Skip to main content

5 ffordd i ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel

5 ffordd i ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel

Gan fod y cyfyngiadau wedi llacio rydym yn disgwyl llawer o ymwelwyr i Fannau Brycheiniog. Er ein bod yn edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl, rydyn ni’n gofyn i chi ddilyn y 5 cam hyn i warchod tirlun godidog y Bannau.

    1. Gwybodaeth cyn cychwyn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i ble rydych chi’n mynd a pha gyfleusterau sydd ar gael. Cofiwch y bydd rhai meysydd parcio, toiledau, siopau a mwynderau lleol ar gau. Felly, cynlluniwch eich taith yn ofalus.
#BeAdventureSmart wrth fynd o gwmpas. Gofynnwch y tri chwestiwn yma i chi’ch hunain –
Oes gen i’r offer iawn?
Ydw i’n gwybod sut bydd y Tywydd?
Oes gen i digon o wybodaeth a sgiliau ar gyfer y diwrnod?

Rydyn ni wedi creu dangosfwrdd parcio ceir newydd i chi allu gweld faint o le gwag sydd ym meysydd parcio Gwlad y Sgydau, gan eu bod yn llenwi’n fuan iawn.

    2. Os yw’n teimlo fod gormod o bobl yno, mae yna ormod o bobl yno.

Cadwch yng nghefn eich meddwl le arall y gallech chi ymweld. Edrychwch ar ein llybrau cerdded i ddewis rhywle newydd y gallech chi ei archwilio.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys 520 milltir sgwâr ac mae llawer mwy iddo na dim ond Pen y Fan a Gwlad y Sgydau. Dyma’ch cyfle chi i ddarganfod eich hoff le newydd.

    3. Parchwch, gwarchodwch, mwynhewch

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad bob amser Parchwch bobl eraill, Gwarchodwch yr amgylchedd naturiol a mwynhewch yr awyr agored. Cofiwch fynd â’ch ysbwriel adref bob amser a chadwch eich cŵn ar dennyn.

    4. Cadwch eich pellter

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw pellter ar wahân o 2m (mae hynny’n hyd tua 2 ddafad). Mae gofyn cadw pellter cymdeithasol yn y mynyddoedd ac ar bob llwybr. Di-heintiwch eich dwylo’n aml a cheisiwch beidio a chyffwrdd â giatiau, camfeydd ayb.

    5. Byddwch yn Garedig

Wrth i ni i gyd yn addasu i’r normal newydd.

Dewch i Fannau Brycheiniog yn Ddiogel

 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf