim un gwaelod gwlyb yn unman – wel, dim o ran cacen beth bynnag!

Bariau crymbyl Nadoligaidd  (briwgig, afal a llugaeron)  

Mae’n hyfryd gweld ffrwyth ein llafur wrth i ni deithio o amgylch y Parc – gât neu gamfa newydd wrth gerdded, gweld eraill yn mwynhau llwybr ceffyl neu gerdded sydd wedi’u clirio neu sylwi ar y modd y mae’r amgylchedd wedi’i adfer a’i wella yn sgil gwaith mawndir Pen Trumau. Hefyd, sylwi ar waith gwaredu Rhywogaethau Anfrodorol yn Llanthony ac ar hyd y gamlas a gwaith adfer y waliau ar yr Allt. Bydd pob un ohonom yn cael budd o’n hanturiaethau ac edrychwn ymlaen at 2024. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda bawb!

Lorna, Andy, Mark, Rob.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf