Priordy Llanddewi Nant Hodni
Mae cyfle ardderchog am antur yn adfeilion llawn awyrgylch yr eglwys Awstinaidd hon o ddechrau’r 13eg ganrif yn nyffryn hardd ac anghysbell Ewias neu Landdewi Nant Hodni.
Gwybodaeth bellach:
Mae’r tir yn laswelltog ac anwastad ac mae rhannau penodol na ellir eu cyrraedd ond drwy ddringo gris neu ddwy. Gellir gweld rhai o'r adfeilion gerllaw'r maes parcio. Mae byrddau dehongli a man gwybodaeth electronig yn y maes parcio. Mae’r Priordy yng ngofal CADW. Bellach, mae gwesty yn llety’r hen Briordy.
Sut i gyrraedd: Mae Priordy Llanddewi Nant Hodni 14km i'r gogledd o'r Fenni ar y B4423 rhwng Llanfihangel Crucornau a'r Gelli Gandryll. Sylwer: Mae’r ffordd rhwng Llanddewi Nant Hodni a'r Gelli Gandryll yn gul gyda nifer cyfyngedig o fannau pasio.
Tref neu bentref agosaf: Llanfihangel Crucornau.
Cyfeirnod Grid OS: Map Explorer OL 13 neu Fap Landranger 161 - SO 288 278.
Cysylltwch â: CADW ar 01443 336000.
Cyfleusterau: Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y safle hwn ar wahân i'r gwesty. Mae'r siopau agosaf yn Llanfihangel Crucornau. Mae'r adfeilion ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Parcio: Mae gan y maes parcio mawr arwyneb llwch-carreg cywasgedig a gall fod yn arw mewn mannau.
Toiledau: Mae toiledau sylfaenol, gan gynnwys toiled i'r anabl yn y prif faes parcio. *Mae toiledau ar gau oherwydd COVID-19*