DYFFRYN TALYBONT

Yn ôl troed y bardd Henry Vaughan

 
Taith gerdded hamddenol drwy dirlun a ysbrydolodd y bardd, yr awdur a’r ffisegydd o’r 17eg ganrif, Henry Vaughan, gan gynnwys ychwanegiadau diweddarach fel y gamlas o’r 19eg ganrif a’r ffordd i dramiau.               
 

Manylion pwysig

Hyd: Ychydig llai na milltir (1½ km)
Amser: Tua 1½ awr 
Dechrau a gorffen: Ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, Talybont-ar-Wysg
Cyfeirnod Map OS: SO 114226
Map OS: Explorer OL12 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Lluniaeth yn Nhalybont-ar-Wysg (tafarndai a siop leol)
 

Ar hyd y daith       

Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu 
Dyma un o’r newidiadau mwyaf i ddyffryn y Wysg ers cyfnod Vaughan. Adeiladwyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu rhwng 1797 ac 1812 ac yn wreiddiol roedd yn mynd bob cam o Aberhonddu i Gasnewydd. Erbyn hyn, mae’n cyrraedd cyn belled â Phont-y-moel i’r de o Bontypŵl. Mae’n anodd dychmygu gorffennol diwydiannol y llwybr dŵr llonydd yma fel llwybr masnach prysur iawn. Yn lle badau’n cludo glo a chalchfaen, mae’r gamlas 32 milltir (51km) fflat i raddau helaeth bellach yn baradwys heddychlon i gychod pleser.              
 
Yr Allt
Edrychwch i’r dwyrain ar draws y dyffryn o Dalybont ac fe welwch chi Allt-yr-Esgair, sy’n cael ei hadnabod gan amlaf, yn syml, fel Yr Allt. Dyma fryn gwyrdd gyda phentref Llansantffraid wrth ei droed. Yno y ganed Henry Vaughan a’i efaill Thomas yn 1621. Arhosodd Henry yn yr ardal gydol ei oes ac mae wedi’i gladdu ym mynwent eglwys Llansantffraid. Roedd ei gartref yn ysbrydoliaeth fawr i’w waith ysgrifennu, yn enwedig ei gyfrol o farddoniaeth Olor Iscanus (‘Alarch y Wysg’ yn Gymraeg). Mae’r Allt yn cael ei chroesi gan ffordd Rufeinig ac ar ei chopa 393m mae bryngaer, yn dyddio o’r Oes Haearn o bosib.                 
 
Gerddi Vaughan
Roedd y rhain wedi’u plannu gyda pherlysiau a phlanhigion eraill y byddai Henry yn eu defnyddio yn ei arbrofion gwyddonol a meddygol. Mae Gerddi Vaughan yn llecyn hyfryd i aros ynddo a mwynhau’r arogleuon hyfryd a thawelwch cefn gwlad yr ardal. Mae yma ddigon o feinciau ac felly mae’n lle delfrydol i ymlacio gyda phicnic.
 
Tramffordd Bryn Oer (Seisnigwyd yn Brinore)
Adeiladwyd y dramffordd yn 1815 i gludo glo o’r pyllau ger Tredegar a chalchfaen o Drefil i fadau a oedd yn aros ar y gamlas. Arferai fod yn lle prysur - yn wahanol iawn i’r llecyn heddychlon sydd yma heddiw. Cyn i’r rheilffordd stêm gymryd eu lle, arferai ceffylau lusgo certi hanner tunnell i fyny’r allt - gyda disgyrchiant yn gofalu am y siwrnai yn ôl i lawr. Nawr mae’n llwybr poblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr, yn ymestyn am wyth milltir (13km) rhwng  Talybont-ar-Wysg a Threfil.
 
Afon Caerfanell
Efallai mai nid hon yw’r afon hiraf yn y byd ond mae afon Caerfanell wedi cael bywyd digon prysur. O’i tharddiad yn uchel i fyny yn y mynyddoedd, mae’n byrlymu i lawr drwy gyfres o raeadrau hardd cyn llifo i gronfa ddŵr Talybont. O’r fan honno mae’n llifo drwy dyrbin trydan dŵr cyn teithio drwy Dalybont ac ymuno ag afon Wysg.