Bryngaer Oes Haearn Pen-y-Crug

Yn sefyll ar gopa bryn amlwg uwchben Dyffryn Wysg, dyma un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae olion bryngaer Pen-y-Crug i'w gweld ar y Crug, bryn 1.5 milltir i'r gogledd-orllewin o Aberhonddu, yn 331m o uchder. Byddai ei rhagfuriau, sydd heddiw'n llethrau gwrthglawdd crynion a ffosydd, wedi bod yn gerrig trawiadol a gwrthgloddiau pridd gyda phalisâd amddiffynnol pren wedi ei adeiladu ar y top. Roedden nhw'n galluogi'r rheini oedd yn byw yn y fryngaer i amddiffyn eu hunain ac roedd yn rhwystr arswydus i unrhyw un a geisiai ymosod ar y lleoliad. Roedd mynediad i du mewn y fryngaer trwy fynedfa sengl wedi ei gwarchod ar ochr dde-ddwyreiniol y fryngaer.

Er mai ychydig yn unig, uwchben y ddaear, o'r tai crynion, corlannau ac ysguboriau a arferai fod tu mewn i'r fryngaer sydd ar ôl, yn ystod yr Oes Haearn byddai Pen-y-Crug wedi bod yn lle prysur iawn, ble roedd pobl yn byw, gweithio, ffermio a masnachu. Efallai ei bod hyd yn oed yn ganolfan wleidyddol, gymdeithasol a chrefyddol bwysig i'r ardal leol.

Mae'n hawdd gweld pam y dewisodd pobl yr Oes Haearn adeiladu safle amddiffynadwy yma. Mae gan y bryn olygfeydd helaeth o ganol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â golygfeydd o nifer o fryngaerau cyfagos gan gynnwys Coed Fenni Fach ar y bryn gyferbyn (sydd bellach yn goediog) ac o Dwyn-y-Gaer ar Fynydd Illtud ar ochr arall y dyffryn.

Beth sydd i'w weld ym Mhen-y-Crug

Heddiw mae'r safle ar dir comin ac mae'n berchen i, ac yn cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r daith gerdded at y fryngaer yn werth chweil, yn cwmpasu olion archeolegol trawiadol gyda golygfeydd eang a thrawiadol o'r Bannau Canolog.

Mae olion y fryngaer sydd i'w gweld heddiw'n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn (tua 800CC i 75OC), er fod peth tystiolaeth fod pobl wedi bod yno'n gynharach. Mae 'na hyd at bum rhagfur yn dal i oroesi, wedi eu gwneud o bridd a charreg, ac yn sefyll dros fetr o uchder mewn llefydd ac yn amgylchynu ardal o bron i ddau hectar.

Yn y 18fed a 19eg ganrif, roedd gwaith teils a brics ar rannau o'r bryn ble saif Pen-y-Crug, ac mae hen chwarel deils, gyda llwybrau o ffosydd, hen weithiau chwarel a phyllau clai, llwybrau ac odynau yn awgrymu rôl y Crug fel safle diwydiannol lleol pwysig.