Teithiau cerdded yng Bro’r Sgydau
Mae Bro Sgydau’n denu llawer iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd. Cyn i chi ymweld, byddwch yn ymwybodol o’r canlynol:
- Mae’r meysydd parcio’n llawn erbyn canol dydd, os nad yn gynt.
- Bydd parcio anghyfreithlon yn arwain at ddirwy a gallai parcio sy’n peri rhwystr arwain at eich cerbyd yn cael ei gymryd i ffwrdd. Parciwch yn y mannau parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd nac ar y palmentydd.
- Gwiriwch y dudalen parcio ceir yma https://carpark.beacons-npa.gov.uk cyn penderfynu ar ymweliad.
- Gall meysydd parcio lenwi’n llwyr o fod yn hanner llawn mewn llai nag awr.
Mae gan bro Sgydau’n ffyrdd serth a llwybrau cerdded serth:
- Byddwch yn ymwybodol fod ffyrdd yn yr ardal hon yn gallu bod yn gul iawn, gydag un lȏn ble mae’n anodd gweld yn iawn ac ychydig iawn o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a gyrru am yn ôl am bellteroedd maith ar hyd y lonydd cul.
- Nifer cyfyngedig o gyfleusterau toiled sydd yn y meysydd parcio ac nid oes unrhyw rai wrth y sgydau.
- Er mwyn cyrraedd y sgydau mae angen mynd am dro hir ar hyd tirwedd anwastad. Nid yw unrhyw un o’r sgydau’n hygyrch i fygis, coetsys na chadeiriau olwyn.
- Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Does dim biniau sbwriel wrth y sgydau.
- Peidiwch â neidio oddi ar unrhyw raeadr waeth pa mor ddeniadol y bo hynny. Mae’r pyllau’n aml yn fwy bas na’r argraff maen nhw’n ei roi ac mae’n bosibl bod creigiau o dan yr wyneb ynddynt. Mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn yr afon yn gyson yn gwirio’r pyllau am rwystrau ac maen nhw’n gwybod beth sy’n ddiogel ar wahanol lefelau dŵr.
- Gwybod cyn cychwyn
- Mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol ar hyd y llwybrau cul o gwmpas y rhaeadr. Yng Nghymru, 2 fetr yw’r canllawiau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol felly, os yw’n teimlo fel petai yna ormod o bobl yna, yna mae gormod o bobl yna. Mae 520 o filltiroedd sgwâr gan y Parc Cenedlaethol felly beth am ymweld ag un o’r llefydd llai prysur gan ddod o hyd i’ch hoff le newydd.
- Helwch ni i’w cadw drwy gymryd gofal a chadw at y llwybrau cerdded a dilyn y Cod Cefn Gwlad
Statws Meysydd Parcio Bro’r Sgydau
Cofiwch fod rhai o ffyrdd yr ardal hon yn gul iawn, digon o le i ddim ond un cerbyd yn aml, yn droellog a dim ond ychydig o fannau pasio. Byddwch yn barod i ildio a bacio ar lonydd cul.
Bydd timau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phartneriaid yn diweddaru statws pob maes parcio’n rheolaidd.
Cofiwch edrych am statws pob maes parcio. Os yw’n goch, ewch i rywle arall.
Mae sawl llwybr wedi ei farcio yn arwain trwy'r ardal brydferth hon o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, at y rhaeadrau mwyaf dramatig.
Mae'r llwybrau yma'n llinol. Dangosir isod gyfanswm y milltiroedd, yno ac yn ôl.
Llwybr Pedair Rhaeadr
Pellter
5.5 milltir
Gradd
Egnïol
Man cychwyn
Gwaun Hepste neu faes parcio Cwm Porth
Cyfeirnod grid OS
SN935123 neu SN928124
Mae'r llwybr hwn yn arwain at Sgwd Clun-Gwyn, Sgwd Isaf Clun-Gwyn, Sgwd y Pannwr a Sgwd-yr-Eira ar Afon Mellte yng nghalon Gwlad y Sgydau.
Llwybr Elidir (Sgwd Gwladus)
Pellter
Pellter
Gradd
Cymedrol iawn, yna cymedrol
Man cychwyn
Pentre Pontneddfechan (neu faes parcio Pont Melin-Fach, er mwyn cerdded y llwybr am yn ôl)
Cyfeirnod grid OS
SN900075 neu SN907104
Dyweder bod 'na fynedfa i deyrnas tylwyth teg rywle ar hyd llwybr Elidir, sy'n mynd â chi i fyny'r afon ar hyd llwybr ar ochr dde Afon Pyrddin i Sgwd Gwladus.
Er mwyn parhau, ewch yn ôl at yr afon ac anelwch i'r chwith ar hyd glannau Nedd Fechan er mwyn cyrraedd Sgwd-y-Bedol, sydd wedi ei ffurfio mewn sawl lefel o ochrau siâp hanner cylch. Ychydig yn bellach i fyny'r afon mae dŵr yn llifo i lawr dros Sgwd Ddwli Isaf a Sgwd Ddwli Uchaf sy'n haeddu eu henwau ar ôl glaw trwm. Oddi yma gallwch barhau i'r ardal bicnic ym Mhont Melin-Fach neu fynd yn ôl i Bontneddfechan.
Llwybr Powdr Gwn
Pellter
Pellter
Gradd
Cymedrol iawn
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas - trowch i'r dde dros y bont ac yna i'r dde eto i gyrraedd panel croeso i'r llwybr
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mewn ceunant ar ben pellaf pentref Potneddfechan mae adfeilion Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd. Mae'r Llwybr Powdr clywedol yn mynd â chi ar daith hynod trwy'r safle hanesyddol hwn, gan ddarganfod sut fywyd oedd gan y dynion a'r merched oedd yn gweithio yng nghrefft beryglus cynhyrchu powdr gwn. Mae'r daith gerdded yn mynd â chi trwy leoliad coediog, ag Afon Mellte yn llifo oddi tano.
Llwybr Sychryd
Pellter
0.5 milltir
Gradd
Cymedrol iawn, mynediad haws
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mae llwybr llwch-carreg yn troelli i lawr y ceunant cul coediog gerfiwyd gan yr Afon Sychryd at Sgydau Sychryd. Ar ochr arall yr afon mae'r graig ysblennydd a elwir yn Bwa Maen, sef plyg daearegol hynod. Mae'r llwybr yma'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn cadarn a choetsys plant.
Llwybr Sgwd yr Eira (o faes parcio Craig y Ddinas)
Pellter
2 filltir
Gradd
Egnïol
Man cychwyn
Maes parcio Craig-y-Ddinas
Cyfeirnod grid OS
SN912079
Mae'r llwybr yma'n arwain at Sgwd-yr-Eira. Mae'r clywedol yn disgrifio sut mae'r tir hwn wedi cael ei ddefnyddio gan wahanol bobl, o ffermwyr cynnar i gloddwyr creigiau a dringwyr.
Cadwch lygad am arwyddion melyn a physt wedi eu rhifo ar hyd y ffordd, sy'n dweud wrthoch chi pa drac i'w chwarae.