Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu

Mae ucheldiroedd glaswelltog gyferbyn â Pharc Gwledig Craig-y-Nos a Chanolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Dan-yr-Ogof yn cuddio rhwydwaith ddyrys o ogofâu a rhaeadrau, stalagmidau a stalactidau, tramwyfeydd a thyllau.

Mae Ogof Ffynnon Ddu yn cyfeirio at system o ogofâu enfawr a ddarganfuwyd o dan y rhostiroedd yn 1946. Mae’n fyd tanddaearol dwfn (300m) gyda hyd cyffredinol o dros 30 milltir a’r gwahaniaeth mewn lefel rhwng ei bwyntiau uchaf ac isaf yn 308m, sy’n record ar gyfer y DU.

Uwchben y ddaear

Mae'r warchodfa, a leolir dros 350m uwchben lefel y môr, yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol mwyaf cyffrous Cymru, gyda golygfeydd syfrdanol ar draws De Cymru a Bannau Brycheiniog. Mae'r tir yn gymysgedd o frigiadau creigiog, gydag ychydig o lwybrau amlwg. Ond peidiwch â throi eich trwyn, am fod Ogof Ffynnon Ddu yn werth chweil i’r rhai sy'n cymryd amser i edrych arni’n llawn ac yn gwerthfawrogi ei chymeriad hudolus.

Y rhaniad mawr

Mae'r warchodfa yn edrych dros doriadau dwfn yng nghramen y ddaear, a elwir yn Aflonyddwch Cwm Tawe, sy'n nodi’r ffin rhwng y diwydiannol a’r gwledig yn Ne Cymru. Mae’r gorwel gogleddol yn llawn o laswelltiroedd llyfn sy'n cwmpasu'r hen greigiau tywodfaen coch sy'n dominyddu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

I'r de, mae'r ddaeareg yn wahanol iawn. Yn gyntaf daw band eang o galchfaen, yna band hyd yn oed mwy eang o grut melinfaen - y ddwy graig sy'n nodweddu’r warchodfa. Yn y de mae’r mesurau glo sydd wedi cael eu hecsbloetio ers y Chwyldro Diwydiannol.

Hydoddi gan ddŵr, llyfnhau gan rew

Mae llawer i'w weld ar yr wyneb, hefyd. Gwelyau cnotiog calchfaen, wedi'u hollti sy’n meddiannu'r llethrau isaf tra bod y grib uwch i'r de yn cael ei guddio gan grut melinfaen.

Gallwch weld y calchfaen ar ei orau mewn adran o galchbalmentydd ar hyd pen gogleddol y warchodfa. Yma, mae'r graig yn torri gan y straen a achosir gan Aflonyddwch Cwm Tawe, a chafodd y craciau hyn eu hagor gan ddŵr yn hydoddi’r calchfaen i ffurfio nodweddion clasurol a elwir yn greiciau.

Gallwch weld mwy o dystiolaeth o effaith erydol y dŵr ar draws y dirwedd, sy'n cael ei farcio gan dyllau sinc - canlyniad toeau ogofâu a thwneli yn disgyn.

Mae llwyfandir o grut melinfaen yn dominyddu llawer o'r warchodfa, gan roi tystiolaeth o’r Oes Iâ diwethaf, 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar y grib, mae tywodfeini caled iawn wedi cael eu llyfnhau a’u sgleinio gan symudiad y rhew a arferai orchuddio'r arwynebau. O bellter maen nhw’n disgleirio yn llygad yr haul, fel drych mawr, ond o edrych yn fanylach datgelir marciau crafu, sy'n dangos cyfeiriad teithio'r llen o iâ. Mae tystiolaeth rewlifol arall yn cynnwys meini dyfod, creigiau mawr a chlogfeini sydd wedi eu gadael yn stond gan y rhewlif wrth i'r iâ encilio.

Bywyd Gwyllt

Mae glaswelltiroedd llawn perlysiau yn tyfu ar y calchfaen, tra bod grug a gweundir llus yn gorchuddio’r mawn asidig sy’n gorwedd ar y grut melinfaen. Mae'r calchbalmentydd hefyd yn gyfoethog o ran fflora, yn enwedig yn y greiciau anhygyrch cysgodol. (Mae’r ardal hon yn cael ei diogelu ymhellach rhag defaid yn pori trwy gael ei ffensio).

Mae'r blodau ar eu gorau ar ddechrau’r haf. Mae'r warchodfa yn cynnwys rhywogaethau prin, gan gynnwys edafeddog y mynydd, crwynllys yr hydref, tormaen llydandroed a bwrned mawr. Mae’r gorfanhadlen flewog, llwyn isel â blodau melyn, yn un rhywogaeth arbennig o brin sy’n tyfu yma.

Mae adar ar y warchodfa yn cynnwys hebogau tramor, y troellwr mawr, cigfrain, mwyalchen y mynydd, tinwen y garn, y rugiar goch a'r barcut coch. O dan y ddaear, mae’r dyfroedd yn cynnwys cramenogion a ellir ond goroesi o dan y ddaear, a'r ogof yn gynefin gaeafol ar gyfer gwyfynod ac ystlumod.

Ymweld ag Ogof Ffynnon Ddu

Mae Ogof Ffynnon Ddu yn agored i'r cyhoedd. Mae mynediad yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, mae mynediad i'r ogofâu yn cael ei gyfyngu i ogofwyr profiadol yn unig. Gall y tir fod yn arw iawn dan draed mewn mannau. I fynd am dro hamddenol, gallwch ddilyn yr hen reilffordd ar hyd ochr y dyffryn. Er bod hyn yn mynd heibio ymyl y warchodfa’n unig, mae'r golygfeydd yn ysblennydd.

Gall cerddwyr mwy profiadol a brwdfrydig gael mynediad i galon y warchodfa drwy ddilyn llwybrau i fyny o'r maes parcio. Un llwybr cyfleus sydd wedi’i ddiffinio'n dda yw’r hen dramffordd, llethr serth sy'n dringo i ffin ddwyreiniol y warchodfa.

Sut i fynd yno

Trowch oddi ar yr A4067 rhwng Parc Gwledig Craig-y-Nos a Phen-y-Cae, yna dilynwch y ffordd fach i fyny am tua milltir nes i chi ddod at Benwyllt. Cadwch i'r dde a pharcio wrth ymyl y chwarel segur.

Pentref agosaf

Pen-y-Cae

Cyfeirnod grid OS

SN866154