Skip to main content

EIN TEITHIAU CERDDED

Cerddwch ffordd hyn? Pam lai?

Back to routes
Distance icon

Pellter
3.3km / 2.05milltir

Location icon

Cyfeirnod grid OS SO046281
Postcode LD3 7EY

Co-ordinates icon

Starting co-ordinates
51° 56' 39" N -3° 23' 17" W (DMS)

Time icon

Approximate time
2 awr

2

Gradd tro
(5 = Hardest)

  • Facilities
  • Shopping icon
  • Parking icon
  • Disabled parking icon
  • WC icon
  • WC icon

Os ydych yn ymweld ag Aberhonddu yna beth am fentro ychydig ymhellach ar hyd llwybr y gamlas o Fasn y Gamlas i Loc Brynich ac yn ôl? Prin y cewch chi ffordd well o dreulio awr neu ddwy yn mwynhau rhywfaint o heddwch ond gan dalu sylw hefyd i rywfaint o dreftadaeth a bywyd gwyllt yr un pryd. Llwybr gradd 1 yw hwn – llwybrau heb rwystrau, bron yn gwbl wastad ag arwynebau caled neu gadarn yw’r rhain. Mae seddau i’w cael hefyd.

Route details

Of interest

Gan ddechrau ger Theatr Brycheiniog bydd rhywbeth i chi ei fwynhau ar hyd y rhan hon o’r gamlas ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Wrth ymweld gallwch werthfawrogi’r gamlas fel ag yr oedd yn ei hanterth diwydiannol drwy gyfrwng y paneli gwybodaeth diddorol ac ailgread o dram a cheffyl. Yn y gwanwyn a’r haf byddwch yn siŵr o weld a chlywed trydar digon o adar ar hyd y dŵr, yn y llwyni ac yn y coed. Ond yn yr hydref y ceir y gefnlen fwyaf lliwgar i’r daith gerdded hardd hon wrth i’r coed bedw, y cyll a’r ynn dywynnu’n felyn ac oren. Fel arall, gallwch fwynhau gwylio’r badau’n pwffian mynd ar hyd y gamlas neu ryfeddu ar y dŵr yn codi’r badau wrth i chi eistedd ar un o feinciau pren Loc Brynich.

Cofiwch:

  • fynd â’ch holl sbwriel adref,
  • peidiwch â chynnau tannau,
  • peidiwch â gwersylla.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein



cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf