Skip to main content

Deg syniad am hwyl i'r teulu

Deg syniad am hwyl i'r teulu

Ein Parc Cenedlaethol yw’r lle chwarae gorau erioed. Mae yna lu o bethau i deuluoedd bywiog i’w gwneud. Wrth gwrs, nid oes angen llenwi pob dydd gyda gweithgareddau drud - gall pethau syml fel picnic a rasio brigau o dan y bont fod yn llawn gymaint o hwyl. Yn wir, mae nifer o’n hoff syniadau yn hollol rad ac am ddim.

1. Byddwch yn frenin y castell yng Ngharreg Cennen

Gadewch i’r rhai bach sgrialu o gwmpas adfeilion mwyaf trawiadol Sir Gaerfyrddin. Byddant wrth eu bodd. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar Gastell Carreg Cennen.

2. Rhwyfwch i lawr yr Afon Gwy

Ewch i ganŵio neu gaiacio ar yr afon gyda threfnwyr profiadol fel Wye Valley Canoes  yna bwytewch lond eich bol o ginio lleol blasus ar lan yr afon yn The River Café, Y Clas-ar-Wy. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar canoeing and kayaking.

3. Chwaraewch ‘Rwy’n gweld gyda fy llygad bach i’ yn Aberhonddu, Y Fenni neu yn Nhalgarth

Trowch daith siopa mewn i fore o hwyl drwy chwarae gemau a fydd yn cadw llygaid y plant yn agored led y pen. Os yw un o’n marchnadoedd fferm lleol ar agor, fe fydd yno ddigon o ddanteithion i’w blasu. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar farmers' markets.

4. Ewch i ferlota

Os yw’ch plant yn ferlotwyr profiadol neu’n ddechreuwyr llwyr, bydd yr hyfforddwyr cymwysedig yn ein canolfannau merlota yn eu cadw’n ddiogel. Gall plant mor ifanc â phedair blwydd oed gymryd rhan. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar horse riding and pony trekking.

5. Dringwch fynydd, ewch ar helfa pryfed a hedfanwch farcut

Dringwch fynydd enfawr, a gwyliwch am ieir bach yr haf, gwenyn a phryfed eraill ar y ffordd. Mae Mynydd Pen y fâl yn un da, gyda maes parcio Mynydd Llanwenarth yn fan dechrau hwylus. Mae’r ddringfa’n hawdd ar y dechrau, ond efallai y bydd yn well i goesau byrion osgoi’r darn serth ger y copa. Ewch â barcut gyda chi - ar ddiwrnodau gwyntog, mae Pen y fâl yn lle hedfan delfrydol. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar walking.

6. Casglwch fwyar duon yng nghefn gwlad

Yn hwyr ym Mis Awst a Mis Medi, mae’r cloddiau’n llawn o fwyar blasus. Cyn belled â’ch bod yn cadw llygad arnynt, gall y plant chwilota fel y mynnont. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar natural habitats and nature trails.

7. Dysgwch y gwahaniaeth rhwng stalactidau a stalagmidau

Yn y National Showcaves for Wales, mae llwybrau diogel yn eich galluogi i archwilio ogofâu calchfaen naturiol bendigedig, sy’n cynnwys sgerbydau dynol. A petasai hynny ddim yn ddigon cyffrous, yno hefyd mae un o barciau deinosor mwyaf y byd, canolfan ceffylau gwedd, sgubor chwarae a mwy. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar Dan-yr-Ogof National Showcaves Centre for Wales.

8. Ewch yn fwdlyd, dringwch i frig y coed a gwibiwch drwy’r awyr

Mae gan Llangorse Multi Activity Centrelwyth o sialensiau hwyl ar gyfer plant o bob oedran ac oedolion, fel dringo waliau, pontydd rhaff, llinellau sip a chwrs gwlyb a mwdlyd y Dingle Scramble. Whiw! I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar Llangorse Multi Activity Centre

9. Syllwch ar y sêr

Os yw hi’n noson glir, di-leuad yn ystod eich ymweliad, byddwch yn ffodus iawn. Bydd y sêr yn ddigon o sioe. Gafaelwch mewn llyfr, siart neu fap o sêr, a cheisiwch adnabod rhai o’r cytserau. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar stargazing.

10. Chwiliwch am olion yn yr eira

Felly, mae hi wedi bod yn bwrw eira. Gwych! Mae’n amser am beli eira, dynion eira, ac ychydig o waith ditectif bywyd gwyllt. Ewch allan i gefn gwlad, neu i’r ardd, i weld a all eich plant ddyfalu pa greaduriaid sydd wedi mynd heibio yn ystod y nos. I ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen ar wildlife-watching.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf