Llanymddyfri

Wedi ei lleoli ar ffin orllewinol y Parc Cenedlaethol, disgrifiwyd Llanymddyfri gan yr awdur teithio cynnar George Burrows fel 'y dref fach fwyaf pleserus i mi stopio ynddi'..

Mae'r dref yn fan canolog gwych i fwynhau gorllewin Bannau Brycheiniog. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer nifer o weithgareddau awyr agored gan gynnwys cerdded y Mynydd Du, beicio ar y ffordd, beicio mynydd yng Nghoedwig Crychan a Chwm Rhaeadr, a physgota yn yr Afon Tywi a Chronfa Ddŵr y Wysg .

Mae atyniadau lleol eraill yn cynnwys Llyn Brianne, yr argae uchaf ym Mhrydain (228 troedfedd, 91m o uchder), gafodd ei adeiladu yn y 1960/70au i ddarparu cyflenwad dŵr rheolaidd i Dde Cymru gyfan. Mae 'na nifer o deithiau cerdded hyfryd yn yr ardal. Mae Gwarchodfa Natur RSPB Dinas gerllaw yn goetir ac ardal afon heddychlon gyda llwybr bordiau gerllaw.

Tref farchnad a phorthmyn hynafol yw Llanymddyfri, ac mae hi wedi bod yn gartref i nifer o gymeriadau hanesyddol diddorol. Un o'r trigolion enwocaf yw Llywelyn ap Gruffydd, ac mae cerflun gloyw ohono'n sefyll drws nesaf i olion Castell Llanymddyfri ar ben y bryn. Roedd y lleoliad yn dyst i ymosodiadau a brwydrau treisgar yn ystod y canoloesoedd. Os ddringwch chi at y castell, cewch olygfeydd heddychlon dros y dref a'r Afon Bran.

Ymhlith trigolion diddorol eraill y dref mae'r 'Pêr Ganiedydd' William Williams Pantycelyn, a ysgrifennodd yr emyn enwog " Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd", sy'n cael ei ganu'n rheolaidd mewn gemau rygbi rhyngwladol; a'r Ficer Rhys Pritchard a gasglodd y gerdd ddylanwadol Cannwyll y Cymru, casgliad o ddysgeidiaethau barddonol a chanllawiau moesol.

Heddiw, gall ymwelwyr fwynhau nifer o gaffis ac ystafelloedd te yn y dref. Efallai y byddant hefyd yn cael eu temtio gan roddion a chrefftau lleol mewn siopau, yn ogystal â phrynu bwyd o safon uchel o siop y cigydd, deli a patisserie.

Mae gwaith y porthmyn yn rhan bwysig o hanes Llanymddyfri, a chyfrannodd y syrcas dros dro hon o ddynion ac anifeiliaid at bensaernïaeth y dref. Peidiwch â cholli Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri, sy'n cael ei chynnal bob mis Medi, ble mae posib gweld defaid byw yn rasio yn y strydoedd!


Mae gan Lanymddyfri hefyd bwll nofio, ac mae'n gartref i Goleg Llanymddyfri, ysgol annibynnol sydd wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol.
Mae'n hawdd cyrraedd Llanymddyfri ar yr A40 ac mae 'na hefyd wasanaethau trên rheolaidd ar Linell Calon Cymru rhwng yr Amwythig ac Abertawe, siwrne y byddai nifer yn ei hargymell.

Mae mwy o wybodaeth am Lanymddyfri a'r ardal o'i chwmpas ar gael o Ganolfan Dwristiaeth Llanymddyfri, sydd bellach hefyd yn gartref i Hwb Busnes newydd Llanymddyfri.

You might also be interested in...

    You might also be interested in...