Skip to main content

Pen-y-Crug

Mai’n Fis Cerdded: Llwybrau wedi’u hargymell gan Lysgennad

Pen-y-Crug

Gydol Mis Cerdded Cenedlaethol byddwn yn rhannu rhai o hoff deithiau cerdded ein Llysgenhadon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Pwy a ŵyr, efallai daw un yn eich hoff daith gerdded newydd chithau hefyd!

Mae taith yr wythnos hon i Ben y Crug o Aberhonddu ar argymhelliad Sean Crawford, Llysgennad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Pen-y-Crug view ©Sean Crawford
©Sean Crawford

Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r daith gerdded hon, rwy’n siŵr; mae’n boblogaidd iawn ymhlith preswylwyr Aberhonddu.

Mae’n ffefryn gen i a gallaf ei chwblhau o fewn yr awr. Gallwch barcio unrhyw le yn Aberhonddu a cherdded allan o’r dref ar hyd un o ddau lwybr i fyny at Ben y Crug, a gallwch eu cyfuno i greu cylched. Gallwch weld y ddau lwybr ar y cerdyn taith hwn (sydd hefyd yn nodi peth o hanes diddorol y bryncir)

Mae’r ddau lwybryn gyfle i fynd am dro egnïol a gweld ehangder y golygfeydd dros gefn gwlad Sir Frycheiniog, a diweddu ar frig un o gyfres o fryngaerau oes yr haearn Dyffryn Wysg.

Ysgrifennodd y naturiaethwr enwog John Muir “Dim ond mynd allan am dro wnes i, ond penderfynais aros allan nes iddi fachlud, oherwydd canfyddais wrth fynd allan, roeddwn yn mynd i mewn”.

Wrth gerdded gallaf deimlo rhyddid y bryniau a’r gwynt yn fy ngwallt, ond hefyd fel Muir efallai, rwy’n cysylltu nid yn unig â’r tir ond â fy hunaniaeth mewnol fy hunan hefyd.  Ac wrth wneud hynny, anaml y byddaf am ruthro’n ôl adref wrth fynd am dro. Ar ôl cyrraedd copa Pen y Crug byddaf yn dueddol o loetran ychydig yn hirach nag y byddwn erioed wedi ei fwriadu. Ac felly y bu ar y diwrnod y dewisais y tro cerdded penodol hwn.

 minnau’n rhydlyd ar ôl diwrnod o weithio wrth fy nesg, rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael peth trafferth i ysgogi fy hunan i adael y tŷ. Fodd bynnag, roedd yr aer yn ir, yr awyr yn las ac ar ôl diwrnod o weithio wrth y gliniadur, roedd olion llachar haul y gwanwyn yn ddigon i’m denu.

Wrth anelu i fyny’r lȏn sy’n pasio Crug Villa, teimlais f’ysbryd yn codi wrth i mi ddatgloi’r  gât fach i’r comin ar frig Pen y Crug. Rwy’n caru’r rhyddid o gerdded ym Mannau Brycheiniog ond caf yr un bodlonrwydd wrth gerdded ar hyd tiroedd comin mwynach yr ucheldir o gwmpas Aberhonddu, ac mae Pen y Crug yn eu plith.

Mae’r olygfa o Ben y Crug yn unigryw. Gallwch weld canol Bannau Brycheiniog o’r tu allan ac mae’r pegynau i’w gweld ar hyd Dyffryn Wysg. Mae’r olygfa honno yr un mor hudolus ag yw bod yn y bryniau eu hunain – rhywbeth y gwnes i ei werthfawrogi wrth i mi oedi ger biler triongli’r copa.

Eisteddais ar y glastir i fwynhau’r olygfa – a’r olaf o gynhesrwydd pelydrau’r haul. Roedd merlod yn pori gerllaw ac ambell i gerddwr yn pasio heibio. Arhosais yno, gan anwybyddu amser; gwyliais ac arhosais.

Pen-y-Crug sunset © Sean Crawford
© Sean Crawford

Roedd y machlud yn dangnefeddus wrth i’r haul losgi’r gorwel. Eto, doeddwn ddim am ruthro am adre. Wrth i’r haul fachlud, yn aml bydd gwir brydferthwch i’w gweld wrth edrych i’r cyfeiriad arall. Ac yno, wrth i mi droi fy ngholygon o’r machlud roedd y gwrid y wybren, i’r dwyrain, uwchben Mynydd Du yn pefrio â lliw rhosyn tyner.

Eisteddais a mwynhau’r olygfa am ennyd cyn i mi ymlwybro yn ôl at Aberhonddu, trwy’r dolydd at ffynnon Maen Du gan fyfyrio ar ba mor gywir oedd geiriau John Muir am aros allan tan y machlud.

Sean Crawford, Mai 2021

Instagram @seancrawfordphotography

———————————————————————————

Pan fyddwch chi allan yn cerdded, cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddiogel.

Rydym yn argymell defnyddio map OS o’r ardal ar y cyd â’r blog hwn. Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog arddel unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddamwain neu anaf allai ddigwydd wrth ddilyn y llwybr hwn.

cylchlythyr

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r cynigion diweddaraf