TAITH GERDDED AFON LLANYMDDYFRI

Y Dref ac Afon Tywi.

 
Dyma daith gerdded fer, rwydd ar hyd glannau gwyrddlas afon Tywi o ganol tref hanesyddol Llanymddyfri, tref Croeso i Gerddwyr.           


Manylion pwysig

Hyd: 2 filltir (3.2km)
Amser: Llai nag awr
Dechrau a gorffen: Canol tref Llanymddyfri
Cyfeirnod Map OS: SO 767343
Map OS: Explorer OL12 (cyfres 1:25 000)
Cyfleusterau: Canolfan ymwelwyr, maes parcio, siopau, caffis a thafarndai yn Llanymddyfri
 

Ar hyd y daith       

Canolfan Groeso a Chanolfan Dreftadaeth Llanymddyfri
Fel mae’r enw’n awgrymu, mae’n fwy na chanolfan ymwelwyr arferol. Yn ogystal â darparu cyfoeth o wybodaeth am ardaloedd gorllewinol a chanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys arddangosfeydd am hanes, diwylliant a chwedlau’r ardal. Dyma gyfle i ddysgu am Twm Siôn Cati, sef Robin Hood Cymru, yr emynydd enwog o Gymru William Williams Pantycelyn, Meddygon hynafol Myddfai a’r ‘Forwyn yn y Llyn’ yn Llyn y Fan Fach.
 
Eglwys y Santes Fair
Er bod yr adeilad hwn yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, nid yr eglwys restredig Gradd I hon yw’r adeilad hynaf i sefyll ar y llecyn yma. Arferai’r twmpath lle saif yr eglwys erbyn hyn fod yn gartref i gaer Rufeinig. Mae gweddillion yr adeiladwaith Rhufeinig i’w gweld o hyd yn y ddaear wrth edrych yn ofalus, a defnyddiwyd brics o’r gaer i adeiladu wal ddwyreiniol yr eglwys.          
 
Pont Dolauhirion
Mae pont Dolauhirion, pont o’r 18fed ganrif, yn ymestyn 30m ar draws afon Tywi mewn un bwa cain ac mae’n olygfa fendigedig. Mae man croesi wedi bod yma ers 1170, yn cysylltu Llanymddyfri â Chilycwm, ond adeiladwyd y fersiwn presennol yn 1773 gan y pensaer William Edwards. Roedd yn gyfrifol am nifer o bontydd cerrig un bwa eraill ledled Cymru ac mae un nodedig i’w gweld ym Mhontypridd.
 
Afon Tywi
Mae’r afon Tywi’n codi i’r wyneb ym Mynyddoedd y Cambrian ac yn llifo i Fae Caerfyrddin. Mae’n 75 milltir (121km) o hyd a dyma’r ail afon hiraf i fod wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yng Nghymru. Mae ei dyfroedd clir fel crisial yn fagwrfa i frithyll môr mawr – sewin fel maent yn cael eu galw yn y Gymraeg –ac felly mae’r afon yn llecyn poblogaidd ymhlith pysgotwyr. Hefyd, mae dyfroedd ffrwythlon y Tywi’n denu rhywogaeth arall sy’n hoff o bysgod. Mae poblogaeth gynyddol o ddyfrgwn yn galw’r afon yn gartref.
 
Crug y Castell
Mae gweddillion Castell Llanymddyfri, castell o’r 12fed ganrif, yn edrych i lawr dros ganol y dref o safle gwylio nodedig ar fryn serth a glaswelltog. Mae’n rhannu’r safle hwn gydag ychwanegiad mwy diweddar – cerflun dur gwrthstaen sgleiniog o Lywelyn ap Gruffydd-Fychan. Cafodd y tirfeddiannwr o Sir Gaerfyrddin ei ddienyddio yn Llanymddyfri yn 1401 gan Harri’r IV am gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn trefn Lloegr.