Skip to main content

Coedwig Taf Fechan (Owl’s Grove), ger Merthyr Tudful

Coedwig Taf Fechan (Owl’s Grove), ger Merthyr Tudful

Mae Coedwig Taf Fechan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, taith fer yn unig o Ferthyr Tudful a chymoedd De Cymru.

Cewch ddarganfod y goedwig heddychlon hon ar ein llwybr cerdded ar lan yr afon sydd wedi’i arwyddo o faes parcio Owl’s Grove.

Mae mainc bicnic wrth ymyl y maes parcio.

Llwybr Taf Fechan

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1¼ milltir/1.9 cilomedr
  • Amser: 45 minud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Croeswch y ffordd o’r maes parcio i fan cychwyn y llwybr. Mae’r llwybr yn cynnwys rhannau anwastad a mwdlyd, darn byr am i lawr drwy’r coed, a rhan o ffordd goedwig. Mae’r llwybr yn wlyb iawn dan draed ar ôl tywydd garw – gwisgwch esgidiau priodol. Mae mainc ar hyd y llwybr.

Mae’r llwybr cylchol hwn yn arwain trwy goed conwydd tal wrth ochr yr afon fyrlymus gan ddychwelyd i faes parcio ar hyd llwybr trwy’r coetir.

Llwybr beicio pellter hir

Mae llwybr 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn mynd trwy Goedwig Taf Fechan.

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio pellter hir hwn, ewch i wefan Sustrans.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Coedwig Taf Fechan yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Taf Fechan 9 milltir i’r gogledd o Ferthyr Tudful.

Mae yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans (AO)

Mae Coedwig Taf Fechan ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.

Y cyfeirnod grid AO yw SO 048 162.

Cyfarwyddiadau

O Ferthyr Tudful, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn tuag at Reilffordd Mynydd Aberhonddu.

Ewch ymlaen heibio’r orsaf reilffordd ac yna, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r dde ar y cyffordd T i gyfeiriad Tal-y-bont ar Wysg.

Dilynwch yr arwyddion am Dal-y-bont ar Wysg ac mae’r maes parcio ar y dde.

 

mwy o wybodaeth yma

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf