Skip to main content

Anturiaethau ar y dŵr

Anturiaethau ar y dŵr

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig dewis eang o chwaraeon padlo, o dawelwch camlesi a chronfeydd dŵr i gaiaco eithafol dros raeadrau syfrdanol. Byddwch yn barod i gynllunio eich antur eich hun!

Dewch i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gallwch gael hwyl yn padlo caiac, canŵ, bwrdd padlo, rafft neu hyd yn oed gwneud a phadlo eich cwrwgl eich hun. Gyda dyfroedd wedi’u graddio o Radd 1 (hawdd) hyd at Radd 6 (anodd tu hwnt), yn sicr mae gennym rywbeth at ddant pawb.

Byddwch yn barod, byddwch yn gyfrifol a chadwch yn ddiogel

I gael cyngor pwysig ar arfer dda a diogelwch gan gynnwys y weithdrefn Gwirio, Glanhau, Draenio, Sychu, ewch i’r adran  Byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel.



Busnesau Lleol

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf