Skip to main content

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y cartref

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y cartref

Yng Nghymru ar 1 Mawrth mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu. Dewi Sant yw nawdd sant Cymru ac mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu’n genedlaethol.
Eleni byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn ffordd ychydig yn wahanol ac roeddem am rannu peth syniadau am sut i ddod  ag ychydig bach o Gymru a Bannau Brycheiniog i mewn i’ch cartref.

St Davids Cathedral - Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2019) Cymru Wales
St Davids Cathedral – Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2019) Cymru Wales

 

Pwy yw Dewi Sant?
Esgob Mynyw (Tyddewi bellach) oedd Dewi Sant a anwyd tua 500AD. Roedd yn adnabyddus am ei bregethu ac am sefydlu llawer o fynachlogydd ac eglwysi, ac am ei wyrthiau. Y wyrth fwyaf adnabyddus oedd y bryn yn codi yn ystod ei bregeth fel bod y dorf yn gallu ei weld a’i glywed yn iawn. Bu farw Dewi ar 1 Mawrth 589 a chafodd ei gladdu ar safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi yng Nghymru.

Sut gaiff Dydd Gŵyl Dewi ei ddathlu yng Nghymru?
Yng Nghymru, mae Dydd Gŵyl Dewi yn amser i ddathlu treftadaeth a diwylliant Cymru. Ymhlith y traddodiadau mae menywod a phlant yn gwisgo gwisg draddodiadol Cymreig a phawb yn gwisgo cennin pedr neu genhinen  – sef arwyddion o Gymreictod. Mae ysgolion yn cynnal Eisteddfodau, gydag adrodd barddoniaeth a chanu yn Gymraeg, ac mewn blwyddyn arferol, byddai dinasoedd a threfi Cymru’n cynnal cyngherddau a gorymdeithiau.

Yma yng Nghymru rydym yn angerddol dros fwydydd Cymru, a ledled y wlad, caiff bwydydd traddodiadol Cymreig eu mwynhau ar Ddydd Gŵyl Dewi. Ymhlith y seigiau mae cawl cig oen, sy’n debyg i sŵp, bara lawr, bara brith, pice ar y maen a chaws pȏb. (Os ydych chi’n cynllunio i ymweld â Bannau Brycheiniog yr haf hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â chanolfan The International Welsh Rarebit Centre)

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y cartref

Gyda chyfyngiadau teithio mewn lle ar y funud, dyma rai ffyrdd o gael profi’r gorau o Gymru a Bannau Brycheiniog yn eich cartref ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Black Mountains Preserves

Blas ar Gymru
O Fannau Brycheiniog i’ch drws ffrynt; mwynhewch flas ar Gymru yn eich cartref. Prynwch gig carw Cymru yn uniongyrchol o’r fferm – yn syth i’ch fforc, o Ganolfan Cig Carw Cymru. Anfonwch Hamper Cymreig i rywun (neu chi eich hun) o Black Mountains Smokery, yn llawn dop o gynnyrch blasus Cymru i dwymo’r galon. Cymerwch ran mewn blasu rhithiol gyda Distyllfa Penderyn a samplo wisgi a gwirodydd gwobrwyedig a gynhyrchir yn y Bannau. Neu beth am gynnyrch busnes bach newydd Cymraeg Black Mountains Preserves, fel pecyn anrheg yn cynnwys gin Cymru, marmalêd lemon a leim a phice ar y maen traddodiadol. Ac i bwdin mae cwmni siocledi o Aberhonddu,  Brecon Chocolates wedi creu bonbons siocled llaeth ar gyfer Gŵyl Dewi.

The Brecon Beacons

‘Cerdded’ ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  
Mae rhannau eiconig o’r Parc ar gael i’w ‘cerdded’ o gysur eich cartref. Mae milltiroedd ar filltiroedd o lwybrau mwyaf godidog y Parc yn cynnwys Ffordd y Bannau a Llwybr Clawdd Offa am ddim i’w gweld drwy Google Maps Street View. Gan na allwn fod yno yn sgil holl gyfyngiadau aros adref, dyma’r peth nesaf at fod yno!

The front cover of the book; 'Myths & Legends of the Brecon Beacons

Mythau a Chwedlau Cymru
Mae tirlun Cymru a Bannau Brycheiniog yn llawn mythau a chwedlau. Dywedir bod y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron yn cysgu drwy’r canrifoedd mewn ogof yn y bryniau hyn; a heb fod ymhell gwnaeth soprano fwyaf enwog ei chyfnod adeiladu ei byd rhyfeddol ei hun. Mae gennym gasgliad o straeon lleol sydd wedi cael eu hail-ddychmygu a’u hail-ysgrifennu gan Horatio Clare, gan gyfleu hud y Bannau yn eich meddwl bob tro. Mae taith gerdded yn cyd-fynd â phob un; rhywbeth i’w gynllunio pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Hwyl Fawr. Am y tro.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Cynlluniwch eich gwibdaith yn ddiweddarach yn y flwyddyn a dewch i ddarganfod Cymru a Bannau Brycheiniog yn fuan.

 

Noddir y blog gan ATLANTIC CULTURESCAPE– dathlu’r cysylltiad rhwng ein diwylliant a’n tirwedd.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Ardal yr Iwerydd Interreg drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ymwadiad:  Mae’r blog hwn a’i gynnwys yn adlewyrchu safbwyntiau’r awdur; nid yw awdurdodau’r rhaglen yn atebol am unrhyw ddefnydd y gellir ei wneud o’r wybodaeth sydd ynddo.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf