Skip to main content

Cynhelir Gŵyl Gorawl Aberhonddu

Cynhelir Gŵyl Gorawl Aberhonddu

Cynhelir Gŵyl Gorawl Aberhonddu rhwng 22ain a’r 24ain o Orffennaf 2022, yn arddangos rhai o dalentau cerddorol gorau Cymru. Uchafbwynt  y penwythnos fydd Cyngerdd Mawreddog gyda Côr Meibion Aberhonddu a’r Cylch a Chôr Meibion Dyfnant – y rhain yn dathlu 125 mlynedd o ganu.

Gŵyl newydd ar gyfer 2022 yw Gŵyl Gorawl Aberhonddu yn cynnwys tridiau o gerddoriaeth eithriadol. Arddangosir talentau sefydledig a newydd trwy gydol yr Ŵyl.

Gwelir Côr Meibion Aberhonddu a’r Cylch yn ymuno â Chôr Meibion Dyfnant – Côr sydd wedi canu’n ddi-dor am 125 mlynedd – yr hirach yng Nghymru.

Cynhelir cyngherddau eraill hefyd dros y penwythnos, yn cynnwys cyngherddau gan Gôr Meibion Talgarth a Chôr Cymunedol Alive & Kickin a Chantorion Aberhonddu.

Uchafbwynt  arall fydd gorymdaith gerddorol yn cynnwys aelodau o Gôr Esquire, Llundain, ar  brynhawn dydd Sadwrn, a’r ‘afterglows’ ar nosweithiau Gwener a Sadwrn pan fydd cyfle i bawb ymuno mewn cân i godi’r to.

 

Darganfyddwch fwy ac archebwch eich tocynnau yma

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf