Bryngaer Oes Haearn Garn Goch

Mae nendwr ei ddydd yn destament i bŵer a statws y rhai a'i hadeiladodd.





Yn un o'r caerau Oes Haearn mwyaf yng Nghymru gyfan, mae Garn Goch yn lle bythgofiadwy sy'n dod â phŵer a dyfeisgarwch yr Oes Haearn yn fyw.

Mae Garn Goch, sef anheddle ger tref Llandeilo, yn teimlo'n dawel ac anghysbell y dyddiau hyn. Ond tua 2500 o flynyddoedd yn ôl byddai'r pen bryn hwn wedi bod yn ganolfan ffyniannus, ble roedd pobl yn byw ac yn gweithio, roedd bwyd yn cael ei dyfu ac roedd nwyddau'n cael eu cynhyrchu a'u masnachu. Roedd ei hamddiffynfeydd carreg, heddiw yn llethr mawr rwbel, yn sefyll yn rhagfuriau â wyneb garreg 10m o uchder a 5m o drwch, a byddent wedi cynnig cysgod rhag peryglon naturiol fel bleiddiaid gwyllt a rhag pobl eraill mewn cyfnod o ryfela.

Roedd 'na ddwy fryngaer ar y safle. Eisteddai caer lai, Y Gaer Fach, yng nghysgod ei chymydog llawer mwy a mwy trawiadol, Y Gaer Fawr.

Mae'r Gaer Fach yn amgylchynu ardal o oddeutu 1.5 hectar, ac mewn stad ddinistriol. Ymddengys fel ei bod heb ei gorffen, efallai ei bod wedi cael ei gadael ynghanol cyfnod o ail-adeiladu na chafodd fyth ei gwblhau. Mae'r gaer hon yn fach o'i chymharu â'r Gaer Fawr gerllaw, gyda'i rhagfuriau enfawr ac o leiaf chwe gwahanol fynedfa. Yn mesur tua 11.2 hectar, dyma un o fryngaerau mwyaf Cymru gyfan.

Sut oedd bywyd yma?

Er bod gwahanol ddadansoddiadau o'r dystiolaeth a adawyd yn y safle ysblennydd hwn gan bobl o’r Oes Haearn, does neb yn siŵr o union bwrpas yr aneddiadau yma. Ai strwythurau amddiffynnol i'w defnyddio ar gyfer diogelwch mewn adegau cythryblus a rhyfeloedd yn unig oedden nhw? Ai trefi ble roedd pobl yn byw'n barhaol a chanolfannau masnachu oedden nhw, neu ganolfannau crefyddol a defodol? Oedd ganddyn nhw sawl pwrpas ac oedden nhw'n wahanol bethau i wahanol bobl?

Beth am ymweld â'r safle, er mwyn gweld drosoch eich hun ac ymuno yn ein dadansoddiad a'n damcaniaeth am swyddogaeth yr etifeddiaeth o’r Oes Haearn fawreddog hon?

Beth ddigwyddodd nesaf?

Yn 70OC cyrhaeddodd y Rhufeiniaid Ddyffryn Tywi, un o'u llwybrau gorymdeithio pwysicaf yng Nghymru. Mae'n rhaid bod trigolion Garn Goch wedi brwydro'n galed i amddiffyn eu tir.

Ond yn anochel cwblhaodd y Rhufeiniaid eu concwest ac o dipyn i beth daeth cymunedau Cymru'n rhan o dalaith imperialaidd Britannia, neu Prydain Rufeinig, a fyddai'n parhau am y 300 mlynedd nesaf.

Ymweld â Garn Goch

Mae'r ddwy gaer yn hawdd i'w cyrraedd o faes parcio bychan ar waelod y bryn, a bydd y llwybr tra sathredig yn mynd â chi'n gyntaf i'r Gaer Fach ac yna ymlaen i'r Gaer Fawr.

Wrth i chi gerdded y llwybr at y caerau dychmygwch y bobl niferus sydd wedi gwneud y daith flynyddoedd maith yn ôl, i ymweld â'r gaer, i ymochel, i fasnachu, i ddod o hyd i fwyd a dŵr, neu i gysgodi gyda'r nos ar eu taith.

Dychmygwch olygfeydd, synau ac arogleuon cymuned brysur Oes yr Haearn 2500 o flynyddoedd yn ôl - plant yn chwarae, cŵn yn cyfarth, dynion a merched yn malu ŷd, gwehyddu basgedi, gofalu am anifeiliaid fferm neu'n taro bargen o gwmpas aelwyd.

Gallai cannoedd o bobl fod wed byw yn Y Gaer Fawr, y gaer fwyaf o'r ddwy yn Garn Goch. Yn ogystal â bod yn gymuned brysur roedd hi hefyd yn anheddiad amddiffynnol gyda golygfeydd panoramig yn sicrhau y byddai'n anodd i elynion ymosod yn ddirybudd.

Ond doedd y trigolion ddim am fentro dim. Adeiladon nhw wal gerrig, neu ragfur enfawr, o gwmpas eu haneddiad er mwyn atal goresgynwyr. Dychmygwch yr ymdrech anhygoel a gymerodd hyn.

Mae'r ddwy gaer ar ben bryn ac mae'r golygfeydd oddi yno yn anhygoel. Dylai pob ymwelydd gymryd amser i brofi'r golygfeydd yma a chofio bod ein cyndeidiau wedi sefyll yn yr un man 2500 o flynyddoedd yn ôl ac wedi gweld golygfa debyg iawn; heb y ffiniau caeau modern, ffermydd a phontydd, a dychmygu tirwedd o’r Oes Haearn, yr afon yn llifo i lawr dyffryn agored a'r bryniau'n codi yn y pellter, efallai ambell i anheddiad gwastadol o dai crynion wedi eu gwasgaru, corlannau anifeiliaid a chaeau wedi eu trin. Mae hwn yn fan ble mae'r gorffennol yn nes nag y sylweddolwch chi.

Peidiwch â chyffwrdd y cerrig!

Mae'n hawdd difrodi'r carnedd cerrig a rhagfuriau sy'n gwneud Garn Goch yn un o aneddiadau’r Oes Haearn hwyr mwyaf trawiadol Cymru. Gallwch chi ein helpu ni i warchod y Gofadail Hynafol Restredig hon gan adael cerrig ble maen nhw a pheidio ag adeiladu llochesau yn y rhagfuriau.

Darganfod mwy

Am fwy o wybodaeth am Garn Goch, lawrlwythwch ein map safle a'n taflen fel pdf:

Garn Goch Hill Fort (English,  8MB)
Bryngaer y Garn Goch (Cymru,  8MB)