Skip to main content

Y Barcud Coch

Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger Libanus

Cerflun y Barcud Coch

Bellach gall ymwelwyr i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol gael eu hysbrydoli gan gerflun cyffrous o Farcud Coch yn troi a throelli yn yr awel y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r cerflun o rwyllwaith dur gan Rubin Eynon cerflunydd o Lyn Nedd yn cynrychioli Barcud Coch yn cydbwyso ar ei big ar ben coesgyn o ddur corten 4 metr o uchder. Wrth i’r gwynt chwythu mae’r aderyn yn ara’ deg symud gan droi ar ei big, sydd wedi cael ei osod yn gadarn ar y coesgyn.

Barcuton Coch a’r Parc Cenedlaethol

Gydag adenydd 2 m o led y Barcud Coch yw’r aderyn ysglyfaethus mwyaf yn y Parc Cenedlaethol. Bydd ymwelwyr sylwgar yn gyfarwydd gyda’r aderyn gwritgoch yma’n arnofio yn yr awel gan farchogaeth y cerrynt yn ddidrafferth drwy ddirdroi a phlycio’i gynffon fforchiog. Does yr unlle gwell i wylio brenin y cerrynt nag wrth gerdded ar Fynydd Illtyd ger y Ganolfan Ymwelwyr.

Dathlu llwyddiant adfer natur

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol yn falch o ddathlu’r stori o lwyddiant yma mewn adfer natur Gymreig – adfer y Barcud Coch o bron gael ei ddileu’n llwyr. Bellach mae i’w weld ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol a thu hwnt ond yn y 1930au dim ond llond dwrn o Farcuton Coch oedd yn magu yng Nghanolbarth Cymru, eu cadarnle olaf yn y DU. Yn raddoltrwy lawer o waith gofalus a manwl gan wirfoddolwyr a chyrff statudol yn gweithio gyda’i gilydd tyfodd y boblogaeth gynhenid. Dim ond 20 mlynedd yn ôl roedd rhaid i ymwelwyr deithio at droed Bannau Sir Gar yng ngorllewin y Parc i gael golwg ar yr adar hynod yma wrth i’w niferoedd dyfu. Er gwaetha’r ffaith bod nifer o boblogaethau o Farcuton Coch bellach ym Mhrydainyr adar Cymreig yma yw’r unig rai sy’n llwyr gynhenid. 

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf