Mynydd Illtud o’r Ganolfan Ymwelwyr

Comin rhagorol ac anheddiadau hynafol.

 
Taith gerdded hawdd ond gwerth chweil o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus. Ar hyd y daith, byddwch yn darganfod bywyd gwyllt i ryfeddu, golygfeydd panoramig a bryngaer o Oes yr Haearn.


Manylion pwysig

Hyd: Tua 2 ½ milltir (4.5km)
Amser: Tua 1 ½ awr
Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, Libanus
Cyfeirnod map OS: SN 978262
Map OS: OL12 Explorer (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Maes parcio, ardal chwarae, lluniaeth, toiledau
 

Ar hyd y daith


Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol
Hefyd yn cael ei adnabod fel y Ganolfan Fynydd, dyma’r lle i ddod ar gyfer poeth sy’n ymwneud â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd ein staff ymroddedig a gwybodus yn eich cynghori ar beth i’w wneud a’i weld, fel y byddwch yn siŵr o wneud y mwyaf o’ch ymweliad. Am fwy o syniadau, codwch ein taflen Beth i’w weld o Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol am £1. Byddwch hefyd yn darganfod gerddi hardd gyda golygfeydd godidog o’ r copaon cyfagos, ac Ystafelloedd Te sy’n cynnig prydau a phecynnau bwyd cartref blasus i gyflenwi eich taith.
 
Twyn y Gaer
Mae gweddillion bryngaer o Oes yr Haearn yn eistedd ar domen glaswelltog Tywyn y Gaer. O’r ychydig weddillion sydd ar ôl o’r strwythur hynafol, mae’n hawdd gweld pam y dewisodd ein cyndeidiau’r fan amddiffynnol hon i setlo. Mae golygfeydd llydan tuag at gopaon tyrog Pen-y-Fan a Chorn Du, a gellir hefyd gweld llethrau gogleddol o’r Mynydd Du ac afon droellog Wysg.
 
Comin Mynydd Illtud
Mae Mynydd Illtud yn un o nifer o diroedd comin a brynwyd yn 1984 gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i warchod a chadw’r dirwedd agored. Ni effeithir ar hawliau’r cominwyr. Cadwch eich llygaid yn agored am farcudiaid ac adar ysglyfaethus eraill yn troelli yn yr awyr, ynghyd ag ehedyddion, tinwennod a gloÿnnod byw hardd. Daw enw’r comin o Sant Illtud, cenhadwr Cristnogol Celtaidd ac athro Dewi Sant, nawddsant Cymru. Yn ôl y chwedl, mae Illtud wedi’i gladdu ar y comin, ddim ymhell o Ganolfan yr Ymwelwyr, ond credir yn awr bod ei fedd yn Llanilltud Fawr.
 

Am ddisgrifiad llawn o’r daith, cliciwch yma.