Skip to main content

Archeoleg a hanes Gwlad y Sgydau

Archeoleg a hanes Gwlad y Sgydau

Mae'r dirwedd hon o'r rhan hon o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cael eu ffurfio gan rymoedd naturiol a diwydiant dynol.

Wedi ei cherfio dros filoedd o flynyddoedd: daeareg Gwlad y Sgydau

Mae Gwlad y Sgydau (a elwir hefyd yn Coed-y-Rhaeadr) yn rhan o Geoparc Fforest Fawr, rhan ddaearegol fwyaf nodedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma, dros filoedd o flynyddoedd, mae prosesau naturiol wedi creu ardal o brydferthwch naturiol crai.

Mae pob un o'r teulu cynyddol o Geobarciau Ewropeaidd ac UNESCO yn ardal o dreftadaeth ddaearegol bwysig ac yn aml, anhygoel. Serch hynny, mae mwy i'r Geobarciau na chreigiau, mae pobl hefyd yn bwysig ynddynt. Mae straeon dynol hynod yn codi o'u tirweddau unigryw. Mae Geobarciau yn dathlu hanesion a diwylliant lleol, archeoleg a'n perthynas ehangach gyda'r tir. Maen nhw hefyd yn ddosbarthiadau awyr-agored a llefydd heb eu hail ar gyfer astudiaethau gwyddonol.

Yn ystod Oesoedd Iâ olynol yn ystod y miliynau o flynyddoedd diwethaf mae Cwm Nedd wedi cael ei gafnu gan iâ rhewlifol fel bod ei lawr filoedd o fetrau'n is nag y byddai wedi bod cyn yr Oesoedd Iâ. O ganlyniad i hyn, mae nifer o isafonydd Cwm Nedd (gan gynnwys y Mellte, Hepste a'r Nedd-Fechan) wedi eu hadfywio, wrth dyrchu i'w gwelyau i ffurfio ceunentydd dyfnion sy'n nodweddiadol o Wlad y Sgydau.

Mae tyrchu yn fwyaf amlwg ble mae'r creigwely yn garreg llaid tra mae gwelyau tywodfaen yn cynnig mwy o wydnwch ac maent yn gyfrifol am y rhaeadrau a'r dyfroedd gwyllt. Ble mae ffawtiau llawer hŷn wedi dod â'r ddau fath o garreg ynghyd, mae tyrchu ger afonydd yn y garreg llaid wedi gadael ymyl ymwthiol o dywodfaen yn mesur degau o fetrau o uchder mewn mannau.

Gyda'r cerrig llaid gwaelodol agored yn parhau i gael eu torri a'u symud, mae'r pwysau ar y gapgraig dywodfaen ymwthiol uwchben yn golygu ei bod yn cwympo. Mae amodau tywydd eithafol - cyfradd llifiant uchel a rhew difrifol - yn cyflymu'r broses.

Mae'r rhaeadrau'n mudo'n araf i fyny'r afon ar raddfa all gael ei phenderfynu gan y pellter rhwng pob rhaeadr unigol a'r ffawt sy'n aml yn gorwedd rhai metrau i lawr yr afon oddi wrthi. Mae Sgwd-yr-Eira yn enghraifft dda o'r broses hon, un sy'n parhau hyd y dydd heddiw, ac a amlygwyd gan y problemau a gafwyd gyda chreigiau rhydd yn 2008.

Chwareli, cloddfeydd a phowdr gwn: hanes Gwlad y Sgydau

Mae 'na oddeutu 130 safle hanesyddol hysbys o fewn Gwlad y Sgydau, gan gynnwys bryngaer Craig-y-Ddinas, strwythurau diwydiannol Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd ger Pontneddfechan, a Sarn Helen, ffordd Rufeinig hynafol sy'n rhedeg rhwng caerau Coelbren a Chaer Aberhonddu, sy'n amgylchynu ymyl ogledd-orllewinol yr ardal.

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru arteffactau o'r ardal sy'n dyddio’n ôl i'r oes Neolithig. Cafodd pen bwyell efydd fawreddog ei ddarganfod mewn cae ym Mhontneddfechan.

Cydfeddiannodd y Normaniaid Fforest Fawr gan ei gwneud yn heldir a warchodwyd ar gyfer hela ceirw. Yn y Canol Oesoedd cafodd rhai dynion lleol eu recriwtio gan y fyddin, eu hyfforddi yn Llys Tretŵr, ac aethant i ymladd ym Mrwydr Agincourt.

Mae digon o amrywiaeth ddaearegol ar ymyl ddeheuol y Parc, a datblygwyd amryw o weithgareddau chwareli a chloddfeydd yma. Roedd y rhain yn cynnwys cloddio silica, cloddio melinfaen a llosgi calchfaen mewn odynau mewn ardaloedd caeedig er mwyn cynhyrchu calchfaen i'w ddefnyddio mewn amaeth lleol.

Rhedai melinau ŷd a Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd ar bŵer yr afon. Credir bod Gweithfeydd Powdr Gwn Glyn-nedd yn unigryw yng Nghymru. Dewiswyd y safle am ei leoliad caeedig ac ynysig.

Credir bod llawer mwy o safleoedd yn yr ardal yn dal i aros i gael eu darganfod. Gallai rhai o'r rhain fod yn safleoedd mawr, yn debyg mewn maint i'r ganolfan gloddio fawr ar Foel Penderyn, sy'n cynnwys chwareli, goleddau a thramffyrdd.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf