Dewch i ddarganfod y bywyd gwyllt gwych sydd ar gael yn yr Ardd Fotaneg drwy gydol yr hydref ar y daith gerdded bywyd gwyllt hon dan arweiniad arbenigol.
Bydd y llwybr yn mynd â chi o amgylch Llyn Mawr i chwilio am adar, ffyngau, pryfed, blodau, ac arwyddion mamaliaid.
Mae dwy daith gerdded: am 11yb ac am 2yp. Byddan nhw’n para tuag awr. Cwrdd yn y porth bwaog o’r Bloc Stablau, ger cerflun y ddraig.