Skip to main content

Ble i gerdded yn Y Fenni

Ble i gerdded yn Y Fenni

Mae’r Fenni yn lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio Bannau Brycheiniog ar droed. Mae taith gerdded fer o ganol y dref yn mynd â chi i gefn gwlad, gallai teithiau cerdded hirach fynd â chi i ben un o nifer o fynyddoedd sy’n edrych dros y Fenni. Mae gan y tri phrif gopa hefyd feysydd parcio yn agosach at y copaon ar gyfer y rhai y mae’n well ganddynt ddringfa fyrrach.

Mae’r Blorens yn cynnig golygfeydd benysgafn dros dref y Fenni, tra bod Pen-y-fâl (yr uchaf o’r tri chopa) yn darparu golygfeydd ar draws rhannau digyffwrdd o’r cefn gwlad lleol. Mae dringfa serth i gychwyn i’r Ysgyryd, sydd wedyn yn torri allan i gefnffordd hir sy’n gorffen gan adfeilion hen gapel yn y man uchaf.

Teithiau cerdded hawdd y Fenni

Mae digon o deithiau cerdded heb fryniau o gwmpas y Fenni. Dyma rai syniadau:

Taith gylchol o Lan-ffwyst i Gofilon ar hyd llwybr cylchol ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a hen reilffordd (3.7 km ar droed).
Ewch am dro o amgylch y dref drwy Dolydd y Castell a Gerddi Linda Vista, Y Fenni
Teithiau cerdded poblogaidd o amgylch y Fenni

Mae’r Fenni wedi’i hamgylchynu gan dri mynydd – Ysgyryd, y Blorens a Phen-y-fâl.

Pwll y Ceidwaid i’r Blorens

Abergavenny to Llanthony Priory

Mae taith gerdded y Tri Chastell yn cychwyn gerllaw ac yn cynnwys Ynysgynwraidd, Grysmwnt a Chastell Gwyn, tri chastell bach ond trawiadol o hyd.

Mae llwybr troed hanesyddol Clawdd Offa yn rhedeg gerllaw. Adeiladwyd y clawdd gan Offa, Brenin Mersia rhwng 757 a 796 OC ffurfiodd y clawdd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn rhedeg 182 milltir o Brestatyn yn y gogledd i Sedbury, ger Cas-gwent yn y de. Mae sawl pwynt mynediad ger y Fenni – man cychwyn (neu ddiwedd) da yw Priordy Llanddewi Nant Hodni.

Dysgwch fwy am yr holl deithiau cerdded yn y Fenni yma.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf