Skip to main content

Cerrig Cerdd Ffordd Cambria

Rhan o Ffordd Cymru

Cerrig Cerdd Ffordd Cambria

Yn adnabyddus hefyd fel yr A470 mae Ffordd Cambria’n rhedeg ar hyd asgwrn cefn Cymru ac mae’n rhannu Bannau Brycheiniog yn ddwy. Hwn yw’r llwybr sy’n galluogi pobl i deithio o Aberhonddu i Ferthyr Tudful ac ymlaen i Gaerdydd neu tua’r gogledd o’r brifddinas.

Go brin y cewch gwell brofiad nag ysgubo ar hyd y troeon hir yn ochrau’r dyffryn wrth i chi deithio i fyny neu i lawr Glyn Tarell. Mae’r dyffryn hwn, yn ei wisg o lystyfiant amrywiol mewn clytwaith, yn eich atgoffa o rym y rhewlif a’i naddodd tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl. Heddiw gallem ond sefyll a syllu ar ei brydferthwch wrth i ni edrych i lawr y dyffryn o darddiad Afon Tarell jest i’r gogledd o Storey Arms i le mae’r afon yn llifo i mewn i Afon Wysg yn Aberhonddu.

Mae tramwyo dros y bwlch ym Mlaen Taf ym mha gyfeiriad bynnag ac ysgubo i fyny neu i lawr Cwm Taf Fawr rhwng llethrau Fan Fawr a Phen y Fan, heibio cronfeydd dŵr Beacons, Cantref a Llwyn-onn yn brofiad yr un mor wefreiddiol. Mae’r cronfeydd dŵr yma, sydd yn darparu dŵr croyw glan i drigolion de-ddwyrain Cymru, yn awr yn gorwedd lle’r arferai tir amaeth agored.

I rai pobl, llwybr i deithio ar ei hyd yn unig yw hwn ond gall cael seibiant mewn llecyn a mynd i chwilota, i ffwrdd o faes parcio Pont ar Daf a Phen y Fan fod yn bleser.

Y Cerrig Cerdd

Yn 2020 codwyd pedair carreg cerdd mewn llecynnau penodol ar hyd Ffordd Cambria (A470) trwy’r Parc Cenedlaethol. Naddwyd i mewn i’r talpiau o dywodfaen Pennant Glas cerddi gan Owen Sheers ac Ifor ap Glyn sy’n dathlu’r llecynnau lle mae’r cerrig yn sefyll. Beth am stopio i’w gweld y tro nesa’ ‘dach chi’n teithio’r ffordd yna?

  • Pennant Glas yw’r enw a rhoddir i’r tywodfaen sy’n gorwedd ar ben Haenau Glo De Cymru, sef cyfres o greigiau y naddwyd ‘Y Cymoedd’ allan ohonynt dros filoedd o flynyddoedd. Bydd y wyneb ffres glaslwyd yn newid dros amser i fod yn frown fel lliw rhwd.
  • Mae Owen Sheers yn nofelydd, yn fardd ac yn ddramodydd ac mae’n Athro Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Bardd Cenedlaethol Cymru yw Ifor ap Glyn.
  • Mae’r cerrig yn rhan o ymgyrch Ffordd Cymru ac o ganlyniad maent wedi cael eu rhannol ariannu gan Groeso Cymru.

Cilfan Craig y Fro

                                               

  • Craig y fro yw’r enw a roddir i’r darren hir sy’n rhedeg tu ôl i’r gilfan fawr gyda’i olygfan gwych. Pe baech wedi sefyll yma miloedd o flynyddoedd yn ôl byddech wedi cael eich amgylchynu gyda rhew oherwydd roedd gan y llecyn yma un o’r rhewlifoedd bychan olaf yn y bryniau hyn. Mae’r gefnen grom o dan y lôn yn ‘farian peiran’ – craig sydd wedi cael ei ailgylchu o’r clogwyn uwchben.

Blaen Taf/Storey Arms

                                 

  • Cadair Arthur oedd yr hen enw ar Ben y Fan. Pwy oedd Arthur tybed?
  • Trwy’r tyllau syllu gallwch weld Craig y Fro – darllenwch y sylw am garreg Craig y Fro
  • Rydym yn cyfeirio at y bwlch fel Blaen Taf oherwydd dyma oedd enw’r tollborth a arferai sefyll cyferbyn â Storey Arms, y ganolfan awyr agored.

Cronfa ddŵr ‘Beacons’

  • Glan Crew, Crew isaf, Aber Crew a Blaen Taf oedd enw rhai o’r ffermydd a arferai sefyll lle’r gorwedd y gronfa ddŵr
  • Cantref yw enw’r plwyf a arferai ymestyn o ochr gogleddol y Bannau i’r ardal hon. Sonnir y talwyd mwy o lwfans i ficer y plwyf er mwyn iddo gadw ceffyl oherwydd roedd rhaid iddo deithio mor bell.

Cronfa ddŵr Llwyn-onn

  • Ynysyfelin oedd enw’r pentref a ddiflannodd o dan y dŵr pan grëwyd Cronfa Ddŵr Llwyn-onn.
  • Adwaenid y bont dros Afon Taf, a ddiflannodd hefyd o’r golwg fel Pont y Clecs oherwydd dyma’r lle’r arferai pobl leol gyfnewid newyddion.
  • Mae’r gronfa ddŵr yn gartref i lawer o fywyd gwyllt gan gynnwys dwrgwn.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf