Y Gwaith Powdr Gwn


       


Gwyrth beirianyddol yn ei ddydd!

 
Trwy ddefnyddio grym llif cyflym yr afon Mellte, roedd y cyn waith Powdr gwn yn gwneud ac yn cyflenwi powdr gwn i chwareli a mwyngloddiau De Cymru. Fe wnaeth drawsnewid bywydau’r rheini oedd yn byw ac yn gweithio yno ac mae’n hanes o arloesedd, uchelgais a llwyddiant.
 
Heddiw mae’r safle yn ddyffryn coediog heddychlon, yn gyfoethog o redyn a mwsoglau ac yn gartref i amrywiaeth anhygoel o rywogaethau ystlumod. Wrth fynd am dro ar hyd yr hen dramffordd fe welwch adfeilion adeiladau, twneli, dyfrffosydd, coredau ac olwynion dŵr. Dyma beth sy’n weddill ar ôl dinistrio’r safle’n fwriadol pan gaeodd y gwaith yn 1931.
 
Gan fod nifer o’r adeileddau hyn mewn cyflwr peryglus rydym yn cynnal gwaith brys o gyfnerthu a gwarchod fel rhan o’r ‘Prosiect Amserau Ffrwydrol’ sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd y rhan fwyaf o’r safle yn parhau ar agor yn ystod y prosiect ac mae croeso i chi fod ynghlwm (dolen i’r dudalen prosiect) ac ymuno â ni wrth i ni ddarganfod mwy am y dynion a’r menywod a fu’n gweithio yma. Dysgwch am y mesurau iechyd a diogelwch ‘gwrth-ffrwydrad’ a’r cyfraniad a wnaeth y diwydiant i ddiwydianeiddio De Cymru.

Cynllinio eich ymweliad i'r Waith Powdr Gwn


Beth sydd i’w weld yng Ngwaith Powdr Gwn Glyn-Nedd

Ar ôl nifer o flynyddoedd o weithredu’n llwyddiannus, rhoddwyd y gorau i gynhyrchu yn y ffatri pan gafodd powdr du ei wahardd rhag cael ei ddefnyddio mewn pyllau glo, ac felly doedd dim cymaint o alw amdano. Erbyn 1940, nid oedd y safle’n cael ei ddefnyddio o gwbl, ac roedd nifer o’r adeiladau wedi llosgi allan ac wedi’u dinistrio oherwydd y risg o ffrwydradau damweiniol. Fodd bynnag, roedd digon o’r adeiladau wedi goroesi i roi syniad o ba mor fawr oedd y ffatri.

Gallwch gerdded ar hyd llwybr fflat a gwastad, sef gweddillion un o’r tramffyrdd a ddefnyddiwyd i gludo defnyddiau o un man i’r llall. Mae’n arwain heibio i weddillion adeiladau’r ffatri. Mae rhai ohonynt yn anodd eu gweld oherwydd eu bod wedi gordyfu ac wedi’u cuddio yn y coed. Mae rhai gweddillion eraill yn fwy amlwg, fel y Tŷ Sychu concrit mawr lle roedd cacennau o bowdr mân yn cael eu malu gan y morthwylion pren.

Roedd y peiriannau’n cael eu cadw mewn adeiladau cerrig a gwaith maen. Byddwch yn sylwi bod gan nifer o’r rhain dair wal. Mae hyn oherwydd y byddai’r to a’r bedwaredd wal wedi’u gwneud o bren er mwyn caniatáu i unrhyw ffrwydrad symud i fyny ac allan o’r adeilad a chyfyngu ar unrhyw ddifrod i’r peiriannau drud.

Mae hefyd nifer o weddillion helaeth yn ymwneud â’r system reoli dŵr gan gynnwys cafnau, dyfrbontydd, coredau a phibellau hydrolig.

Wrth i chi gerdded drwy’r safle, dychmygwch sut roedd hi i bobl oedd yn gweithio yma. Yn ei ddydd roedd y Gwaith Powdr Gwn yn cyflogi 65-70 o bobl, dynion yn bennaf. Roedd yn waith peryglus a brwnt gyda diwrnodau gwaith hir, o 7am tan 5pm. Er hyn, doedd y gweithwyr ddim yn ennill cymaint o gyflog â’r rheini mewn diwydiannau lleol eraill. Fodd bynnag, roedd y cwmni’n darparu llety i’r staff a thŷ ysgol yn y pentref i addysgu plant y gweithwyr. Roeddent hefyd yn caniatáu i weithwyr adeiladu a chadw gerddi ar safle mawr y gwaith powdr gwn.

Y Llwybr Powdr

Mae’r llwybr sain hwn, a gynhyrchwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn datgelu pa fath o fywyd oedd gan y bobl a oedd yn gweithio yn y Gwaith Powdr Gwn. Cliciwch yma i’w lawrlwytho fel ffeil mP3.
 

Dysgwch mwy am hanes y waith powdr gwn