Priordy Llanddewi Nant Hodni

Mae adfeilion prydferth ac atgofus Priordy Llanddewi Nant Hodni wedi eu lleoli yn Nyffryn darluniaidd Ewias, yn agos at y Mynyddoedd Du. Yr adfeilion rhyfeddol hyn yw'r cyfan sy'n weddill o un o adeiladau canoloesol mwyaf mawreddog Cymru.

Yn gynnar yn y 12fed ganrif, tra'n hela yn Nyffryn Ewias, aeth yr uchelwr cyfoethog William de Lacy i gysgodi yn adfeilion capel Celtaidd Dewi Sant, a chafodd ei lethu gan ddefosiwn. Penderfynodd sefydlu priordy yma. Erbyn 1108 roedd eglwys fechan wedi cael ei hadeiladu a chymuned o fynachod Awstinaidd wedi ei sefydlu.

Ffynnodd y priordy a rhoddwyd llawer o dir a rhoddion iddo. Un o'r rhoddion oedd yr hawl i bysgota yn Llyn Syfaddan, ac o ganlyniad i hyn datblygodd y ffordd a elwir yn Rhiw Pyscod. Roedd pysgod oedd yn dal yn fyw, wedi eu lapio mewn brwyn gwlyb yn cael eu cludo dros y mynydd o Syfaddan i'r llynnoedd pysgod yn y fynachlog. Adeiladwyd llwybr arall, Rhiw Cwrw, i ddod â chwrw o Abbeydore i'r mynachod.

Does dim yn weddill o'r adeiladau gwreiddiol heddiw, gan fod ymosodiadau ar y gymuned o Saeson yn bennaf gan y bobl leol wedi gorfodi'r mynachod i gilio i Henffordd a Chaerloyw. Dinistriwyd yr adeiladau gwreiddiol.

Yn y 13eg ganrif, ail-sefydlwyd y priordy ac ail-adeiladwyd Eglwys y Priordy mewn modd mawreddog. O'r cyfnod hwn y daw'r adeiladau sydd i'w gweld heddiw. Mae'r ffenestri a'r mynedfeydd bwaog prydferth sydd wedi goroesi, er yn ddarniog, yn gliwiau i farwed a phwysigrwydd y safle hwn yn ei ddydd ac i ddefosiwn y mynachod duwiol a ffynnodd yno.

Roedd Priordy Llanddewi Nant Hodni yn un o nifer o adeiladau mawreddog Cymru a ymosodwyd arnynt yn y 15fed ganrif gynnar, yn ystod gwrthryfel Tywysog Cymru Owain Glyndŵr, fel rhan o'i ymgyrch i gipio tir Cymreig yn ôl oddi wrth y Saeson. Yn ystod y cyfnod hwn o derfysg ciliodd rhan fwyaf o gymuned grefyddol Llanddewi Nant Hodni unwaith eto i Henffordd a Chaerloyw.

Erbyn cyfnod Diddymu'r Mynachlogydd, o dan y Brenin Harri VIII, dim ond pedwar Canon oedd ar ôl yn Llanddewi Nant Hodni. Gwerthwyd y safle am £160, rhoddwyd pensiwn o £8 yr un i'r Canoniaid, trodd yr adeiladau'n adfeilion a gadawyd iddyn nhw adfeilio am gannoedd o flynyddoedd.

Ym 1807, y bardd Walter Savage Landor oedd yn berchen ar y tir. Roedd ei fryd ar greu stad fawreddog i'w hun, The Sharples yn Llanddewi Nant Hodni. Plannodd nifer o goed ffawydd, castan a llarwydd, ac mae rhai ohonynt yn dal i sefyll heddiw. Serch hynny, roedd cymaint o wrthwynebiad lleol fel y rhoddodd y gorau i'r prosiect yn y diwedd, ac aeth i Sbaen. Prynwyd y stad oddi wrth ei deulu gan ffermwyr-denantiaid yn gynharach yn y ganrif hon.

Ymweld â Phriordy Llanddewi Nant Hodni

Mae'r safle bellach yn cael ei warchod gan Cadw. Mae e ar agor trwy gydol y flwyddyn, mae mynediad am ddim ac mae 'na faes parcio yno. Mae rhan o'r strwythur wedi cael ei adnewyddu ac mae bellach yn rhan o Westy Llanthony Priory.

Sut i gyrraedd yno

Mae Priordy Llanddewi Nant Hodni 14km i'r gogledd o'r Fenni ar y B4423 rhwng Llanfihangel Crucornau a'r Gelli Gandryll. Noder: Mae'r ffordd rhwng Llanddewi Nant Hodni a'r Gelli Gandryll yn gul, heb lawer o fannau pasio.

Y dref neu'r pentref agosaf

Llanfihangel Crucornau

Cyfeirnod Grid OS

Map Explorer OL13 neu Map Landranger 16 - SO288278

Amserau agor

10am-4pm bob dydd

Cysylltu

Cadw, ffôn: 01443 336000, www.cadw.wales.gov.uk

Cyfleusterau

Mae 'na fyrddau dadansoddi a phwynt gwybodaeth electronig yn y maes parcio. Mae'r siopau a'r tafarndai agosaf yn Llanfihangel Crucornau.

Toiledau

Mae 'na doiledau yn y prif faes parcio gan gynnwys tŷ bach ar gyfer pobl anabl.

Hygyrchedd

Mae arwyneb y maes parcio wedi ei wneud o garreg-lwch wedi ei chywasgu, a gall fod yn arw mewn mannau. Mae arwyneb y ddaear yn laswelltog ac anwastad. Mae'n rhaid defnyddio ambell ris er mwyn cyrraedd rhai rhannau. Gellir gweld rhai o'r adfeilion yn agos at y maes parcio.