Y Forwyn yn y Llyn a Meddygon Myddfai

Mae’n bosibl dadlau mai pentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin yw man geni meddygaeth fodern. Yn ôl y chwedl, roedd Meddygon Myddfai, sef carfan o feddygon llysieuol yn byw ac yn gweithio yma yn yr 11eg a’r 12fed ganrif. Roedd rhai yn credu bod ganddynt bwerau hudol.

Mae Llyfr Coch Hergest sy’n dyddio o’r 14eg ganrif yn un o’r llawysgrifau mwyaf hynafol mewn bodolaeth. Ynddo, ceir chwedl sy’n dechrau ger Llyn-y-Fan Fach, y llyn islaw copa’r Mynydd Du yng ngorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r un chwedl yn cael ei hadrodd yn y Mabinogion, sef casgliad o chwedlau gwerin Cymraeg sy’n dyddio o’r canol oesoedd.

Yn ôl y stori, gwelodd ffermwr o Sir Gaerfyrddin ferch ifanc hardd yn eistedd ar graig yn Llyn-y-Fan Fach. Ar ôl ceisio ei hudo deirgwaith, cytunodd y byddai’n ei briodi cyn belled â’i fod yn addo y byddai’n ei thrin yn dda. Pe byddai’n ei tharo deirgwaith heb achos, dywedodd y byddai’n dychwelyd i’r llyn.

Addawodd y ffermwr ac fe aeth â hi i lawr i bentref Myddfai i fyw yn wraig iddo.

Daeth yn amser bedyddio eu plentyn cyntaf. Roedd y ffermwr wrth ei fodd, ond roedd y wraig yn crio oherwydd gwyddai wrth reddf y byddai’r haul yn niweidio’r baban. Gan nad oedd yn deall y rheswm dros ei chrio, tarodd y ffermwr hi’n ysgafn i’w chysuro.

Yn ddiweddarach, criodd mewn priodas oherwydd gwyddai y byddai’r priodfab yn marw cyn hir. Unwaith eto, tarodd y ffermwr hi’n ysgafn i’w chysuro.

Yn olaf, chwarddodd yn iach yn angladd y priodfab oherwydd gwyddai fod ei ddioddefaint drosodd, ac roedd hi’n falch drosto. Unwaith eto, tarodd y ffermwr hi’n ysgafn.

Ar unwaith, rhedodd y ferch yn ôl i’r llyn. Ni allai’r ffermwr torcalonnus ei rhwystro, a bu’n rhaid iddo fagu eu tri mab hebddi.

Wrth i’r meibion dyfu, daeth yn amlwg eu bod wedi etifeddu gwybodaeth a phwerau hudol eu mam. Gallent fod wedi defnyddio’r pwerau hyn i ddod yn rhyfelwyr gwych, ond eu dewis oedd dod yn feddygon iachaol, y cyntaf mewn llinach hir.

Gan ddefnyddio cynhyrchion naturiol a gasglwyd o’r ardal, byddai Meddygon Myddfai yn creu triniaethau a meddyginiaethau ar gyfer cur pen, llosg haul, chwyddiadau a thisian. Mae rhai o’r meddyginiaethau hynafol hyn wedi’u cofnodi yn Llyfr Coch Hergest. Eiddo Coleg yr Iesu, Rhydychen yw’r llyfr ei hun, ac fe’i cedwir yn Llyfrgell Bodley.

Mae rhai yn credu bod chwedl arall enwog yn deillio o chwedl Llyn-y-Fan Fach – chwedl Arthuraidd Y Forwyn yn y Llyn a Caledfwlch.