Skip to main content

CASTELL AC AMGUEDDFA’R FENNI

Olion castell hardd sydd wedi eu hamgylchynu gan fryniau ffrwythlon a godidog – cewch gastell ac amgueddfa mewn un yn y Fenni!
Dewch i ddychmygu’r gaer gadarn a fu yma unwaith, pan oedd barwniaid canoloesol Lloegr a thywysogion Cymru’n ymladd drosti. A rhyfeddwch at hanes lleol cyfoethog y Fenni, wrth ymweld â’r amgueddfa sydd wedi’i lleoli mewn porthdy o’r 19eg ganrif.
Mynediad: am ddim, heblaw ar gyfer digwyddiadau arbennig.
Sut i gyrraedd yno
Cod post Sat nav: NP7 5EE
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans: Map Explorer OL13 neu fap Landranger 16 – SO300138
P Stryd y Castell, Y Fenni, arwyddion o gylchfan yr A4143.
Bws: www.travelinecymru.
Oriau agor
Mawrth–Hydref: Dydd Llun-Dydd Sadwrn 11am–1pm a 2–5pm, Dydd Sul 2–5pm;
Tachwedd–Chwefror: Dydd Llun-Dydd Sadwrn 11am–1pm a 2–4pm, Ar gau Ddydd Sul.
Cyfleusterau: yn y dref
Mynediad i ymwelwyr anabl: tir gwastad ar arwyneb cadarn a da ar y cyfan.
Pethau i’w gweld a’u gwneud

dwy set o dyrrau amddiffynnol mawreddog;
selerau eang er mwyn storio yn ystod cyfnodau o gyni pan oedd y castell dan warchae;
muriau uchel a oedd yn fannau gwylio heb eu hail i wylwyr a milwyr;
porthdy gyda stopiau ar gyfer drysau trymion, tyllau bonbrennau a gwaelod tolciog wal;
gris yn arwain i’r llawr cyntaf gyda ffenestri cerrig mawr a bach a lleoedd tân neuadd wledda ac ystafell braf;
casgliad diddorol o arteffactau;
cegin fferm o oes Fictoria ac arddangosfa o weithdy cyfrwywr;
digwyddiadau di-ri, cwisiau a gweithdai i blant.

 
 

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf