Ymweld â Bro’r Sgydau
Mae Bro Sgydau’n denu llawer iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd. Cyn i chi ymweld, byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
- Mae’r meysydd parcio’n llawn erbyn canol dydd, os nad yn gynt.
- Bydd parcio anghyfreithlon yn arwain at ddirwy a gallai parcio sy’n peri rhwystr arwain at eich cerbyd yn cael ei gymryd i ffwrdd. Parciwch yn y mannau parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd nac ar y palmentydd.
- Gwiriwch y dudalen parcio ceir yma https://carpark.beacons-npa.gov.uk cyn penderfynu ar ymweliad.
- Gall meysydd parcio lenwi’n llwyr o fod yn hanner llawn mewn llai nag awr.
Gwybodaeth Allweddol.
- Dylech nodi nad ydi’r sgydau i gyd yn agos at y meysydd parcio.
- Arian parod yn unig sydd yn cael ei dderbyn yn y peiriannau tâl am barcio - £4 i gar, £7 i fws mini, felly gofalwch fod gennych ddigon o newid mân.
- Dilynwch yr arwyddion cynghori unffordd lle bo’r gofyn.
- Mae’r meysydd parcio yn medru bod yn brysur iawn ac yn llawn yn aml erbyn amser cinio.
- Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am unrhyw gyhoeddiad pwysig ar ddiwrnod eich ymweliad.
Yn swatio dan lethrau deheuol ucheldir y Fforest Fawr, i'r gorllewin o Ferthyr Tudful, mae Bro'r Sgydau’n un o rannau prydferthaf a mwyaf poblogaidd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc y Fforest Fawr, gyda cheunentydd serth, coediog a digonedd o ddŵr yn byrlymu
Mae Bro'r Sgydau yn gorwedd o fewn triongl o bentrefi Hirwaun, Ystradfellte, a Phontneddfechan. Yma, mae haenau o dywodfaen, carreg laid a chalchfaen wedi creu amgylchedd arbennig iawn o geunentydd coediog, ogofâu a rhaeadrau.
Mae Afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd Fechan, isafonydd Afon Nedd, yn tarddu yng nghanol copaon Y Fforest Fawr sef mynyddoedd o Hen Dywodfaen Coch sydd ymhellach i'r gogledd, ac yna’n ymdroelli tua'r de drwy geunentydd serth, coediog Bro'r Sgydau.
Mae arwyddocâd hanesyddol i’r ardal hefyd, a gwelir yma olion ymdrechion dyn i wneud bywoliaeth ar y tirwedd hwn. Mae tua 300,000 o ymwelwyr, gan gynnwys cerddwyr, grwpiau awyr agored, ffotograffwyr, dringwyr, ogofwyr a chanŵ-wyr, yn ymweld â’r ardal yn flynyddol.
Y rhaeadr enwocaf yw Sgwd-yr-Eira ar Afon Hepste, lle mae llwybr naturiol yn mynd y tu ôl i'r llen o ddŵr.
Statws Meysydd Parcio Bro’r Sgydau
***Cofiwch fod rhai o ffyrdd yr ardal hon yn gul iawn, digon o le i ddim ond un cerbyd yn aml, yn droellog a dim ond ychydig o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a bacio ar lonydd cul ***
Bydd timau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phartneriaid yn diweddaru statws pob maes parcio’n rheolaidd.
Cofiwch edrych am statws pob maes parcio yma - https://carpark.beacons-npa.gov.uk. Os yw’n goch, ewch i rywle arall.
Maes Parcio Gwaun Hepste.
O’r De:O’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cyfnod), dilynwch yr A4059 i gyfeiriad y gogledd trwy Penderyn. Unwaith y byddwch yng nghefn gwlad, cymrwch y ffordd fach ar y chwith gyda’r arwydd ‘Ystradfellte’. Cadwch i’r chwith ar ddwy gyffordd, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer maes parcio Gwaun Hepste.
O’r Gogledd: o’r A470 yng Nghronfa Ddŵr y Bannau, cymrwch yr A4059 i’r dde, ac ar ôl 6.5 milltir, cymrwch y ffordd fach ar y dde gyda’r arwydd ‘Ystradfellte’. Cadwch i’r chwith ar y ddwy gyffordd, gan ddilyn arwyddion ar gyfer maes parcio Gwaun Hepste.
Mae meysydd parcio llai wedi eu lleoli yn yr ardal o amgylch Gwlad y Sgydau, ond maent yn llenwi’n gyflym ar yr amseroedd prysuraf.
Gofalu amdanoch eich hun a chefn gwlad
•Gwerthfawrogir heddwch a thawelwch gan y trigolion lleol, yn bobl ac anifeiliaid.
• Dilyn y côd cefn gwlad - Parchwch, diogelwch, mwynhewch


