Skip to main content

Coed, planhigion a bywyd gwyllt Gwlad y Sgydau

Coed, planhigion a bywyd gwyllt Gwlad y Sgydau

Mae ceunentydd creigiog, serth a rhaeadrau pendramwnwgl Gwlad y Sgydau wedi eu gorchuddio â chanopïau canghennog o goed ynn a derw. Mae gwyrddni'r mwsoglau a'r rhedyn yn glynu at wyneb pob carreg a boncyff coeden, yn gymysg â lliwiau brown, melyn a llwyd y cen.

Mae presenoldeb parhaol dŵr yn creu awyrgylch llaith a gwlyb ac mae'r ochrau serth yn cysgodi'r ardal oddi wrth yr haul a'r gwynt. Yn yr amgylchedd cynnes a gwlyb hwn, mae planhigion yn gorchuddio pob arwyneb. Dydy'r coed derw ac ynn ddim wedi cael eu haflonyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae canopi trwchus wedi datblygu. Coedwig law Gymreig yw hon, sydd lawer prinnach na'r goedwig law drofannol fwy adnabyddus. Dim ond llond llaw o lefydd tebyg sydd i'w cael yn y byd.

Ystyrir Gwlad y Sgydau yn un o'r esiamplau gorau ym Mhrydain o gynefin coediog yr hen goeden dderw ddigoes a'r onnen. Mae'r awyrgylch llaith yn darparu amgylchedd delfrydol i blanhigion coetir prin i ffynnu ar glogwyni, creigiau a boncyffion coed. Mae'r rhywogaethau o redynen sydd yma'n cynnwys marchredynen weir-aroglus, llawredynen y ffawydd, lloer-redynen, duegredynen werdd, rhedynach teneuwe a rhedynen Wilson.

Mae 'na hyd yn oed fwy o amrywiaeth o fwsoglau a llysoedd yr afu. Ar lefel y llawr mae 'na fforchfwsogl mawr, matfwsogl y gorllewin, cod-afuad hirganghennog, ac, yn y mannau mwyaf llaith, matfwsogol brigog. Mae cerrig mawr a choed derw'n gallu cynnal clustlys gorllewinol, mae rhwd pren ar hyd boncyffion coed sydd wedi cwympo, ac mae afuad rhiciog Heller ac afuad crynddail yr hydref yn tyfu ar risgl y dderwen a boncyffion sy'n pydru. Mae llysoedd yr afu a mwsoglau'n ffynnu yn yr afonydd a'r nentydd, ac mae creigiau a chlogwyni'r rhaeadrau wedi eu gorchuddio mewn rhywogaethau fel mwsogl pluog rhydlyd a plufwsogl cwt cadno, ac weithiau crynfwsogl Hartmann, pocedfwsogl yr afon, pocedfwsogl cochlyd a chelynllys Hutchins, ac ar rai clogwyni mae cen clorin Chrysothrix melyn llachar wedi cael ei ddarganfod.

Er nad ydynt yn cael eu gweld yn aml, mae dyfrgwn yn byw ar lannau'r afon, wrth eu bodd yn y diogelwch a gynigir gan y coetir trwchus. Mae pili palod yn hedfan ar hyd y dŵr a mannau agored sydd wedi eu creu gan goed sydd wedi cwympo. Mae adar fel y fwyalchen ddu a'r siglen lwyd yn dawnsio ar hyd craig agored sianeli'r afon. Gyda'r nos, mae ystlumod prysur yn y coed ac uwchben y dŵr, yn hela'r gwyfynod niferus a'r pryfaid eraill sy'n byw o dan fantell y coed.

Rhaeadrau a bywyd gwyllt

Mae'r podlediad 15 munud o hyd hwn yn cynnwys cyfweliadau gyda staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n trafod y fioamrywiaeth gyfoethog sydd i'w weld ar hyd y llwybr rhwng Sgwd Gwladus a Phont Melin-Fach. Mae daearegwr o Brifysgol Abertawe hefyd yn datgelu mwy am y rhaeadrau sydd i'w gweld yn yr ardal hon.

Mae'r podlediad yn ychwanegiad diddorol i lwybr clywedol Elidir ar gyfer rheini sydd eisiau mentro ymhellach na Sgwd Gwladus, neu'r rheini sy'n dechrau eu taith gerdded ym Mhont Melin-Fach. Bydd y podlediad hefyd yn rhoi syniad i chi am beth sydd i'w weld yn yr ardal, a gobeithio y bydd hynny'n eich temtio chi i ddod yma.

Gwrando |   Lawrlwytho

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf