Dringo creigiau ac abseilio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Os ydych yn mwynhau dringo, pam na edrychwch ar y byd o ongl wahanol a chyrraedd y brig ar glogwyni Bannau Brycheiniog?
Mae gan y Parc Cenedlaethol sawl her naturiol i ddringwyr ac abseilwyr, gan gynnwys clogwyni cysgodol, hen chwareli a chribau creigiog sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol. Yn yr ardaloedd cysgodol, gellir dringo drwy gydol y flwyddyn - ar ddiwrnod gaeafol, heulog, gallech fod yn ddigon lwcus i symud dros graig gynnes mewn crys-T. Mae opsiynau eraill dan-do ar gael ar gyfer pob tywydd.
Beth i’w wneud
1. Blasu (i ddechreuwyr)
Ewch i sesiwn blasu gyda hyfforddwr cymwys, profiadol a fydd yn eich cyfarwyddo a rhoi blas ar ddringo ac abseilio.
2. Datblygwyr (i rai sy’n dychwelyd ac yn gwella’u sgiliau)
If you 've tried it, liked it aOs cawsoch brofiad eisoes ac yn awyddus i wneud mwy, yna gall Hyfforddwr Mynydda eich cyfarwyddo tua llwybrau gorau’r ardal neu ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i chi ddod yn ddringwr annibynnol. Mae gwefan y nd are keen to do more, then a Mountaineering Instructor can guide you on the best routes the area has to offer, or teach you the skills needed to become an independent climber. Gymdeithas Hyfforddwyr Mynydda yn rhestru hyfforddwyr lleol.
3. Profiadau annibynnol (ar gyfer arbenigwyr a’r brwdfrydig)
Ydych chi’n ddringwr eisoes? Os ydych am ychydig o antur a chreigiau o ansawdd yna daethoch i’r lle cywir! Gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel. Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog amrywiaeth o lwybrau traddodiadol sy’n cael eu diogelu, llwybrau chwaraeon bolltiog, a chlogfeini ardderchog, y cyfan mewn lleoliadau trawiadol o hardd. Mae Clwb Mynydda De Cymru yn cyhoeddi canllaw lleol Gŵyr a de-ddwyrain Cymru sy’n cynnwys yr ardal. Mae eu gwefan yn rhoi gwybodaeth i ddringwyr profiadol sy’n cynllunio taith.
Ble i fynd
Awyr-agored
Mae’r lleoliadau awyr-agored gorau i’w cael ar hyd yr ardal galchfaen ar ochr ddeheuol y Parc Cenedlaethol.
Dan do
Yng Nghanolfan Aml-weithgaredd Llan-gors, i’r dwyrain o Aberhonddu, mae canolfan ddringo dan do ar greigiau go iawn, waliau dringo artiffisial, clogfeini, ogofa dan do a chaffi. Mae canolfannau dringo dan do eraill gerllaw, gan gynnwys Aber Rocksyn Y Fenni, Summit Centreger Merthyr Tudful, Dynamic Rockyng Nghlydach ger Abertawe a Bouldersger Caerdydd.
BUSNESAU LLEOL 6 o 13
-
Gweithgareddau Rhyngweithiol Awyr-agored
Wedi’i sefydlu yn 1995 ac yn dal i fynd yn gryf, mae’n gwmni bach gyda dros 30 mlynedd …
-
Gwyliau gweithgaredd Cymru
-
Anturio Diamod
Absolute Adventure is a well established licensed activity provider based i...
-
Mynydd a Dŵr
Beth fyddai’ch antur awyr-agored ddelfrydol? Teithio’n hamddenol mewn canŵ …
-
Academi Goroesi Bear Grylls
Bear Grylls - goroeswr mwyaf adnabyddus y byd …
-
Cwadiau Dyffryn Taf
busnesau lleol6 of 14
-
Beacon Activities
Beacon Activities specializes in individual and small group outdoor activit...
-
Hawk Adventures
Award Winning Providers of Outdoor Activities, Hawk Adventures have been pr...
-
Inspire2Adventure
Guided open canoe river trips, Gorge Scrambling Experience, High Level Rope...
-
Adventure Britain
AWARD WINNING ACTIVITIES. CALL NOW FOR - Canyoning | Climbing | Caving | Go...
-
Llangorse Multi Activity Centre
Llangorse Multi Activity Centre is Wales' Premier Award-Winning Indoor and ...
-
Pro-Active Adventure
Pro-Active Adventure is a respected and experienced provider of Outdoor Act...