Skip to main content

Troi’n wyrdd:

Buddsoddi mewn ynni gwyrd

Troi’n wyrdd: buddsoddi mewn ynni gwyrd

Wyddech chi nad porfeydd gwelltog a choedwigoedd ffyniannus yw’r unig bethau gwyrdd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein hynni’n wyrdd hefyd. Ond, beth yw ‘ynni gwyrdd’ a pham ei fod yn bwysig?

Enw ar ynni o adnoddau naturiol – megis golau haul, gwynt neu’r llanw – yw ynni gwyrdd. Mae’n llai niweidiol na’r ynni sy’n cael ei greu o danwydd ffosil oherwydd mae’n cael ei greu o adnoddau adnewyddol ac nid yw’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr.

Rydyn ni angen ynni i groesawu’n gwesteion ac i ofalu am ein Parc Cenedlaethol ond, dydyn ni ddim eisiau i hynny amharu ar yr ecosystemau rydyn ni’n ceisio eu gwarchod – felly rydyn ni’n cymryd camau i leihau’n hôl troed carbon ac i fynd yn wyrdd.

Fel y mae Wayne Lewis, ein Rheolwr Masnachol yn egluro: “Fel sefydliad amgylcheddol, mae gofyn i ni ddangos faint rydyn ni wedi’i fuddsoddi mewn lleihau ein hallyriadau carbon hefyd ysbrydoli eraill i ddilyn ein harweiniad. Wrth gwrs, mae yna’r fantais ychwanegol o arbed arian ar filiau cyfleustodau yn y tymor hirach.”

Rydyn ni wedi treulio’r ddwy flynedd diwethaf yn gosod paneli solar newydd ar ein holl adeiladau ac wedi uwchraddio i systemau batri mwy effeithlon. Erbyn hyn, mae gennym 76 o baneli ar ein prif ganolfan ymwelwyr ac mae un o’n hadeiladau llai yn gyfan gwbl oddi ar y grid!

Mae Lewis yn egluro pam fod solar yn ddewis mor wych: “Gan fod ein safleoedd ar agor yn ystod y dydd pan mae’r haul yn tywynnu – o 9.00am tan 5pm – heb fawr ddim ynni yn cael ei ddefnyddio dros nos, rydyn ni yn cynhyrchu bron iawn y cyfan o’n trydan pryd rydyn ni ei angen. Pan fyddwn ni’n cynhyrchu mwy o drydan na fyddwn ni’n ei ddefnyddio, mae’n mynd i’r batris i gael ei ddefnyddio’n nes ymlaen a, dim ond ar ôl i ni ddefnyddio hynny i gyd y byddwn ni’n cymryd ynni o’r grid.”

Ac nid yw’n gorffen gyda solar. Rydyn ni wedi newid holl offer petrol y gweithwyr tir – megis strimers, peiriannau torri gwellt a chwythwyr dail – am rai’n gweithio ar fatris, ac mae gennym hyd yn oed dractor trydan. Rydyn ni hefyd wedi newid ein fflyd am geir trydan neu hybrid ac wedi gosod mannau gwefru ceir ar dri o’n safleoedd. Mae’r rhain yn arbennig o boblogaidd gyda gwesteion, meddai Lewis: “Yn ystod yr haf, prin fod yna ddiwrnod yn mynd heibio nad yw rhywun yn defnyddio’r man gwefru.”

Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli ac eisiau i’ch cartref chi fynd yn wyrdd, lleihau’ch defnydd o ynni yw’r allwedd. Bydd ychydig o newidiadau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr yn fuan:

  • Diffoddwch y cyfrifiaduron a theledu yn hytrach na’u gadael ar ‘wrth gefn’.
  • Defnyddiwch fylbiau golau LED a diffoddwch y goleuadau pan nad oes eu hangen.
  • Defnyddiwch rimynnau drafft a llenni trwchus i gadw’r gwres i mewn.
  • Peidiwch â rhedeg eich peiriant golli llestri oni bai ei fod yn llawn
  • Trowch eich gwres i lawr 1 gradd – bydd yr arbediad ynni’n cynyddu!
  • Buddsoddwch mewn insiwleiddio a ffenestri dwbl.

Os ydych yn ystyried gosod paneli solar ar eich cartref, meddyliwch am:

  • Lleoliad: rydych eisiau cymaint o olau haul cryf ag sy’n bosibl er mwyn cynhyrchu pŵer felly, gwnewch yn siŵr nad yw eich eiddo yn cael ei gysgodi gan goed tal, er enghraifft.
  • Rheoliadau: gwnewch yn siŵr gyda’ch darparydd trydan lleol nad oes unrhyw reoliadau seilwaith yn eich rhwystro rhag gosod paneli.
  • Llechi a theils to: gwiriwch fod eich teils mewn cyflwr da oherwydd mae’n haws eu hail osod cyn gosod y paneli.
  • Amseru: dim ond pan fydd yr haul allan y bydd ynni solar yn cael ei gynhyrchu felly, meddyliwch pryd fyddwch chi’n defnyddio’r mwyaf o ynni.
  • Batri Storio: os ydych chi allan trwy’r dydd fel arfer ac yn defnyddio trydan pan fyddwch yn cyrraedd adre, trwy fuddsoddi mewn batri byddwch yn gallu defnyddio’r ynni yn ystod y gyda’r nosau.

Felly, beth sydd nesaf ar y gweill i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog? Rydyn ni eisiau gwella’n effeithlonrwydd ynni trwy insiwleiddio mwy ar y toeau a’r waliau a gosod ffenestri dwbl a drysau newydd. Rydyn ni’n buddsoddi mewn boeleri mwy effeithlon ac yn gobeithio cyflwyno gwres o ffynhonnell yr aer ac o’r ddaear. Bydd yr holl gamau hyn yn dal i ostwng faint o garbon sy’n cael ei gynhyrchu ar draws ein hadeiladau ac yn cyfrannu at warchod ein parciau gwerthfawr.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf