Skip to main content

Blwyddyn Newydd. Fi Newydd.

Yn newydd i wirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Blwyddyn Newydd. Fi Newydd.

Ionawr yw mis yr addunedau ac mae hefyd yn adeg, yn draddodiadol, pan fyddwn yn gweld cryn gynnydd yn y diddordeb yn ein swyddi gwirfoddoli. Rydym wedi trosglwyddo’r blog hwn i ddau o’n gwirfoddolwyr sôn am y gwaith ardderchog y maen nhw’n ei wneud. Newydd gael ei recriwtio y mae Carole Hart ac mae Nic Groombridge wedi bod gyda ni ers sawl blwyddyn. Yma, maen nhw’n rhannu eu profiadau o ofalu am ein trysor o dirwedd.

 

Carole Hart

Blwyddyn Newydd. Fi Newydd. Yn newydd i wirfoddoli gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Felly, y bwriad yw gwirfoddoli mwy dros y Parc. Wrth symud yn ôl i’r ardal hardd hon fis Mawrth 2020, roedd fy rhestr ticio’n cynnwys ymuno â thîm gwirfoddoli Bannau Brycheiniog. Wrth i Covid ddatblygu, daeth y glir y byddai yna oedi, ond roeddwn wrth fy modd wrth gyfarfod ag Amanda Brake, ein cydlynydd gwirfoddolwyr, yn yr Hydref 2021 i’m cychwyn ar fy nhaith o wirfoddoli. Soniodd wrthyf pa gyfleoedd gwirfoddoli oedd ar gael, o helpu mewn canolfan ymwelwyr i fod yn yr awyr agored a dewisiais i fod allan ar y bryniau. Eglurodd bod yr hyfforddiant yn cael ei wneud yn bennaf ar ddyddiau partïon gwaith, pan fydd grwpiau o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd. Rhoddodd wahoddiad i mi gymryd rhan mewn diwrnod ffustio’r ffromlys yng Nghrughywel i daclo’r planhigyn o rywogaeth ymwthiol, Ffromlys yr Himalayas.

Cynhaliwyd ffustio’r ffromlys gyda grŵp cymunedol lleol. Roedd digonedd o wynebau cyfeillgar, ac, wrth i ni eistedd i fwyta’n cinio o’n bocs bwyd, fe ddysgais nad grŵp o bobl wedi ymddeol yn gwirfoddoli yn unig mo hwn.  Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod pobl eraill a oedd yn gweithio llawn amser neu’n rhedeg eu busnesau lleol eu hunain. Roedd un cwpl oedd yn gwirfoddoli wedi gyrru o Fryste a chefais fy synnu ar yr ochr orau o weld faint o ferched a oedd wedi gwirfoddoli. 

Y tro nesaf oedd gwaith ar lwybrau troed. Rhoddodd ein harweinydd leoliad what3words i mi ganfod fy ffordd i’r man cychwyn ac roedd wedi dod â’r offer roedd ei angen ar gyfer y gwaith roeddem yn ei wneud. Roedd yn ddiwrnod gogoneddus o aeaf. Roedden ni’n gweithio ein ffordd i fyny at Hay Bluff ac i lawr yr ochr arall. Roedd y ferch oedd yn gydymaith i mi yn sôn am ei dyddiau yn y fyddin a rhedeg ‘bunk house’. Rhannodd arweinydd ein parti gwaith ychydig o hanesion am griminoleg. Wrth i ni gyrraedd y copa, cawsom y bonws o weld paragleidwyr uwchben ac yna’r tîm achub mynydd a’r ambiwlans awyr wrth eu gwaith.

Yn amlwg, roedd Amanda’n cadw llygad arnaf a chysylltodd â mi ar ôl i mi archebu’r gweithgaredd nesaf ar lein. E-bostiodd i ddweud fy mod angen hyfforddiant torrwr llystyfiant cyn bod yn rhan o’r parti gwaith hwnnw ac mae wedi archebu hyfforddiant i mi.

Felly, rwy’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda wrth symud ymlaen gyda’m gwirfoddoli yn 2022. Mynd allan a gwneud rhagor o bartïon gwaith wrth fy mhwysau gan gofio am fy ngwaith llawn amser a’m hymrwymiadau teuluol. Bod allan yn yr awyr agored gyda golygfeydd gwych a chwmni da. Cynnal cydbwysedd bywyd gwaith gwell. #newoutdoorme2022

 

Nic Groombridge

Mae’n anodd dweud pam y dechreuais wirfoddoli. Ni chefais unrhyw dröedigaeth wrth gerdded ein bryniau. Wrth gyrraedd Aberhonddu bum mlynedd yn ôl, roeddwn yn chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli. Fel cyn was sifil, ac yn academig ar ôl hynny, roedd gwasanaeth cyhoeddus yn fy ngwaed. Rwy’n dal i ysgrifennu a dysgu ychydig ond rwyf wastad wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini ac felly roeddwn i awydd gwneud gwaith corfforol yn fy ymddeoliad. Mae fy ngwirfoddoli’n helpu i’m cadw’n ffit yn feddyliol ac yn gorfforol.

Rwy’n gweithio gyda thimoedd yr ucheldir Canol y Bannau a’r Mynyddoedd Duon, yn cynnal llwybrau. Maen nhw’n gweithio ar ddau ddydd Gwener a dau ddydd Sadwrn y mis, ac rwy’n gwneud cwpl pob mis. Mae’r timoedd hyn yn cael eu harwain gan wirfoddolwr. Yn ogystal, yn aml rwy’n gweithio ganol wythnos gyda Warden yn atgyweirio neu ail osod giatiau a chamfeydd. Mae yna gwpl ohonom sy’n gwneud hyn ond mae llawer yn aros gydag un tîm neu set o dasgau. Rwy’n adnabod gwirfoddolwyr sy’n cyfrif grugieir, mesur dyfnder mawn neu’n helpu yn y Cenfeiniau Ymwelwyr yn Libanus neu Graig y Nos. Mae rhybudd yn cael ei hanfon atom o gyfleoedd digwyddiadau unwaith ac am byth neu gyrsiau hyfforddi. Rwy’n arbennig o falch o fod wedi bod yn adeiladu waliau sych ac ennill tystysgrifau cymorth cyntaf a thorrwr llystyfiant.

Trwy weithio ar y bryniau rwyf wedi gweld llawer o’r Parc Cenedlaethol a chael cwmni da. Mae llawer ohonom wedi ymddeol, yn aml o swyddi diddorol, felly os nad yw’r olygfa cystal, mae’n sgwrs ‘swyddfa’ dros goffi neu ginio’n sbarduno. Dydym ni ddim i gyd yn hen wŷr chwaith. Mae gennym ni ychydig o ferched (ac angen rhagor) ac, weithiau, bobl ifanc yn rhoi hwb i’w CV.

Yn aml, byddwn yn cyfarfod cerddwyr ar y bryniau ac yn egluro beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Rydym hyd yn oed wedi recriwtio ychydig o wirfoddolwyr newydd felly.

Llawer o ddiolch i Nic ac i Carole am rannu eu profiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod rhagor am wirfoddoli, cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Amanda Brake, ar amanda.brake@beacons-npa.gov.uk.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf