Skip to main content

Beicio dros y Bannau

Beicio dros y Bannau

Beiciwch ar draws y Bannau gan ddefnyddio’n llwybr newydd sy’n arwain o Landeilo yn y gorllewin hyd Y Fenni yn y dwyrain. Mae’r llwybr newydd hwn ar hyd ffordd Rufeinig sydd â golygfeydd godidog o Ganol y Bannau wrth ddilyn lonydd gwledig difyr a throellog cyn ymuno â llwybr camlas Mynwy ac Aberhonddu.
Adran 1
Llandeilo i Dal-sarn
Pellter 13 milltir (21km)
Dringfa 1460ft / 445m
Amser 1.5-2.5 awr
Disgrifiad: Gan ddechrau wrth yr orsaf drên, ewch drwy strydoedd cefn Llandeilo cyn ymuno â’r A483 i groesi afon Tywi. Ewch o dan y rheilffordd yn Ffair-fach ac yna dringo tua’r de i gyfeiriad Trap. Cyn cyrraedd Trap, mae’r llwybr yn troi tua’r gorllewin a dringo i dir uwch gan roi golygfeydd rhagorol o Ddyffryn Tywi a’r Mynydd Du. Ystyriwch ddargyfeirio tua’r de tua Trap i weld ysblander Castell Carreg Cennen.

Tirwedd: Pob rhan ar ffordd galed gan gynnwys priffordd yr A483 yn Llandeilo, gan ddringo’n gyson ar y dechrau yna unwaith ar y tir uchel, mae’r llwybr yn fwy tonnog. Rhaid disgyn yn serth i Bontnewydd ac yna dringo’n union wedyn. Dyma ran fwyaf serth yr holl daith. Nid yw’n daith addas i deulu.

Adran 2
Tal-sarn i Bontsenni
Pellter: 11milltir (17km)
Dringfa: 1110tr / 338m
Amser: 1-2 awr

Disgrifiad: Gan ddechrau â golygfeydd dros gaeau agored, mae’r dirwedd yn newid i fynydd-dir eang a moel ger y Gwersyll Rhufeinig, a cheir golygfeydd trawiadol eto. Gan fynd tua’r dwyrain, â’r llwybr drwy ardal goediog (gyda Chronfa Wysg i’r gogledd) cyn dilyn lonydd gwledig i Bontsenni.

Tirwedd: Lonydd di-ddosbarth ar hyd yr holl ffordd, sy’n cynnwys adran uchaf a mwyaf agored y daith, 1174tr (358 km) uwch lefel y môrNid yw’n daith addas i deulu. Serch hynny, mae llwybr oddi ar yr heol sy’n arwain o gwmpas Cronfa Wysg (gweler taflen Bannau Brycheiniog MTB -Sennybridge Green).

 

Adran 3
Pontsenni i Aberhonddu
Pellter: 9 milltir (14km)
Dringfa: 765ft / 233m
Amser: 1 awr

Disgrifiad: Wedi gadael tre’r fyddin ym Mhontsenni, dilynwch lwybr lonydd gwledig ochr ogleddol afon Wysg, gan ddringo a disgyn yn dirion. Gwelir golygfeydd godidog o Fannau Brycheiniog i gyd. Tirwedd: Defnyddir ffyrdd di-ddosbarth sydd mewn cyflwr da. Wrth gyrraedd tref Aberhonddu, dylid gofalu wrth fynd heibio ceir wedi’u parcio a’r traffig cynyddol.Nid yw’r daith hon yn addas i deuluoedd.

Adran 4
Aberhonddu – Llangatwg/Crucywel
Pellter: 15 milltir
Dringfa: 885tr / 270m
Amser: 1.5 – 2 awr
Disgrifiad:Wrth adael tref Aberhonddu, dilynwch lwybr didraffig camlas Mynwy ac Aberhonddu. Rhennir yr adran hon gan Lwybr Taith Taf/Taff Trail a Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) 8. Gan droi oddi wrth y gamlas am ffordd darmac, dilynwch Lwybr Taith Taf ac ailymuno â’r B4558 ym Mhencelli. Ewch drwy bentref tlws Tal-y-bont ar Wysg, dringo dros dwnnel Ashford ar y gamlas, ac ymlaen i Langynidr, lle croesa’r ffordd y gamlas. Dilynwch y B4558, ac ar ôl tua dwy filltir, mae’r ffordd yn troi’n sydyn dros y gamlas eto. Ar y pwynt hwnnw, ailymunwch â llwybr y gamlas. Wrth ddilyn yr adran hon, byddwch yn mynd heibio i safle gŵyl enwog y Dyn Gwyrdd ar y chwith a phentrefi Dardy a Llangatwg. Ffordd arall o gwblhau’r adran hon yw dilyn llwybr y gamlas yn gyfan gwbl.
to this route is to follow the canal towpath throughout. Mae llwybr y gamlas yn addas i deuluoedd.

Tirwedd: Ar y cychwyn, dilyna'r adran hon lwybr llyfn camlas Mynwy ac Aberhonddu. Yna dilyna ffyrdd caled a thaclus hyd nes ailymuno â llwybr y gamlas. Mae cyflwr llwybr y gamlas yn amrywio’n fawr ac yn anaddas i feiciau’r ffordd fawr. Cewch wybodaeth fwy diweddar am gyflwr arwynebedd y llwybr ar wefan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Rhennir llwybr y gamlas gyda cherddwyr a dylid mabwysiadu agwedd ‘rhannu gofod gan arafu’.

Adran 5
Llangatwg/Crucywel i’r Fenni
Pellter: 8 milltir (13km)
Dringfa: 675tr / 206m
Amser: 1 awr
Disgrifiad:Dilynir llwybr y gamlas tan iddo gyrraedd Llwybr Beicio Cenedlaethol (NCN) 46 yng Nglanfa Gofilon. Dilynwch lwybr 46 i ganol tre’r Fenni. Dangosir y ffordd i’r orsaf drên ar amryw o arwyddion amlwg o orsaf y bysiau.

Tirwedd:Mae cyflwr llwybr y gamlas yn amrywio’n fawr ac yn anaddas i feiciau’r ffordd fawr. Cewch wybodaeth fwy diweddar ar gyflwr arwynebedd y llwybr ar wefan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd. Rhennir llwybr y gamlas gyda cherddwyr a dylid mabwysiadu agwedd ‘rhannu gofod gan arafu’. Mae’r Llwybr Beicio Cenedlaethol (NCN) yn gymysgedd o lôn werdd ddidraffig, priffordd a llwybr glan afon. Mae’r adran o Langatwg i Lan-ffwyst (Llanfoist) yn addas i deuluoedd.

Lawrlwytho fap

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf