Y Gelli Gandryll

Tref fach dlos yw'r Gelli Gandryll sydd wedi ei hamgylchynu gan yr afon Wysg i'r gogledd, gyda'r Mynyddoedd Du a Bannau Brycheiniog i'w de a'r gorllewin, a thir amaethyddol ffrwythlon Swydd Henffordd i'r dwyrain. Mae'n cael ei hadnabod fel tref y llyfrau, ac mae'n enwog am yr ŵyl flynyddol. Ond mae hi hefyd yn fan canolog gwych i fynd ar deithiau cerdded, gan fod dau lwybr cenedlaethol, llwybr Clawdd Offa a llwybr Dyffryn Wysg yn pasio trwy'r dref, ac mae ardal wledig warchodedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar stepen y drws.

Roedd hi unwaith yn dref farchnad dawel a oedd yn enwog dim ond am fod y dyddiadurwr Francis Kilvert yn byw gerllaw am bron i ddau ddegawd yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd 'na hefyd gyfreithiwr lleol a laddodd ei wraig yn nechrau'r 20fed ganrif trwy roi chwynladdwr yn ei brecwast.

Yn y 1960au, prynodd dyn ifanc, Richard Booth, gastell y Gelli, a chyhoeddodd fod y dref yn wladwriaeth annibynnol, ac yntau'n frenin arni. Gyda'i goron gardbord a theyrnwialen wedi ei gwneud o dap pelen, roedd ei fryd ar roi'r dref ar y map. Trwy ryw ryfedd wyrth, fe lwyddodd. Fe'i gwnaeth yn enwog fel 'tref y llyfrau'.

Heddiw mae'r Gelli Gandryll yn lle cyfeillgar, bywiog ac yn ferw o brysurdeb, ac, nid yw'n syndod fod y dref hon sydd â chymaint o hunaniaeth a chysylltiadau llenyddol, wedi ei gefeillio â Timbuktu, sydd ei hun yn berchen ar y llyfrgell Islamaidd hynaf yn y byd.

Mae'r Gelli wedi hen arfer â chroesawu ymwelwyr sy'n cael eu denu gan lyfrau a chan yr ŵyl lenyddol flynyddol. Galwodd yr Arlywydd Clinton y dref, a fu'n siarad yno yn 2001, yn 'Woodstock y meddwl'. Mae 'na ddwsinau o siopau llyfrau ail-law yno. Mae 'na hefyd amrywiaeth dda o siopau ymarferol yn ogystal â siopau henebion a chelf a chrefft o safon uchel, heb anghofio boutiques ffasiynol a siopau dillad gwledig ymarferol. Ar ddyddiau Iau mae stondinau'r farchnad sydd wedi eu gwasgaru o gwmpas y dref yn boblogaidd iawn, a'r strydoedd yn llawn pobl yn sgwrsio.

Does dim sôn am siopau rhoddion yn gwerthu tlysau, na chwaith am systemau traffig unffordd a meysydd parcio aml-lawr. Mae 'na lond gwlad o dafarndai, caffis, tai bwyta a llefydd pryd-ar-glud ar gael, ac mae 'na ddigon o ddewis o lety yn y dref a'r ardal wledig gyfagos.

Mae gan Y Gelli atyniadau mwy egnïol hefyd. Mae'n fan canolog da i gerdded cefn gwlad gwarchodedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - yn 886 metr, Pen-y-fan yw copa uchaf de Prydain. Mae Llwybr Clawdd Offa, sy'n ymestyn 173 milltir ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr rhwng Prestatyn a Chlogwyni Sedbury ger Cas-gwent, yn rhedeg trwy'r Gelli. Gallwch hefyd ganŵio ar yr afon Gwy, hwylio ar Lyn Syfaddan (Llan-gors), beicio mynydd oddi-ar-y-ffordd, dringo creigiau, ogofa, pysgota a gleidio.

Does dim llawer o gyfleusterau trafnidiaeth, ond gyda gwasanaeth bws rheolaidd, gallwch gynllunio teithiau cerdded unffordd. Yn yr haf mae 'na fysiau Bannau arbennig ar ddyddiau Sul a Gwyliau’r Banc ar gyfer cerddwyr, ac mae'r ardal gyfan yn addas ar gyfer beiciau a cheir trydan.

A phan mae'r haul yn machlud a'r awyr yn dywyll, mae'r sêr yn ymddangos a gallwch eu gweld nhw go iawn. Dydy hynny ddim yn digwydd mewn llawer o lefydd y dyddiau yma.


Efallai y bydd gennych hefyd ddiddordeb yn...

    You might also be interested in...