Skip to main content

Diwrnod 2: Llanddewi Nant Hodni i Grucywel

Diwrnod 2: Llanddewi Nant Hodni i Grucywel

Man cychwyn:PRIORDY LLANDDEWI NANT HODNI (SO 288278)
Man gorffen: CRUCYWEL (SO 215189)
Pellter: 19km / 12 miles
Dringfa: 890m / 2920tr
Anhawster:  Anodd
Amser:  6 awr
Cyfleusterau yn y man cychwyn: Tafarn, Caffi, Maes Parcio, Tŷ Bwyta, Llety, Safle Bws, Gwybodaeth Parc Cenedlaethol, Siop, Toiledau, Swyddfa’r Post

Ar yr ail ddiwrnod, byddwch yn cychwyn ar ddringfa serth ar hyd Cwm Bwchel ac at Bal Bach. Mewn gwirionedd, byddwch yn croesi tair o’r pedair prif grib yn y Mynyddoedd Du heddiw. Cewch olygfeydd trawiadol o ddyffrynnoedd Gwy, Honddu, Grwyne Fawr a Grwyne Fechan. Peidiwch â methu ymweliad ag Eglwys Patrishow - mae rhannau ohoni’n dyddio’n ôl ers cyn 1065. Mae’r waliau wedi eu haddurno â motiffau lliwgar a llythrennu cain. Pen y daith heddiw ydi Crucywel, pentref bychan sy’n werth ei weld. Mae’n werth gweld y bont hefyd sy’n croesi’r Afon Wysg - yn ddiddorol iawn, mae mwy o fwâu ar un ochr na’r llall!

Cyfarwyddiadau:

O Landdewi Nant Hodni, ewch i gyfeiriad y gorllewin, dros y bont droed, ac i fyny’r dyffryn amlwg. Daw hyn â chi at Fal Bach. Trowch i’r chwith yng nghroesffordd y llwybrau, ac ar hyd y grib. Cymerwch ofal yma, gan fod cyfeiriadu’n anodd mewn gwelededd gwael.

Yn fuan iawn wedi i chi fynd heibio coedwig ar y chwith, trowch i’r dde, a mynd ar i lawr drwy gaeau, heibio i Dŷ Mawr. Yna, ewch dros y bont afon wrth y capel, ac ar i fyny drwy Partrishow. Os oes gennych chi amser, ewch am dro i’r Eglwys hynafol, gyda’i sgrin grog derw ardderchog, a pheintiadau wal ganoloesol.
O’r Eglwys, ewch i gyfeiriad y gogledd, ac yna i’r gorllewin, at fryn agored ac i Grug Mawr. O’r copa, dilynwch y llwybr amlwg i lawr i’r de-orllewin. Ar ôl cyrraedd gwaelod y bryn, trowch yn union i’r dde ar lwybr caniataol at lôn, a throi i’r dde. Oddi yma, mae’r daith yn mynd â chi drwy sawl cae a rhan fechan o ffordd, cyn mynd ar i lawr i lwybr terfyn y bryn, o dan Ben Cerrig-calch.

Mae’r llwybr yma’n mynd heibio bryngaer Oes Haearn, sef Crug Hywel (neu Fynydd y Bwrdd), roddodd yr enw i’r dref Crucywel. Daw llwybr yn ôl i’r terfyn, cyn mynd ar i lawr yn ddidrafferth gyda’r nant, at Grucywel. Mae digonedd o siopau, llety, lleoedd bwyta yng Nghrucywel, ac mae’r dref ar brif lwybr bws i Aberhonddu a’r Fenni.


Uchafbwyntiau

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf